Rhun

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol fel Aelod Cynulliad Ynys Môn ym mis Awst 2013, ac mae rŵan yn Aelod o Senedd Cymru dros Ynys Mon. Cyn hynny bu’n newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunodd â’r BBC yn 1994. Treuliodd gyfnod yn San Steffan, cyn dychwelyd i Gymru, lle bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd rheolaidd i deledu Rhwydwaith y BBC, yn ogystal âg yn gyflwynydd nifer fawr o raglenni teledu a radio yn Gymraeg a Saesneg, o newyddion a gwleidyddiaeth i raglenni celfyddydol a hanes.

Cafodd ei fagu ar Ynys Mon, ac mae’n byw ar yr ynys gyda’i wraig Llinos a’u tri o blant.

Swydd: Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn (Plaid Cymru)

Rôl o fewn Plaid Cymru: Arweinydd Plaid Cymru

Diddordebau personol: Mae ei ddiddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a theithio. Mae’n hyfforddwr rygbi ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni, yn rhedeg a beicio i gadw’n heini, ac mae’n dweud ei fod yn cyfansoddi a chwarae nifer o offerynau yn wael!.