AC am sbarduno chwyldro CT yng Nghymru

Wrth gyflwyno ei gynnig am Fil Cynllunio Gwefru Cerbydau Trydan yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn parhau i arwain yr ymgyrch am well seilwaith CT wrth iddo annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o bwyntiau gwefru ledled Cymru.

Mae AC Plaid Cymru yn cynnig deddfwriaeth yn Siambr y Cynulliad ddydd Mercher fyddai’n cyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bob adeilad newydd gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, fyddai’n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio CT, ac yn lleihau allyriadau carbon Cymru.

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi lleisio ei bryder dro ar ôl tro dros y misoedd diwethaf ynghylch diffyg arloesedd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran datblygu seilwaith sylweddol o bwyntiau gwefru CT yng Nghymru, gan alw adroddiad diweddar, oedd yn datgelu mai dim ond 31 o bwyntiau gwefru sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus sydd yng Nghymru gyfan, yn adlewyrchiad ‘cywilyddus’ at ymdrechion Llafur Cymru ar CT.

Wrth amlinellu ei weledigaeth a’r rhesymeg y tu ôl i’r bil arfaethedig, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC,

“Byddai’r Bil hwn, o’i basio, yn rhoi cyfle i Gymru o’r diwedd ddechrau cystadlu o ran seilwaith i gerbydau trydan. Ar hyn o bryd, rydym mor bell ar ôl gweddill y DG, a hynny oherwydd diffyg ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weld bod y dechnoleg yn cael ei mabwysiadau yn gyflymach.

“Mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos ymrwymiad sylweddol at CT, ac y mae Cyngor Dinas Dundee, er enghraifft, yn caniatáu i berchenogion CT ddefnyddio eu meysydd parcio a’u pwyntiau gwefru am ddim, ac y mae ganddynt fwy o gerbydau trydan yn fflyd eu cyngor nac unrhyw gyngor arall yn y DG.

“Does dim rheswm pa na all Cymru ddangos yr un uchelgais, petai’r Llywodraeth ond yn ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg wych hon. Rwyf wedi gweld drosof fy hun gymaint o awydd sydd ledled Cymru am CT, a’r unig beth sy’n dal y cyhoedd yn ôl rhag tanio’r chwyldro a buddsoddi mewn CT yw’r diffyg rhwydwaith gwefru sylweddol.

“Llwyddodd Plaid Cymru i gael £2m i’w fuddsoddi mewn pwyntiau gwefru yn y fargen ddiweddaraf ar y gyllideb, sy’n dangos ymrwymiad ein plaid i ddatblygu seilwaith CT , a phetai fy nghynnig i am ddeddfwriaeth yn cael ei basio, byddai’n gwneud iawn am yr amser a gollwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Cymru i arwain y maes mewn technoleg CT yn y dyfodol.”

Ystadegau pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn adlewyrchu’n ddrwg ar Lywodraeth Cymru, medd AC

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar s’yn dangos nifer y pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig yn dangos pa mor bell y tu ôl i weddill y DG mae Gymru o ran y chwyldro EV, medd Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan HSBC ynglyn ag argaeledd pwyntiau gwefru yn dangos mai Cymru sydd gyda’r seilwaith wanaf o bell ffordd i wefru cerbydau trydan, gyda dim ond 31 o bwyntiau gwefru a ariennir yn gyhoeddus ar gael yng Nghymru, o’i gymharu â 743 yn yr Alban, 185 yng Ngogledd Iwerddon a 2,862 yn Lloegr.

Mae ffigyrau y pen yn amlygu pa mor wael mae Cymru’n perfformio, gyda’r Alban hefo un pwynt gwefru am bob 7,127 o bobl, Gogledd Iwerddon ychydig yn uwch gydag un ar gyfer pob 9,789 o bobl, gyda chyfran Cymru’n wirioneddol syfrdanol ar un pwynt gwefru ar gyfer pob 98,806 o bobl.

Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi bod ygwneud ei gefnogaeth yn glir am annog chwyldro cerbydau trydan, gan godi cwestiynau yn y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith cerbydau trydn, ac ymgyrchu am i Lywodraeth Cymru i weithredu mewn modd sy’n dangos eu bod nhw am gymryd y dechnoleg newydd hon o ddifrif.

Galwodd Mr ap Iorwerth fuddsoddiad Llywodraeth Lafur Cymru mewn seilwaith cerbydau trydan fel un ‘cywilyddus’ yn dilyn rhyddhau’r ffigurau hyn.

“Dwi wedi bod yn galw am amser maith i Lywodraeth Cymru gymryd y mater hwn o ddifrif, ond mae’r ffigurau hyn yn profi bod Cymru’n bell, bell y tu ôl i weddill y DU ar bwyntiau gwefru a ariennir yn gyhoeddus. Yn hytrach na cheisio arwain hyn – rhywbeth y gallai’r wlad hon ei wneud – prin yw Cymru yn y gêm hyd yn oed, ac mae’n adlewyrchu’n warthus ar Lywodraeth Lafur Cymru.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn syml yn ceisio rheoli’r wlad, ceisio cynnal popeth ar ei lefel bresennol – ac mae’n ei chael hi’n anodd i wneud hynny, digwydd bod – yn hytrach na cheisio symud Cymru yn ei blaaen a rhoi ein gwlad mewn sefyllfa lle y gallwn arwain, neu hyd yn oed gystadlu â gwledydd eraill o ran arloesi.

“Mae un pwynt gwefru a ariennir yn gyhoeddus am fwy neu lai bob 100,000 o bobl yng Nghymru yn ofnadwy, ac mae hwn yn sefyllfa sydd angen ei newid yn gyflym cyn i Gymru gael ei adael ar ôleto, diolch i’r llywodraeth Lafur hon. Llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau £2m tuag at seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y trafodaethau diweddaraf ar y gyllideb, ond mae’n amlwg mai cam fach ianw ymlaen oedd hyn o’i gymharu â’r hyn sydd ei angen. ‘

Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lawn o ystadegau trwy ddilyn y ddolen yma.

AC yn gofyn am gefnogaeth i Marina Caergybi ac i ddysgu gael eu gwersi ar ôl yr ymateb i storm Emma

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth heddiw i Lywodraeth Cymru am ddiweddariad ar y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi.

Fodd bynnag, roedd yn siomedig gyda’r ymateb, yn enwedig o ystyried effaith amgylcheddol ac economaidd y difrod, a’r ffaith fod pryderon yn dal i gael eu lleisio gan bobl leol am yr ymdrechion clirio.

Yn ei gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Cynulliad heddiw, gofynnodd Rhun ap Iorwerth:

“Wrth edrych yn ôl, dwi’n meddwl fod rhai cwestiynau difrifol ynghylch cyflymder yr ymateb i’r hyn a ddigwyddodd yng Nghaergybi. Rwy’n credu ei bod yn eithaf clir ei fod o wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater amgylcheddol difrifol. Felly, efallai y gallech chi ein diweddaru a gollwyd cyfle i ymyrryd yn gynnar, i ddelio ag effeithiau amgylcheddol yr hyn a ddigwyddodd. A pha wersi a ddysgwyd, o ran sicrhau, os oes anghytundeb ynghylch pwy ddylai gymryd drosodd, y gall Llywodraeth Cymru neu’ch cyrff perthnasol ymyrryd?

“Yn ail, wrth edrych ymlaen, gan fod hynny’n hanfodol nawr, mae arnom angen sicrwydd ar yr hyn sy’n digwydd. Rwyf wedi clywed adroddiadau y bore yma o bobl yn dychwelyd o’r môr i Gaergybi am y tro cyntaf ers y digwyddiad, a chael eu synnu gyda’r hyn sydd ddim wedi cael ei wneud hyd yma. Mae angen sicrwydd arnom ynglyn ag ailadeiladu’r marina, ar help i unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, ac wrth gwrs ar yr angen i gamu ymlaen yn nhermau y gwaith clirio amgylcheddol, oherwydd mae llawer i’w wneud eto.”

Ar ôl y sesiwn gwestiynau, ychwanegodd:

“Roedd hwn yn ymateb siomedig arall gan Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb Llywodraeth Cymru a’i asiantaethau i ddinistr storm Emma yng Nghaergybi. Mae pobl sy’n gweithio yn y marina, pobl sydd wedi colli cychod, a phobl sydd wedi bod ar draethau gogledd-orllewin Ynys Môn eu hunain i glirio polystyren oherwydd eu pryder am yr effaith amgylcheddol yn dweud wrthyf nad oedd yr ymateb yn ddigon cyflym, bod yna ddryswch dros pwy ddylai fod yn gwneud beth a bod y broblem yn dal i fodoli heddiw.

“Rwy’n gwerthfawrogi ystyriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch cefnogaeth ariannol bosibl ar gyfer atgyweirio isadeiledd cyhoeddus, a glanhau difrod amgylcheddol, ond yr oeddwn yn gobeithio cael mwy o arweiniad gan y Llywodraeth ar hyn, yn enwedig o ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar yr economi leol yn Ynys Môn.”

Rhun ap Iorwerth yn cefnogi Awr Ddaear WWF 2018

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi datgan ei gefnogaeth dros ymgyrch Awr Ddaear WWF 2018 – y mudiad byd-eang i amddiffyn ein planed.

Bob blwyddyn, bydd miliynau o bobl ar draws y byd yn dangos eu cariad tuag at ein planed anhygoel a’u hymrwymiad i’w gwarchod trwy gymryd rhan yn Awr Ddaear WWF.

Y llynedd yng Nghymru, amcangyfrir y cymerodd tua 280,000 o bobl rhan yn Awr Ddaear WWF, yn ogystal â phob awdurdod lleol ar draws y wlad. Tywyllodd safleoedd Cymreig eiconig fel y Senedd ym Mae Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol yn Aberystwyth, a chestyll Caernarfon a Chaerffili.

Fel rhan o ymgyrch Awr Ddaear eleni, mae Rhun ap Iorwerth wedi datgan ei g/chefnogaeth i alwadau WWF Cymru ar bawb i wneud newidiad bach yn eu bywyd bob dydd er mwyn byw’n fwy cynaliadwy – i wneud ‘Addewid am y Blaned’. Mae gwrthod cyllyll a ffyrc plastig, defnyddio cwpan coffi amldro neu droi’r golch i 30°C yn gamau bach fel unigolion, ond maent yn cael llawer mwy o effaith gyda’i gilydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n falch dros ben i gefnogi ymgyrch Awr Ddaear WWF eleni.

“Rydym yn gwybod bydd newid hinsawdd yn effeithio’n aruthrol ar y ffordd rydym i gyd yn byw’n bywydau, ond os bydd unigolion yn cymryd camau bychain i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy, ac os bydd gwleidyddion yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, gallwn helpu i’w daclo.

“Rwy’n annog pawb i wneud Addewid am y Blaned ag ymuno â Awr Ddaear WWF ar y noson trwy ddiffodd y golau am 8.30pm nos Sadwrn 24 Mawrth 2018.

“Rydw i wedi gwneud addewid i wneud fy ngherbyd nesaf yn un trydan. Roeddwn yn falch fod Plaid Cymru wedi gallu sicrhau £2m ar gyfer gwefru ceir trydan yn y gyllideb, ond byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth am well isadeiledd gwefru er mwyn gallu gwneud hwn yn ddewis haws i fwy o bobl yng Ngymru.”

Rhun yn gofyn am gymorth Llywodraeth i ddelio gyda effeithiau storm Emma ar Gaergybi

Yn dilyn effaith dinistriol storm Emma ar farina Caergybi yr wythnos diwethaf, fe gyflwynodd Rhun ap Iorwerth AM gwestiwn brys i Lywodraeth Cymru a gafodd ei ateb yn y Cynulliad heddiw.

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn i Lywodraeth Cymru am gymorth i’r busnesau gafodd eu heffeithio, am sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud yn y tymor byr i gyfyngu ar y difrod amgylcheddol, ac yn y tymor hir am ymchwil i fewn i’r angen posibl am amddiffynfeydd môr i’r darn yna o’r harbwr yng Nghaergybi.

Yn siarad yn y Sened heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mi roeddwn i ym marina Caergybi ddydd Gwener, yn syth ar ôl y storm, ac mi roedd yr olygfa—llawer ohonoch chi wedi ei gweld hi ar y teledu ac ati—yn un wirioneddol dorcalonnus: dinistr llwyr yno. Wrth gwrs, mae yna lawer o gychod pleser personol yno, a rheini’n bwysig yn economaidd i’r ardal, ond buodd yna bymtheg o gychod masnachol yn y marina hefyd, a llawer o rheini wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi yn rhannol. Nawr, mae’r holl fusnesau sy’n defnyddio’r marina yn rhan bwysig o economi forwrol Môn, ac o ystyried y pwyslais rŵan, o’r diwedd, diolch byth, ar ddatblygu strategaeth forwrol i Gymru, mi hoffwn i wybod pa fath o becyn cymorth gall y Llywodraeth ei roi at ei gilydd i gefnogi y busnesau yma rŵan yn eu hawr o angen yn y byr dymor.

“Yn ail, yn edrych y tu hwnt i’r tymor byr, a gaf i ymrwymiad y gwnaiff y Llywodraeth helpu i ariannu gwaith ymchwil i’r angen posib am amddiffynfa i’r rhan yma o’r harbwr yng Nghaergybi yn y dyfodol ac a ydych chi’n cytuno bod yna rôl bwysig iawn i adran astudiaethau eigion Prifysgol Bangor yn y gwaith yma, yn cynnwys defnydd o’u llong ymchwil, y Prince Madog?

“Yn olaf wedyn—ac yn allweddol—rydych chi wedi cyfeirio ato fo, yn y byr dymor, rydym ni yn wynebu problemau amgylcheddol difrifol yn sgil y storm. Rydw i’n deall nad oedd yna ormod o danwydd yn y llongau; bod y rhan fwyaf o hwnnw wedi cael ei gasglu, ond yn sicr rydym ni’n wynebu bygythiad mawr o ran llygredd yn dod o weddillion polysterin y pontŵns yn y marina. Rŵan, bum niwrnod ymlaen, mi hoffwn i ddiweddariad ynglŷn â’r hyn sydd yn cael ei wneud i ddelio â’r llygredd yna a’r sicrwydd y bydd beth bynnag sydd ei angen yn cael ei wneud i sicrhau nad ydym ni’n wynebu mwy o’r dinistr amgylcheddol yma rydym ni wedi’i weld yn barod.”

Ychwanegodd yn ddiweddarach:

“Roeddwn yn falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod yn hapus i ystyried rhoi cymorth ariannol posib ar gyfer atgyweirio isadeiledd ac edrychaf ymlaen i gael diweddariad pellach ganddi ar ô lei hymweliad i Ynys Môn yfory.”

Dylai’r cysylltiad trydan barchu Cenedlaethau’r Dyfodol, medd AC

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn holi Llywodraeth Cymru am pa rôl allai Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ei chwarae mewn datblygiadau isadeiledd trydan yn Ynys Môn.

Dywedodd Rhun mai cysylltiad o dan y môr neu’r ddaear, yn hytrach na pheilonau newydd, fyddai’n gwarchod buddiannau pobl Môn rwan a chenedlaethau’r dyfodol orau, a dyma beth mae pobl Môn yn ofyn amdano. Nododd fod gennym Ddedf Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru a dylai’r cysylltiad trydan fod yn unol ag egwyddorion y ddeddf.

Yn siarad yn y siambr heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae Grid Cenedlaethol yn bwriadu codi cysylltiad trydan newydd ar draws Ynys Môn efo’r gost yn brif – os nad yr unig – factor mewn penderfynu sut gysylltiad i’w gael, a beth maen nhw am wneud ydy mynd am yr opsiwn rhataf, sef peilonau uwchben y ddaear yn hytrach na mynd o dan y ddaear neu o dan y môr sef beth rydym ni yn Ynys Môn yn gofyn amdano fo.

“Mynd o dan y môr neu o dan y tir fyddai’n gwarchod buddiannau Ynys Môn rŵan, a chenedlaethau’r dyfodol yn Ynys Môn, ac mae ganddom ni Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yma yng Nghymru.

“Rŵan, chi ydy’r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad y Ddeddf honno. A ydych chi’n barod i roi ymrwymiad i weithio efo fi ac eraill fel ymgyrchwyr yn erbyn peilonau i wthio ar Grid, ar Ofgem, ar Lywodraeth Prydain – fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw – i sicrhau bod y cynllun cysylltu yma ddim ond yn gallu digwydd yn unol ag egwyddorion y darn pwysig yna o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei basio yn y lle yma?”

Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Rydw i’n gwybod am y gwaith y mae e wedi’i wneud yng nghyd-destun yr ynys ar y pwnc yma. Rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio’n agosach gyda’r cyngor lleol ar y pethau mae ef wedi cyfeirio atyn nhw.

“Roeddwn i’n falch i weld y datganiad gan National Grid yn dweud

‘While these do not specifically place requirements on the National Grid or the development of new transmission lines, National Grid believes that the aims of the Act are important and deserve consideration.’

“Felly, mae yna beth gydnabyddiaeth gan y Grid Cenedlaethol o effaith y Ddeddf.

“Rwy’n clywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran ceblau dan y ddaear neu dan y môr, a safbwynt gychwynnol Llywodraeth Cymru yw mai tanddaearu yw’r dewis a ffefrir, ond bydd angen cael trafodaethau, abydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn ynddynt wrth inni geisio gwneud yn fawr o’r manteision i’r ynys tra’n lliniaru effeithiau’r datblygiadau hyn.”

Yn siarad wedi’r cyfarfod yn y Senedd, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddaf yn cyfarfod gyda Grid Cenedlaethol yn fuan i drafod y mater yma ymhwllach gyda nhw. Er nad ydynt hwy’n rhwym i’r Ddeddf, Mae’n bwysig fod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu parchu.”

“Mae angen mynd a’r maen i’r wal gyda gwaith amddiffyn rhag llifogydd”, meddai AC

Rhun ap Iorwerth yn derbyn ymateb llywodraeth i’w gwestiynau diweddar ar lifogydd Ynys Môn

Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, bellach wedi derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ei gwestiynau yn y siambr ynglŷn â gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Ynys Môn ar ôl i lifogydd effeithio ar gymunedau ar yr ynys ym mis Tachwedd.

Dywedodd Rhun ei fod yn falch bod y gwaith hwn bellach yn cael ei flaenoriaethu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ei fod yn siomedig ei fod o wedi cymryd mwy o lifogydd i’w gwneud iddynt wneud hynny ac mae’n siomedig nad yw’r gwaith ymchwilio wedi dechrau eto.

Wrth ymateb i’r llythyr gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n debyg y bydd gwaith ymchwiliol yn ymwneud â chanfod tystiolaeth am yr angen am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mi faswn i’n dweud ein bod ni wedi gweld tystiolaeth go dda ym mis Tachwedd.

“Mae angen inni fynd a’r maen i’r wal gyda’r gwaith hwn yn Llangefni a rhannau eraill o’r ynys a effeithir gan lifogydd. Mae pob diwrnod ychwanegol o oedi yn ddiwrnod arall o ddioddefwyr llifogydd yn edrych allan o’r ffenestr ac yn meddwl a fydd y glaw nesaf yn arwain at lifogydd eto.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn cefnogi ymdrechion Cyngor Môn i bwyso am weithredu ar unwaith ac o bosibl i gynyddu’r dylanwad uniongyrchol sydd ganddo mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Llangefni.

AC lleol Rhun ap Iorwerth yn rhoi addewid i wneud i ‘bob cennin pedr gyfri’ dros Marie Curie fis Chwefror eleni.

Mae AC Ynys Mon, Rhun ap Iorwerth wedi yn gofyn i pawb I rhoddi a gwisgo’r daffodil yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth a helpu Nyrsys Marie Curie i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol a’u teuluoedd.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymuno gyda Nyrsys Marie Curie Amy Law, Sue Thomas a Ruth Mcghee mewn digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 6ed Chwefror i helpu lansio Apêl Fawr y Daffodil, sef ymgyrch codi arian flynyddol fwyaf Marie Curie.

Yn ogystal â rhoi ei gefnogaeth i’r apêl, mae Rhun ap Iorwerth yn annog pobl Ynys Mon i helpu codi mwy o arian nag erioed o’r blaen drwy’n syml rhoi cyfraniad a gwisgo bathodyn Daffodil Marie Curie, sydd ar gael gan wirfoddolwyr drwy’r wlad, mewn siopau Marie Curie, Superdrug, Spar, Poundworld a Hotter Shoes ac mewn canolfannau garddio Wyevale.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth :“Mae’r arian sy’n cael ei godi drwy Apêl Fawr Daffodil Marie Curie yn helpu i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl ar amser pan maen nhw ei angen fwyaf. Rydw i’n falch o ‘gefnogi’r Cennin Pedr’ dros Marie Curie, a gobeithiaf y bydd pobl Cymru yn ymuno â mi wrth gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan salwch terfynol drwy’r wlad.”
Ychwanegodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru, Marie Curie: “Mae cael cefnogaeth Rhun ap Iorwerth yn gwneud gwahaniaeth anferth i Marie Curie. Gyda’r help y maen nhw’n ei roi, rydym yn gallu codi ymwybyddiaeth ynglŷn â beth yr ydym ni’n ei wneud ac yn cyrraedd mwy o bobl sydd ein hangen.

“Mae ein gwasanaethau yn dibynnu ar gyfraniadau elusennol, ac felly hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonoch sy’n rhoi cyfraniad ac yn gwisgo bathodyn Daffodil ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Bydd yr arian a godir o Apêl Fawr y Daffodil yn helpu Nyrsys Marie Curie ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol, a’u hanwyliaid, mewn cartrefi drwy Gymru, yn ogystal ag yn un o Hosbisau’r elusen, Hosbis Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Apêl Fawr y Daffodil ac er mwyn gwirfoddoli i gasglu dros Marie Curie, cysylltwch drwy ffonio 0845 601 3107* neu ewch i www.mariecurie.org.uk/daffodil. Er mwyn gwneud cyfraniad o £5, anfonwch neges destun *DAFF at 70111 neu ffoniwch 0800 716 146 er mwyn cyfrannu dros y ffôn.

Capsiwn y llun: Rhun ap Iorwerth gyda Nyrsys Marie Curie Amy Law, Sue Thomas a Ruth McGhee

AC Plaid Cymru yn nodi Diwrnod Amser i Siarad gyda galwad am well gofal iechyd meddwl i staff y GIG

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw am weithredu i wella cefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael i weithwyr iechyd Cymru.

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod staff y gwasanaeth iechyd yn dioddef effeithiau i’w hiechyd yn sgil pwysau gwaith.

Yn siarad ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2018, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Nod Diwrnod Amser i Siarad ydi cael pobl i siarad, gwrando a newid bywydau mewn perthynas â materion iechyd meddwl.

“Dylai pawb deimlo’n gyfforddus i edrych am gefnogaeth maent eu hangen heb orfod ofni stigma, a dyna pam rwy’n falch iawn o roi fy nghefnogaeth lawn i’r ymgyrch.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ein gwasanaeth iechyd wedi ei selio ar roi gofal am ddim i bobl ar y pwynt pan maent ei angen. Er mwyn gwneud hyn yn iawn mae’n anghenraid gallu adnabod y pwynt pan mae hynny’n digwydd.

“Mae ffigyrau diweddar gafodd eu cyhoeddi yn Lloegr yn dangos fod 90,000 staff GIG wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i straen hirdymor dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Awgrymai yr Arolwg Staff GIG Cymru 2016 bod rhwng chwarter a thraean o staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi dioddef anaf neu salwch o ganlyniad i straen wedi ei achosi gan waith.

“Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad i gyffredinolrwydd materion iechyd meddwl a’r gefnogaeth sydd ar gael ac edrych ar be ellir ei wneud er mwyn lleddfu’r anawsterau mae staff yn ei wynebu ar y cyfle cyntaf posib.

“Mae’n amser i siarad – ond mae hefyd yn amser i weithredu.”

Rhun ap Iorwerth yn galw am derfyn i breifateiddio graddol o fewn Gwasanaeth Iechyd Cymru

Mae mwy o wasanaethau iechyd Cymreig yn cael eu hallanoli i gwmni preifat. Fe ddatgelodd Prif Chwip Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth y wybodaeth yng Nghwestiynau i’r Prif Weinidog wrth ddirprwyo i Leanne Wood.

Mae gwasanaethai dialysis yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn y broses o gael eu preifateiddio i gwmni preifat “o dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones”, gyda gwerth £700,000 o arbedion yn dod o “daliadau salwch, gwyliau a phensiynau staff y gwasanaeth iechyd”.

Credir bod y trafodaethau’n ymwneud ag allanoli’r gwasanaeth i gwmni preifat fel ‘Braun Avitum’, sydd eisoes yn rhedeg gwasanaethau dialysis yn Ysbyty Gwynedd ac Alltwen.

Gallai’r gwasanaeth gael ei drosglwyddo i gwmni preifat mewn ychydig wythnosau yn dilyn bod allan i dendr o dan nodyn caffael “Sell2Wales” Llywodraeth Cymru. O dan y cynlluniau preifateiddio, bydd staff yn cael eu hallanoli i gwmni preifat gan golli eu hawliau lefel-GIG o ran amodau a thermau.

Fe nododd Rhun ap Iorwerth fod system iechyd dwy-haen yn tyfu o dan y llywodraeth Lafur, gyda chleifion yn cael eu hannog i ystyried talu am driniaeth neu ddiagnosis cynt yn hytrach nag wynebu amseroedd aros hir.

Yn siarad yn dilyn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae’n anhygoel bod Prif Weinidog Cymru yn caniatáu preifateiddio graddol o wasanaethau iechyd o dan ei oruchwyliaeth.

“Fe addawodd maniffesto 2016 Llafur y byddai’r ‘gwasanaeth iechyd yn cael ei foderneiddio ond nid ei breifateiddio’, ond yn dilyn yr argyfwng tymhorol diweddar, mae’n edrych mwy fel achos o ‘breifateiddio ond nid moderneiddio’.

“Mae hefyd yn dod yn gynyddol glir fod amseroedd aros hirach yn creu system iechyd dwy-haen, lle mae’r rheini sydd â’r gallu i dalu yn gallu cael llawdriniaethau o fewn amser rhesymol, ond bod y rheini sy’n ddibynnol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu aros yn hir gan ddioddef canlyniadau posib i’w hiechyd yn sgil hynny.

“Nid mater o ideoleg yw hyn, ond mater o flaenoriaethu darparu cleifion Cymru â’r gofal maent eu hangen yn hytrach na chaniatáu cwmnïau preifat i wneud elw drwy bigo i ffwrdd ar wasanaethau iechyd craidd. Mae hefyd ynglŷn â gwarchod staff cydwybodol, sydd eisoes dan straen, rhag wynebu dirywiad i’w amodau a thermau.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru greu cynllun hirdymor ar gyfer gwasanaeth iechyd cynaliadwy.”