Coronafeirws: gwybodaeth a chymomrth i bobl Cymru

Mae gan bobl Cymru nifer o gwestiynau am coronafeirws a’u hawliau cyflogaeth, budd-daliadau, cymorth busnes, teithio, bwyd, manwerthu, canslo trefniadau, addysg a llawer mwy. Mae Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn cael llawer iawn o’r ymholiadau hyn.

Mae Gwasnaeth Ymchwil y Senedd wedi casglu ynghyd rhai lincs defnyddiol i wybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru – fedrwch chi dod o hyd i’r gwybodaeth yna trwy cliwch y linc yma.

Isod rydw i wedi nodi manylion cyswllt nifer o asiantaethau allai fod yn gymorth i chi yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Os oes cyswllt ddim yna, ac fe hoffech i ni ei ychwanegu, cysylltwch hefo fi trwy ebost ar rhun.apiorwerth@cynulliad.cymru, neu ffoniwch fy swyddfa ar 01248 723599 ac bydden ni yn hapus i helpu chi hefo hwn neu unrhyw fater arall.

☎️BUSINESS WALES: https://businesswales.gov.wales
?PUBLIC HEALTH WALES: https://phw.nhs.wales
?MONEY ADVICE SERVICE: https://www.moneyadviceservice.org.uk/…/mortgage-payment-ho…
?ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL: https://www.anglesey.gov.uk/…/Covid-19-Coronavirus-informat…
?WALES COUNCIL FOR VOLUNTARY ACTION: https://wcva.cymru/emergency-fast-track-loans/
?ACAS: https://www.acas.org.uk/coronavirus
?NORTH WALES FIRE SERVICE: https://www.nwales-fireservice.org.uk/home/?lang=en-gb
?NORTH WALES POLICE: https://www.north-wales.police.uk
?FUW: https://fuw.org.uk/en/
?NFU: https://www.nfumutual.co.uk
?DŴR CYMRU: http://welshwater.co.uk
⚡️SCOTTISH POWER: https://www.scottishpower.co.uk
?BT: https://business.bt.com/coronavirus-support/
?CHILDREN’S COMMISSIONER: https://www.childcomwales.org.uk/coronavirus/
✈️CIVIL AVIATION AUTHORITY: https://www.caa.co.uk/…/Guidance-on-consumer-law-for-airli…/
?TRANSPORT FOR WALES: https://tfwrail.wales/covid-19
?ASSOCIATION OF BRITISH INSURERS: https://www.abi.org.uk/products-and-issues/…/coronavirus-qa/
?DWP: https://www.gov.uk/…/coronavirus-support-for-employees-bene…
?AGE CYMRU: 08000 223 444
?MIND: https://www.mind.org.uk/inf…/coronavirus-and-your-wellbeing/
?CITIZENS ADVICE: 01407 762 278 / angleseyCA@gmail.com
?OLDER PEOPLE’S COMMISSIONER: https://olderpeoplewales.com/…/Joint_statement_on_COVID-19_…
?SHELTER CYMRU: 08000 495495
⚡️OFGEM: ofgem.gov.uk/coronavirus

Mae Rhun ap Iorwerth AC yn gwisgo pinc yng Nghynulliad Cymru i gefnogi prif ddigwyddiad codi arian Breast Cancer Now, Gwisgwch Binc

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn ddarn o binc at y dillad arferol i gefnogi digwyddiad codi arian pinc Breast Cancer Now sy’n cael ei gynnal ddydd Gwener 18 Hydref.

Ers cael ei lansio yn 2002, mae Gwisgwch Binc wedi codi dros £33,000,000. Mae Rhun ap Iorwerth AC yn galw ar i’w hetholwyr ymuno ag ef/hi, drwy gofrestru ar gyfer Gwisgwch Binc a helpu i sicrhau ymchwil i ganser y fron sy’n achub bywydau a chymorth newid bywyd i’r rhai y mae’r clefyd yn effeithio arnynt.

Mae Tracey Williams, 58, o Gasnewydd yn fam i ddau sy’n byw gyda chanser eilaidd y fron na ellir ei wella, ac ymunodd â Mr ap Iorwerth yng Nghynulliad Cymru yng Nghaerdydd.
Wrth drafod pam mae’n cefnogi diwrnod Gwisgwch Binc eleni, meddai Tracey:

‘”Mae’r elusen wedi fy nghefnogi ers i mi orffen triniaeth ar gyfer canser sylfaenol y fron yn 2010, ac maent wedi parhau i’m cefnogi a’m helpu drwy ddiagnosis eilaidd canser y fron. Faswn i ddim yn gallu byw fy mywyd cystal ag yr ydw i nawr heb eu cefnogaeth barhaol a’r wybodaeth y maen nhw’n ei darparu.

“Mae Gwisgwch Binc yn ffordd wych o gael hwyl a chodi arian i’r elusen hollbwysig hon, a helpu i gefnogi pobl fel fi sydd wedi dioddef o ganser y fron.”

Gall unrhyw un ymuno a Gwisgwch Binc. Bydd rhai pobl yn dewis gwerthu cacennau, tra bydd eraill yn dewis trefnu raffl a bydd rhai yn trefnu diwrnod gwisg ffansi yn eu hysgol neu weithle. Ni waeth sut y dewisodd pobl ei wisgo’n binc, bydd yr holl arian a godir yn helpu i ariannu ymchwil a chymorth hanfodol ym maes canser y fron.

Meddai Rhun ap Iorwerth AC:

“Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 2,877 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron ac mae dros 577 o fenywod yn marw o ‘ r clefyd. Dyna pam rwy’n annog fy etholwyr i ymuno â’r diwrnod Gwisgwch Binc ar ddydd Gwener 18 Hydref.

“Mae’r arian a godir gan y digwyddiad gwych hwn yn cael effaith mor fawr, gan alluogi Breast Cancer Now i ariannu ymchwil a chefnogaeth hanfodol i’r rheiny sy’n byw gyda diagnosis. Gobeithio y bydd pawb yn ei gwisgo’n binc yr Hydref hwn ac yn cefnogi’r achos pwysig hwn. ”
Meddai’r Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Gofal Canser y Fron a Breast Cancer Now:

“Mae canser y fron yn effeithio ar gynifer ohonom o hyd, a’n nod fel elusen erbyn 2050 yw y bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw, ac yn cael eu cefnogi i fyw’n dda. Mae’r arian a godir drwy ei wisgo’n binc mor hanfodol i hyn, gan ein helpu i ariannu ymchwil hanfodol i ganser y fron a chymorth i’r rhai y mae’r clefyd yn effeithio arnynt.

“Drwy wisgo pinc, rydym yn gobeithio y bydd Rhun ap Iorwerth yn annog mwy o bobl i wisgo pinc ar 18 Hydref ac yn ein helpu i barhau i ariannu ymchwil a chymorth hanfodol ym maes canser y fron. ”

Gall unrhyw un ymuno a Gwisgwch Binc. Bydd rhai pobl yn dewis gwerthu cacennau, tra bydd eraill yn dewis trefnu raffl a bydd rhai yn trefnu diwrnod gwisg ffansi yn eu hysgol neu weithle. Ni waeth sut y dewisodd pobl ei wisgo’n binc, bydd yr holl arian a godir yn helpu i ariannu ymchwil a chymorth hanfodol ym maes canser y fron.

Ym mis Ebrill 2019, unodd Gofal Canser y Fron a Breast Cancer Now i greu elusen gynhwysfawr gyntaf y DU ym maes canser y fron, yn unedig o amgylch yr uchelgais a rennir y bydd pawb sy’n datblygu canser y fron erbyn 2050 yn byw, ac yn cael cymorth i fyw’n dda. Bydd pob rhodd Gwisgwch Binc yn helpu tuag at y nod hwn.

Gwisgwch Binc ar 18 Hydref a chodwch arian ar gyfer ymchwil a chymorth canser y fron. Ewch i wearitpink.org i gofrestru a hawlio eich pecyn codi arian am ddim.

Dyddiadur Profiad Gwaith – Ela Rawling

“Roedd hi’n wythnos ddifyr dros ben, a rydw i wedi dysgu cymaint am sut beth fyddai gweithio i’r Cynulliad, a wedi mwynhau fy hun yn ofnadwy.” – Ela Rawling Heywood, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

01/07/19 – Ar ol cyrraedd y swyddfa dydd Llun ges i gychwyn ar wneud gwaith achos, oedd yn ymwneud a mynediad merch ifanc gydag anabledd i addysg leol. Cefais eistedd mewn cyfarfod ynglyn a ffibr broadband a’r opsiynau i bobl sydd yn byw mewn pentref ble nad oes cyswllt cryf. Wedi hynny daeth cwyn i mewn ynglyn a diffyg offer mewn lleoliad cyhoeddus. Cafwyd canlyniad llwyddiannus i’r broblem yma at ddiwedd yr wythnos.

02/07/19 – Teithiais i Gaerdydd ar y nos Lun, er mwyn cael profiad gwaith yn y Cynulliad am ddau ddiwrnod. Mi es i gyfarfod ynglyn a dyfodol cyllidol i ddechrau, ac yna paratoi pwyntiau allai fod yn ddefnyddiol i Rhun at y Siambr. Ar ol cinio dyma alw heibio dau ddigwyddiad galw-mewn, y cyntaf ar gyfer dysgwyr Cymraeg a’r ail efo cwmni Morlais, sydd wedi ey lleoli yma yn Môn. Mi wnes i hefyd eistedd mewn ar gyfarfod ynglyn ag ynni Niwclear. Ar ol cyrraedd yn ôl i’r swyddfa mi wnes i greu gwahoddiadau ar gyfer Cyfarfod y Grwp Trawsbleidiol ar Gymru Rhyngwladol, cyn gorffan diwrnod diddorol iawn.

03/07/19 – Dydd Mercher oedd fy diwrnod olaf yn y Cynulliad, ac yn anffodus doedd Rhun ddim yn gallu bod yna am ei fod mewn Angladd. Ond cafais barhau gyda’r gwahoddiadau, a gwneud ymchwil am Tecwyn Jones sef dyn o Ynys Mon oedd wedi gweithio i NASA, yn barod ar gyfer araith 90 eiliad Rhun.

04/07/19 – Ar y dydd Iau yn Llangefni mi ddechreuais trwy ddraftio e-bost ar gyfer rhywyn oedd yn dymuno derbyn llythyrau Cymraeg, dim Saesneg gan yr Ysbyty. Bues I’n ymateb I wahoddiadau ar ran Rhun ap Iorwerth a drafftio llythyrau llongyfarchiadau.

05/07/19 – Ar fy niwrnod olaf, bues i’n parhau i ddrafftio llythyrau llongyfarch cyn mynd i Gymhorthfa yn Biwmares. Mae Rhun yn cynnal Cymhorthfeydd bob wythnos ar hyd a lled yr Ynys er mwyn cael sgwrs efo etholwyr a cheisio datrys problemau.

Blog Profiad Gwaith – Iwan Kellett

Fy enw yw Iwan Kellett dwi’n myfyriwr chweched ddosbarth yn Ysgol Syr Thomas Jones. Dros yr wythnos o 17eg i’r 21ain o Fehefin cefais gyfle i fynd ar brofiad Gwaith i Swyddfa Etholaeth Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn, roeddwn yma am 3 diwrnod o’r wythnos. Am y ddau ddiwrnod arall roeddwn es I Swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Dŷ Hywel, Caerdydd.

Felly, ar fy niwrnod cyntaf roeddwn yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni. Yn syth bin synnais yn weld yr amryw o waith a oedd yn digwydd. Yn y bore, aethom i ymweld arddangosfa wych yn Hwb MENCAP yn dangos portreadau o ddefnyddwyr yr Hwb. Wedyn yn ôl yn y swyddfa dysgais sut mae’r swyddfa yn rhoi cymorth a helpu etholwyr. Yn y pnawn fe aethom i gors goch yn Llanbedrgoch i ddysgu mwy am waith ymddiriedolaeth natur gogledd Cymru yno. Roedd yn anhygoel gwybod fy mod yn byw mor agos i ardal mor bwysig â byth wedi bod o’r blaen!

Am y ddau ddiwrnod nesaf, hedfanais lawr i Gaerdydd o Fali i fynd i’r swyddfa yn Dŷ Hywel. Roedd yna dyn arall ar fentoriaeth o’r enw Mo felly ar ôl cyrraedd aethom am tour o’r safle a cael gwybod mwy am sut mae y Senedd a Thŷ Hywel yn gweithio. Ar ol cyrraedd yn ol i’r swyddfa cyfieithiais dogfen i’w rhyddhau i’r wasg yna yn syth wedyn aethom i ymweld a’r BBC a oedd yn rhedeg digwyddiad i drafod materion darlledu yng Nghymru. Yna ar ol cinio es i eistedd a gwrando ar FMQ’s. Mae’n rhaid dweud, o’n i bach yn ‘starstruck’ yn cerdded o gwmpas yn weld aelodau’r cynulliad gwahanol. Ges i hyd yn oed fy llyfr wedi ei lofnodi gan Adam Price! Lawr yn Gaerdydd mi wnes i helpu ysgrifennu araith hefyd a mynd i gyfarfod i gymryd nodiadau.

Am weddill yr wythnos roeddwn yn ol yn Llangefni yn ymateb I poenau etholwyr ac yn trio eu helpu ac ysgrifennu e-bostau i drio rhoi cymorth a helpu nhw. O amryw fawr o faterion.

Mae’r wythnos wedi bod yn anhygoel! Dwi wedi dysgu gymaint o bethau ac mae’r profiad wir wedi fod yn wych! Mae wedi bod yn agoriad llygaid i’r holl waith mae’r swyddfa yn gwneud ac wrth gwrs yr aelod cynulliad. O wrando ar faterion cenedlaethol yn y siambr i glywed problemau lleol yn y swyddfa. I unrhyw un sydd yn meddwl am fynd ar brofiad Gwaith I’r swyddfa, gwnewch! Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, diolch i’r tîm am wythnos grêt.

Blog Profiad Gwaith – Ifan Jones

Dydd Llun 8fed o Orffennaf
Cefais ddiwrnod cyntaf gwych ar brofiad gwaith hefo’r Aelod cynulliad ar gyfer Ynys Môn- Rhun ap Iorwerth. Ysgrifennais lythyrau ac ateb amryw o e-byst. Roedd yn ddiddorol iawn cael gweld mwy amdan fywyd Aelod Cynulliad ac y tîm o’i amgylch. Aethon i gymhorthfa yn y prynhawn ym Menllech a chefais weld sut oedd sesiwn o’r fath yn gweithio, a blas ar y materion sydd yn rhaid i ddelio hefo o dydd i ddydd. Roedd yn ddiwrnod da iawn, a ddysgais llawer am y rôl.

Dydd Mawrth 9fed o Orffennaf
Roedd cael gweithio yn Nhy Hywel yn brofiad unigryw iawn. Treuliais y bore yn trefnu cymhorthfeydd ar gyfer mis Medi ,ac yn gwneud tasgau amrwyiol eraill fel ateb e-byst. Roedd yn brofiad ryfedd wrth rannu swyddfa hefo Aelodau Cynulliad eraill, ac yna eu clywed yn dadlau yn yr prynhawn yn ystod sesiwn cwestiynau’r Brif Wenidog Mark Drakeford.

Dydd Mercher 10fed o Orffennaf
Yn fy niwrnod olaf yn Nhy Hywel cefais wrando mewn ar sesiwn ddiddorol grwp traws-bleidiol yn sôn am Gymru ryngwladol yn y Pierhead. Hefyd ymchwiliais mewn i’r topig o ymestyn y Senedd i fwy o aelodau cynulliad , ac i’r Cymro a weithiodd I NASA wrth gael yr americanwyr cyntaf ar y lleuad sef Tecwyn Roberts.

Dydd Iau 11fed o Orffennaf
Yn ôl yn y swyddfa yn Llangefni cefais gwblhau ffurflen cais i’r ombwdsmon a oedd yn ddifyr iawn wrth ddarganfod mwy am y brosesau pellach all ei gymryd gan aelod cynulliad er mwyn helpu eu etholwyr.

Dydd Gwener 12fed o Orffennaf
Ar fy niwrnod olaf ymwelais a’r canolfan technoleg bwyd yn Llangefni, a chael gweld y cyflysterau gwych sydd yno er mwyn cwmniau newydd , ac yn y prynhawn cefais agoriad llygaid wrth ysgrifennu lythyr i’r wenidog iechyd Vaughan Gething , roedd hyn yn enghraifft arall o ddysgu amdan broses all aelod cynulliad ei wneud er mwyn helpu ei etholaeth. Felly yn edrych yn ol ar yr wythnos, cefais amser dda iawn ac rwyf wedi dysgu llawer o bethau newydd. Hoffwn ddiolch i bawb am wythnos wych.

BLOG: Realiti Brexit

Fe wyddwn nad oedd pethau’n mynd yn dda i’n hymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pan ymwelais ag ysgol yn f’etholaeth yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrch. Nid oedd a wnelo’r ymweliad â’r refferendwm, ond daeth y pennaeth ata’i a dweud:

“Mae mor anodd, tydi?!”

Gofynnais iddi beth oedd hi’n feddwl.

“Wel, y peth Ewrop yma ….. , mae mor anodd penderfynu a ddylan ni fod i fewn neu allan.”

Fedra’i ddim dweud wrthych pa ffordd y pleidleisiodd hi, ond i weithwraig broffesiynol ifanc fel hi, mewn ardal sydd yn amlwg wedi elwa o arian Ewropeaidd, lle nad yw mewnfudo o’r tu allan i’r DG yn broblem o gwbl, ei chael yn anodd penderfynu ar rywbeth oedd i mi yn bersonol – o’r un genhedlaeth a chefndir tebyg iddi hi yn hawdd dros ben penderfynu arno – yn profi i mi nad oeddem mewn sefyllfa dda.

Roedd hi’n un o’r ymgyrchoedd caletaf. Yma yng Nghymru, roeddem newydd ymladd etholiad Cynulliad– felly roedd ysbrydoli’r ymgyrchwyr ar ôl un ymgyrch galed yn anodd – nid yn unig i Blaid Cymru, ond ar draws y pleidiau gwleidyddol. Rydw i’n meddwl bod yr ymgyrch Aros wedi methu â lleisio’r pethau cadarnhaol am aelodaeth yr UE mewn modd oedd yn dwyn i mewn bobl fel y pennaeth yn Sir Fôn. Ac wrth gwrs, ymgyrch oedd hon wedi ei gosod yn erbyn cefndir o negyddiaeth am ein haelodaeth o’r UE a lwyddasai i gyffwrdd â llawer nerf dros gyfnod maith o amser. Effaith dropyn wrth ddropyn o ensyniadau negyddol am ein haelodaeth – wedi ei sbarduno gan ffenomen fyd-eang newydd o wleidyddiaeth boblogyddol, a hwyluswyd ac a wrteithiwyd gan ddegawd o lymder, o ansicrwydd ariannol ac economaidd.

“Fedr pethau fod ddim gwaeth na maen nhw rwan,” oedd casgliad llawer. Ac yr ydw i’n deall beth oedd y tu ôl i deimladau o’r fath. Roedd llywodraethau yn cael eu gweld yn aneffeithiol. Y tlotaf oedd wedi cael eu taro waethaf. Y demtasiwn o’u blaenau oedd i godi dau fys ar y cwbwl lot! Arnom ni!

Dewch wedyn at gelwyddau’r ymgyrch Adael – a ymgorfforwyd orau yn y bws coch drwgenwog. £350m yr wythnos i’r GIG. Dim amwysedd – dim ond dweud yn syml ‘pam gwario’r arian yma ar aelodaeth o glwb sy’n rhoi DIM yn gyfnewid i ni – DIM! – pan fedrwn fod yn ei wario ar wasanaeth iechyd sydd mor brin o bres.’

Swnio’n ddeniadol, tydi?

Nes, wrth gwrs, i’r sgriffiadau lleiaf un ddechrau ymddangos ar ochr y bws. O fewn oriau i’r bleidlais, yr oedd Nigel Farage yn dweud nad oedd erioed wedi tanysgrifio i’r ddadl ‘£350m yr wythnos i’r GIG’. Doedd hynny ddim yn wir.
Rhy hwyr.

Ac wrth gwrs yng Nghymru, yr oedd y syniad nad oedd ein tâl aelodaeth i glwb yr UE wedi dod â ‘dim’ yn gyfnewid mor wirion â’r syniad y byddai’r GIG ei hun yn cael ei achub trwy i ni beidio â thalu ein tâl aelodaeth i’r UE.

Nid testun balchder yw i ni yng Nghymru fedru dweud ein bod wedi llwyddo i hawlio rhai o becynnau cymorth mwyaf hael yr UE dros y blynyddoedd diwethaf. Am mai gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw un o ranbarthau tlotaf yr UE gyfan y mae hyn. Ond nid dim ond arian Amcan Un – y gronfa sydd wedi denu’r mwyaf o benawdau o ran cyllid yr UE sydd yn rhan o hyn – mae yna hefyd gymysgedd o gronfeydd a phecynnau cymorth sydd wedi golygu ein bod ar ein hennill yn net pan ddaw’n fater o farnu a fu ein haelodaeth o ‘werth’ ai peidio.

Tydw i ddim wedi crybwyll ffermio eto. Mae’r syniad y byddai’r sawl sydd yn derbyn cymorthdal amaethyddol yr UE yn pleidleisio i roi terfyn arno heb YR UN awgrym – dim awgrym o gwbl – am yr hyn allai ddod yn ei le, wedi achosi penbleth mawr i mi. Fedra’i ddim deall.

A tydw i chwaith heb hyd yn oed sôn am fusnesau a diwydiannau Cymru. Tra bod y DG yn fewnforiwr net, mae Cymru yn allforiwr net i’r UE, ac afraid dweud fod y rhyddid i nwyddau symud rhwng Cymru a chenhedloedd eraill Ewrop yn hanfodol i iechyd economaidd y busnesau hynny, a’r degau o filoedd o swyddi sy’n dibynnu arnynt.

Ond pleidleisiodd Cymru i Adael. Pam?

Doedd y rhuthr ddim yn help. Gyda chyfryngau’r DG ar flaen naratif yr ymgyrch – a llawer ohonynt wedi hen benderfynu y dylasem adael, llawer o hynny oherwydd hunan-les perchenogion y gweisg – roedd hi bron yn amhosib rhoi dimensiwn Cymreig i’r ddadl. Fe wnaethom ein gorau, ond doedd ein gorau ddim yn ddigon da.

Roedd y rhuthr i gynnal y bleidlais hefyd yn golygu na fu sail i drafodaeth fanwl go-iawn. Cymharwch hynny â’r refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Mae gen i gof eistedd mewn caffi yn Glasgow yn ystod y refferendwm hwnnw, ac ar y bwrdd yr oedd copi o ‘Scotland’s Future’ – y Papur Gwyn ar Annibyniaeth yr Alban. Roedd hi’n ddogfen swmpus. Fe’i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2013, bron i flwyddyn gyfan cyn y refferendwm. Yr hyn rydw i’n gofio am y ddogfen honno yn y caffi yn Glasgow oedd ei bod bron yn ddarnau mân. Roedd wedi ei bodio, ei darllen, roedd staeniau coffi drosti, cawsai ei hastudio, ei thrafod, ei dadansoddi….a’i gadael i’r cwsmer nesaf.

Yn y pen draw, penderfynodd yr Alban beidio â chymryd y dewis yn Refferendwm 2014, ond bu’r ddadl a’r trafodaethau yn ysbrydoliaeth. A doedd dim diffyg tystiolaeth am yr hyn y gallai annibyniaeth olygu – o blaid ac yn erbyn.
Doedd dim dechreuadau felly i Refferendwm yr UE. Wedi ei alw’n sydyn am resymau mewnol y Blaid Geidwadol, doedd unman lle gallai’r pennaeth o Sir Fôn na neb arall droi ato i weld beth oedd yn y fantol. Dim dogfen y gallai eraill ddefnyddio fel sail i’w dogfennau cefnogol hwy neu ddadlau yn ei herbyn.

Rhethreg oedd y cyfan. Yr ymgyrch Adael yn rhybuddio pobl – ‘da chi, peidiwch â gwneud hyn, mae gormod yn y fantol’ (ond fedrwn ni ddim yn hawdd egluro beth)…. a’r ymgyrch Adael – yr un mor brin o ffeithiau, ond yn pwyso’n drwm ar feithrin yr ymdeimlad o negyddiaeth oedd yn amlwg wedi gafael, ond ein bod yn gwybod bellach ei fod wedi gwreiddio’n ddyfnach ac yn gadarnach nac y gwnaethom ddychmygu.

Cychwynnodd Mehefin 24 i mi yn stiwdios radio’r BBC ym Mangor. Roeddwn wedi bod yn poeni mai dyma fyddai canlyniad y bleidlais, ond roedd gweld y peth yn digwydd wedi fy syfrdanu. Pan wneuthum alwad ffôn gyflym i’m cartref, roedd fy nhri phlentyn mewn dagrau. Pan feiddiodd Theresa May ddweud yn Fflorens yr wythnos ddiwethaf nad oeddem ni – y DG – erioed wedi teimlo’n wirioneddol gartrefol yn yr Undeb Ewropeaidd, doedd hi ddim yn siarad drosta’i, doedd hi ddim yn siarad dros fy nheulu.

Bu fy ngwraig yn fyfyrwraig Erasmus– y rhaglen ryfeddol honno, a sefydlwyd gan Gymro, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ledled yr UE rannu gwybodaeth a phrofiadau diwylliannol trwy astudio yng ngwledydd eraill yr UE. Roedd hi’n astudio Ffrangeg ac Eidaleg, gan dreulio amser ym mhrifysgolion Annecy a Parma. Roeddwn i wedi treulio amser yno gyda hi – cariadon coleg oeddan ni, yn dathlu 20fed penblwydd ein priodas y flwyddyn nesaf. I’n plant, dyma yw’r norm.

Pan fyddwn ni’n teithio ar hyd Ewrop – pabell yn Ffrainc oedd hi yr haf hwn – nid ymweld â gwlad ddieithr y byddwn ni, ond gwlad arall – ie – ond un y mae gennym gysylltiadau â hi trwy gyd-fenter. Rydym yn wahanol ac yn amrywiol – mae gennym ein hieithoedd a’n traddodiadau ein hunain – ond ar yr un pryd, un ydym. Beth welson nhw ar fore Mehefin 24 2016 oedd bod rhan o’u dyfodol wedi ei gipio ymaith – y rhyddid i deithio ac astudio a gweithio a chwarae a llunio rhwydweithiau a rhannu syniadau. Fe fyddant yn dal i fedru MYND yno, wrth gwrs, efallai y byddant hyd yn oed yn gweithio yno – pwy a ŵyr, ond i gyfyngu ar eu gorwelion? I beth? Dyna’r hyn nad oedden nhw’n gallu ei ddirnad.

Efallai ei bod yn werth nodi yma sut, fel cenedlaetholwr Cymreig sy’n ceisio ymreolaeth i Gymru, fy mod yn cysoni hyn â’m barn am yr Undeb Ewropeaidd. Onid ydw innau hefyd am dorri hualau a chau ein hunain i ffwrdd… ydw i? I ddefnyddio gair sy’n cael ei luchio o gwmpas yn aml amdanaf i a’m bath, boed yng Nghymru neu’r Alban, neu yng Nghatalonia… onid ARWAHANWR ydw i?!

Gadewch i mi ddweud wrthoch chi– mae’r cenedlaetholdeb sydd gennym ni yng Nghymru… ym Mhlaid Cymru, ond gobeithio hefyd ymysg mwy a mwy o bobl mewn pleidiau eraill a’r tu allan i bleidiau – yn genedlaetholdeb sifig sy’n fater o adeiladu ein cenedl mewn partneriaeth ag eraill. Mae fy ngweledigaeth i o Gymru sofran, hunan-lywodraethol yn un fyddai â phartneriaethau agored, cadarn â gwledydd eraill yr ynysoedd hyn a thu hwnt yn greiddiol iddi. Byddai ganddi berthynas mor agos ag sydd yn BOSIB â Lloegr, Iwerddon… ac, ie, â gweddill yr UE.

I’r sawl sydd rywsut wedi bod yn ceisio ‘annibyniaeth i’r DG’, gadewch i mi ddweud wrthych fod y DG, ac y bu erioed trwy gydol ei haelodaeth o’r UE, yn annibynnol. Ceisiwch edrych ar berthynas wleidyddol Cymru â’r DG o safbwynt Cymro neu Gymraes, a dyna pryd y gwelwch wirionedd gwadu’r rhyddid i lywio eich tynged eich hun. Nid un wladwriaeth o’r UE. Mae wedi ei ffurfio o wladwriaethau annibynnol. Buaswn i wrth fy modd yn gweld Cymru yn aelod o Undeb Prydeinig ac Ewropeaidd o genhedloedd, pob un â’i blaenoriaethau ei hun a’i nodweddion od a’i ffyrdd ei hun o wneud pethau, ond gan weithio ynghyd ar y meysydd hynny sydd o les i bawb. Dyna, i mi, fu hanes yr UE.

Beth sydd i ni yn y dyfodol felly?

Wel, aeth pymtheng mis heibio ers y refferendwm, a’r gwir yw – nad oes gennym fwy o eglurder am sut beth fydd Cymru a Phrydain wedi’r UE; pa heriau newydd a – gadewch i ni fod yn bositif – pa gyfleoedd newydd fydd gennym, nac oedd gennym cyn cynnal y bleidlais.

Ein hymateb yn syth fel plaid oedd ceisio amlygu beth oedd yn y fantol. Roedd gennym dasg i berswadio Llywodraeth Cymru am yr angen i weithredu yn bendant. Fe wnaethom alw pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol fis Tachwedd diwethaf yn ceisio cefnogaeth y Cynulliad i egwyddor parhau ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl. Methodd Llywodraeth Lafur Cymru â chefnogi hynny. Roedd angen i ni ddwyn pwysau yn hyn o beth. Yr oeddem yn gyd-awduron Papur Gwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru o’r enw ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, oedd yn datgan y dylai Cymru barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl, naill ai fel aelodau o EEA a/neu EFTA, neu gyda math newydd o gytundeb. Galwodd hefyd am ddatblygu polisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd i Gymru, ac am ail-lunio’r ffordd y mae’r DG yn gweithio fel na fyddai modd dod i unrhyw gytundeb heb gydsyniad Cymru a’n Cynulliad Cenedlaethol. Crybwyllwyd yn arbennig amddiffyn y diwydiant amaethyddol, a datganiad clir nad “darnau bargeinio” mo mewnfudwyr Ewropeaidd yng Nghymru, a’u bod yn cyfrannu i’n cymdeithas.

Roedd yn bwysig iawn gwneud hyn, ond does dim syndod nad yw Llywodraeth y DG wedi rhuthro i gytuno â’n barn.
Nid yn unig y mae amharodrwydd i fwrw ymlaen mewn ffordd fydd yn rhoi llais ystyrlon i Gymru, ond mae gennym fesur diddymu sy’n mynd trwy senedd y DG ar hyn o bryd sy’n tanseilio ac yn cipio grym yn ôl oddi wrth bobl Cymru a’u Cynulliad a Llywodraeth Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd.

Bydd y Mesur Ymadael yn rhoi i Weinidogion y DG bwerau i weithredu heb fod angen caniatâd y Senedd, gan gynnwys pwerau i newid deddfwriaeth Gymreig. Bydd hefyd yn sicrhau y bydd unrhyw bwerau a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr UE sy’n cael eu cymryd yn ôl, hyd yn oed mewn meysydd polisi a ddatganolwyd, yn cael eu dal yn Llundain.

Fel y dywedasom dro ar ôl tro – rydym yn ystyried bod y Mesur hwn yn sarhad ar ddemocratiaeth. Cawsom ddau refferendwm yng Nghymru yn cadarnhau ewyllys pobl Cymru ynghylch pwerau ein Cynulliad a’n Llywodraeth – ac y mae‘n hynod ragrithiol i Lywodraeth y DG awgrymu mai NI, trwy bleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu, sydd yn tanseilio egwyddorion democratiaeth! Dyma realiti Brexit i Gymru mewn termau democrataidd – cipio grym gan Lywodraeth y DG, a thanseilio ein llais cenedlaethol.
Felly do, fe wnaeth ASau Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu y mis yma, fel y gwnaethant bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50. Ac a bod yn onest, profodd araith y Prif Weinidog yn Fflorens yr wythnos hon ein bod yn iawn i ddweud nad yw’r DG, rywsut, yn barod!

Ar ôl cychwyn y cloc, a hithau eisoes heb baratoi o gwbl, beth wnaeth y Prif Weinidog? Galw etholiad! Rhoddodd ei hawydd i’w gwarchod ein hun o flaen yr angen i fwrw ymlaen â’r gwaith. Collwyd amser prin, a nawr fod y Prif Weinidog wedi dweud yn swyddogol yr hyn fu’n berffaith amlwg, na fydd Prydain yn barod erbyn dechrau 2019… mae’r gwirionedd yn dechrau brifo.
Felly cyfnod trosiannol amdani. Wrth gwrs y bydd yn rhaid cael un! Ac y mae’r byd yn chwerthin am ben tîm trafod sydd heb syniad am beth maen nhw’n gofyn, a dim clem am y canlyniad yn y pen draw. Nid croesi bysedd, prynu amser a gobeithio’r gorau yw’r ffordd orau i drin cwestiynau mor sylfaenol am ddyfodol y wladwriaeth Brydeinig.

A fe pe na bai gwacter yr araith yn Fflorens yn ddigon, mae’r ffaith fod graddfa gredyd y DG wedi’i israddio gan asiantaeth Moody dros y penwythnos yn brawf pellach o effeithiau ansicrwydd. Dywedodd yr asiantaeth: “mae’n debyg y cymer flynyddoedd i drafod unrhyw gytundeb masnach rydd, fydd yn estyn yr ansicrwydd presennol i fusnesau “. Prawf unwaith eto fod ceisio Brexit caled yn peryglu ein heconomi.

Rydym ni wedi dweud yn glir o’r cychwyn fod parhau ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl ac o’r Undeb Tollau yn hanfodol er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru. Dyna sut y gall ein cwmnïau barhau i fasnachu, sut y gallwn amddiffyn ein hallforwyr, ac amddiffyn porthladd Caergybi, er enghraifft. Y mae tariffau masnach a rhwystrau masnach a thollau eraill allai fod yn niweidiol dros ben i lif nwyddau.

Ond ni ddylem anghofio llif y bobl fu’n llesol i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Yr wythnos diwethaf yn y Cynulliad, dywedodd fy nghydweithiwr Steffan Lewis, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru fu’n dadansoddi’n rhagorol fygythiad a realiti Brexit, fod tuedd bendant yn dod i’r amlwg ein bod yn cael trafferth denu’r niferoedd o bobl y mae arnom eu hangen i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus. Y mae hyn i’w briodoli, meddai, i’r “neges sy’n cael ei anfon allan gan Lywodraeth y DG y weddill y byd”. Ail-adroddodd ein galwad am hawl i Gymru roi fisas a thrwyddedau wedi Brexit fel y gallwn gynllunio ar gyfer ein hanghenion ein hunain. Afraid dweud nad yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DG am ei roi i Gymru.

Ond, awgrymodd Steffan, gallai Dinas Llundain gael pwerau o’r fath i roi trwyddedau. “Os yw hwn yn wir yn deulu o bobl gyfartal ac yn deulu o genhedloedd,” meddai “yna ni fydd yn dderbyniol i Lundain, i un rhanbarth o’r DG sydd eisoes â mantais economaidd a gwleidyddol enfawr dros bawb arall – gyda holl ffurf economaidd y Deyrnas Gyfunol yn seiliedig ar yr un gornel honno – … os caniateir iddyn nhw gael eu trwyddedau eu hunain, heb i’r gweddill ohono eu cael, yna bydd effaith hynny’n llethol i wlad fel Cymru.”

Ac y mae’n iawn – nid yn unig i’r rhannau hynny o’r economi sydd angen pobl na allwn eu cael yma, ond hefyd i’n sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae arnom ddyled enfawr i’r meddygon a’r nyrsys hynny a gweithwyr iechyd proffesiynol hynny o wladwriaethau eraill yr UE sy’n gweithio’n galed yn ein gwasanaeth iechyd, ac yr ydym eisoes yn gweld, trwy ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DG, yn teimlo nad oes gwerth iddynt. Fyddai dim modd i ni weithredu hebddynt Ac ofni yr ydw i na fydd modd i ni hyd yn oed fesur y niferoedd FYDDAI wedi ystyried dod yma, ond sydd wedi ailfeddwl am eu bod yn teimlo na fyddai croeso iddynt, neu y buasent yn cael eu gyrru’n ôl rywbryd ynn y dyfodol.

Dywedais cyn hyn fy mod yn deall pam y buasai pobl wedi pleidleisio i adael am eu bod wedi syrffedu â’r ffordd y mae pethau. Dyn a ŵyr nad ydw i’n union yn pledio’r status quo fy hun! Rwy’n deall y fam ifanc yng Nghaergybi a ddywedodd wrthyf nad oedd yn gwybod pam y pleidleisiodd i adael, ond fod ei thad wedi gwneud, a’i bod wedi ei ddilyn ef. Efallai nad oedd ganddi’r wybodaeth i allu dod i unrhyw gasgliad arall.

Rydw i hefyd yn parchu’r rhai wnaeth benderfyniad gwybodus nad yw’r UE yn rhywbeth iddynt hwy, nad ydynt yn hoffi ffurfiau’r UE– maint yr UE, efallai.

Ond yr hyn na allwn fyth ddweud yw bod “y DG, neu Gymru, wedi pleidleisio i ADAEL oherwydd x”. Oherwydd un ffactor, neu nifer o ffactorau penodol. Fedrwn ni ddim dweud fod pobl wedi pleidleisio i adael am eu bod eisiau cyfyngu ar fewnfudo. Fe wnaeth llawer, rwy’n siŵr, ond mae’r rheswm pam y gwthiodd y garfan Gadael fymryn ar y blaen yn niferus a chymhleth.

Fe fydda’i yn wastad yn pledio achos aros yn yr UE, a tydw i ddim yn meddwl y buasai neb yn disgwyl i mi fod wedi newid fy meddwl ers y refferendwm. Y bleidlais oedd y bleidlais, a does dim modd dileu hanes yr hyn a ddigwyddodd yn y refferendwm ar Fehefin 2016, ac yr wyf yn parchu’r canlyniad. Ond mae’r sawl bleidleisiodd i aros A’R sawl bleidleisiodd i adael yn rhannu dyfodol cyffredin, ac y maent OLL – pawb ohonom – yn haeddu gonestrwydd gan Lywodraeth y DG. Gonestrwydd am the realiti. Gonestrwydd am yr anawsterau. Gonestrwydd am yr hyn sydd yn y fantol.

Mae’r polau eisoes yng Nghymru yn dangos y byddai’r canlyniad yn wahanol erbyn hyn. A’m gobaith i yw n union fel y gweithredwyd ar ewyllys y bobl gan y gwleidyddion Brexit caled wedi’r refferendwm, y bydd ewyllys y bobl yn cael ei fesur yn ofalus dros ben wrth i amser gadael yr UE nesáu. Ail refferendwm? Holi’r un cwestiwn eto? Wel, na. Byddai hynny’n awgrymu dadwneud y canlyniad cyntaf. Mae’r canlyniad hwnnw yn sefyll – ond fydd yr amwysedd fyth yn fy modloni. Ond beth am bleidlais o’r newydd ar y cytundeb a geir – beth mae Brexit yn olygu MEWN GWIRIONEDD? Yn fy marn i, dylasai hynny fod wedi bod yn rhan o’r cynllun o’r cychwyn.

Dyw rhuthro ar ras wyllt i Brexit caled fel llwybr sy’n cael ei gynnig DDIM, yn fy marn i, yn rhywbeth fuasai wedi cael ei gefnogi gan fwyafrif y bobl yng Nghymru, yn enwedig nawr AR ÔL y refferendwm – o, yr eironi – AR ÔL y refferendwm, ein bod wedi cael peth amser i drafod beth mae Brexit mewn gwirionedd yn ei feddwl. Rwy’n meddwl i arweinydd Ceidwadwyr Cymru daro’r hoelen ar ei phen pan ddywedodd trwy gamgymeriad – “Brexit means breakfast.” Roedd o yn llygad ei le, smonath o frecwast sy’n ein gadael mewn perygl o fod gymaint yn waeth ein byd. Er mwyn bod yn “ynysig ysblennydd” – rhoi i’r DG ‘annibyniaeth’ oedd ganddi eisoes. Annibyniaeth – neu, fe ddylwn ddweud, cyd-ddibyniaeth, a gallu i chwarae ei rhain ochr yn ochr ag eraill yn gyfartal – dyna’r hyn rwy’n dymuno i ‘nghenedl gael un dydd hefyd.

Blog Profiad Gwaith – Elin Lloyd Griffiths 17/07/17 – 21/07/17

Elin Lloyd Griffiths ydi fy enw i, a dwi’n ddisgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes. Yr wythnos yma, fe ges i’r profiad arbennig o fynd ar brofiad gwaith gyda Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth. Treuliais dri diwrnod yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni yn gwneud amryw o bethau diddorol boed hynny yn ffocysu ar y broblem o fand llydan ar yr ynys i allu cael mynd i agoriad RSPB Cors Ddyga. Fe wnes i dreulio y ddau ddiwrnod arall yn y Cynulliad yng Nghaerdydd lle roeddwn i’n gallu gweld gyda fy llygad fy hun pa fath o bethau oedd yn digwydd yno. Fe wnes i sylweddoli yn eithaf sydyn ar ôl cyrraedd Tŷ Hywel pa mor wahanol ydi gwaith y Senedd yng Nghaerdydd o’i gymharu â’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni. Er hyn, fe wnes i wir fwynhau fy mhrofiad gwaith a rhoi fy hun mewn esgidiau gwleidydd am wythnos!

Fe ges i wrando ar drafodaeth Rhun a dynes yn cynrychioli Waters of Wales ar y bore dydd Llun. Roedd hi’n credu’n gryf y dylai pawb gael mynediad i unrhyw afon gan nad ydynt yn gwneud dim o’i le a’r cwbl maent eisiau ei wneud ydi mwynhau’r diwrnod a chael gwerthfawrogi yr harddwch naturiol sydd ar gael. Roedd hi’n sefyllfa eithaf anodd oherwydd ochr arall y geiniog i hyn wrth gwrs ydi nad ydi tirfeddianwyr yn mynd i ganiatáu i bawb fynd a thresmasu ar eu tir. Yn ogystal â hyn, fe ges i hefyd y profiad o fynd i agoriad RSPB Cors Ddyga ar y dydd Llun hefyd gan mai Rhun oedd yn agor y warchodfa. Cawsom glywed Côr Ysgol Esceifiog yn canu a dadorchuddio cerflun Aderyn y Bwn a oedd wedi cael ei gomisiynu yn arbennig i gofio am un o uchafbwyntiau’r warchodfa sef bod Aderyn y Bwn wedi nythu yno yn 2016 am y tro cyntaf ers 32 mlynedd yng Nghymru.

Erbyn dydd Mawrth a dydd Mercher, roeddwn i yn Nhŷ Hywel yn swyddfa Rhun. Un o’r pethau cyntaf wnes i yn y fan hyn oedd darllen ymgynghoriad y Llywodraeth i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed mewn etholiadau lleol. Yn dilyn hyn, fe ges i’r cyfle i ysgrifennu datganiad i’r wasg ar y cyd efo Rhun yn dweud fy marn. Dwi’n ei gweld hi’n hynod annheg nad ydi pobl ifanc Cymru a Phrydain yn cael bod yn rhan o ddemocratiaeth y wlad oherwydd ein hoedran. Yn ogystal â hyn, mae hi’n hynod rhwystredig i bobl ifanc gan fod gwleidyddiaeth yn esblygu gymaint, yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf yn benodol, ac er gwaetha’r ffaith fod y newidiadau hyn yn mynd i effeithio ein dyfodol ni, does ganddom ni ddim pleidlais i gynrychioli ein llais! Yn dilyn hyn, fe wnes i gael y cyfle i fynd i wrando ar gwestiynau’r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd. Roedd hwn yn brofiad diddorol iawn oherwydd roeddwn yn gallu synhwyro ychydig o densiwn rhwng y pleidiau, a roeddwn yn hoff o sut roedd y pleidiau yn herio’r Prif Weinidog yn enwedig yn y cwestiynau lle nad oedd y Prif Weinidog wedi gallu paratoi iddynt! Cefais y cyfle hefyd i gyfieithu colofn Rhun ar gyfer yr ‘Holyhead and Anglesey Mail’ am bwysigrwydd ieithoedd tramor, ac roedd hyn yn fuddiol iawn yn enwedig am fy mod i eisiau astudio ieithoedd yn y Brifysgol. Roedd fy mhrofiad yn y Cynulliad yng Nghaerdydd yn fuddiol dros ben. O fynd i wrando ar y Pwyllgor Iechyd yn trafod i allu cael bod yn rhan o drafodaeth ynglŷn â Brexit, fe ges i agoriad llygad o weld pa mor wahanol oedd y gwaith yma i waith y Swyddfa Etholaeth, ond hefyd, pa mor ddiddorol ydi gwleidyddiaeth yng Nghymru ar y funud.

Roeddwn i nôl yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni erbyn dydd Iau, ac fe wnes i ysgrifennu llythyr ar ran y Blaid yn ymwneud â’r broblem Band Llydan yn gwahodd trigolion Ynys Môn i ddod i ddigwyddiad er mwyn gweld os ydyn nhw yn gymwys i dderbyn band eang Ffeibr i’r Adeilad, yn ogystal â llunio poster yn hysbysebu’r digwyddiad. O ran dydd Gwener, roeddem ni yn Llanfairpwll i ddechrau er mwyn i Rhun gael tynnu llun gydag un o’r cofebion rhyfel yn y Capel, ac yn dilyn hynny, fe ges i fynd i agoriad swyddogol y Bwrdd Dŵr ar gyfer y cronfeydd dŵr yn Alaw a Chefni. Mae £15,000,000 wedi cael ei fuddsoddi yn Alaw a £13,000,000 yng Nghefni, a braf ydi cael gweld buddsoddiad yn digwydd ar yr ynys.
Mae hi wedi bod yn wythnos hynod o ddiddorol a buddiol dros ben. O gael mynd i wrando ar gwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd yng Nghaerdydd i gael mynd i agoriad swyddogol RSPB Cors Ddyga ar yr ynys, dwi wedi cael amrywiaeth o brofiadau sydd wedi fy ngalluogi i feddwl am y math o swyddi sydd ar gael yn y byd gwleidyddol. Diolch yn fawr i Rhun, Non, Francess a Heledd am y cyfle a’r profiad.

Blog gwadd: Iestyn Hughes ar ei gyfnod o brofiad gwaith yn swyddfa Rhun

Wythnos gyda Rhun ap Iorwerth Aelod Cynulliad, Ynys Môn gan Iestyn Hughes

Fy enw i ydy Iestyn Hughes, a dwi’n raddedig mewn Hanes a Wleidyddiaeth.

Yn ystod yr wythnos rhwng 31ain o Ionawr a 3ydd o Chwefror roeddwn i ar brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Plaid Cymru am Ynys Môn, treulio tri diwrnod yn ei swyddfa etholiadol yn Llangefni a dau ddiwrnod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cychwynnais yr wythnos yn swyddfa etholiadol Plaid Cymru yn Llangefni, dod i adnabod y staff a hefyd y gwaith o ddydd-i-ddydd yr Aelod Cynulliad. Roedd hi’n ddiddorol i weld sut mae AC yn delio gydag ymchwiliadau cyhoeddus, materion o bwys yn y gymuned a chyfarfod gyda nifer o elusennau a chymdeithasau fel Cymdeithas Alzheimer’s.

Wrth ddod oddi ar y trên yn gynnar ar fore dydd Mawrth yng Nghaerdydd, cychwynnais fy nau ddiwrnod yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ystod fy amser yna, gwelais y gwaith sy’n mynd ymlaen tu mewn i Lywodraeth Cymru, o wylio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwilio i mewn i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, i eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar y prynhawn dydd Mawrth.

Hefyd ges i gyfle i ddrafftio datganiad i’r wasg i’w gyflwyno i gyfraniad Rhun tuag at y Cwestiynau, a hyd yn oed tynnu’r lluniau pan gyd-gyflwynodd Rhun – gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg Andrew R.T. Davies – siec o £3,863 i Bowel Cancer UK gan Ddreigiau Casnewydd Gwent (gallai sicrhau ni chafodd unrhyw gamera drud ei dorri yn ystod y sesiwn lluniau hwn).

Dydd Iau ac roedd hi’n ôl i’r swyddfa yn Llangefni, cychwyn y dydd gyda chasglu penawdau perthnasol yn y wasg ar gyfer Rhun. Casglais ddata perthnasol ar ofal cartref a gofal seibiant yng Nghymru ar gyfer y swyddfa yng Nghaerdydd, ac ymlaen wedyn i gysylltu gydag etholwyr ac oedd yn dod i un o Gymorthfeydd cyhoeddus Rhun ar y dydd Gwener.

I gloi yr wythnos, teithiais gyda Rhun a’i staff i Amlwch i eistedd fewn yn ei Cymhorthfa gyda etholwyr, i gyfarfod wyneb-wrth-wyneb gyda cyhoedd Ynys Mon a wrando ar eu broblemau.

Mae hi wedi bod yn wythnos ysbrydoledig a chyffrous, a hoffwn ddweud diolch wrth Rhun a’r staff yn Llangefni ac yng Nghaerdydd am eu croeso cynnes, ac am roi’r cyfle yma i mi.