RHUN AP IORWERTH YN GALW ETO AM “CHWYLDRO ATALIOL” WRTH I RESTRAU AROS Y GIG GYNYDDU YMHELLACH

“Nid problem tymhorol ydi’r pwysau ar ein GIG – a dweud y gwir, mae problemau’n bodoli ers cyn y pandemig” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae ffigyrau diweddaraf amseroedd aros y GIG, a ryddhawyd heddiw (dydd Iau 22 Medi), yn dangos bod rhestrau aros wedi cynyddu i dros 743,000 o gleifion yn aros, sef y nifer uchaf erioed.

Wrth ymateb i’r ffigyrau yma, dywedodd Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn a llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth AS:

“Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt – ac mae wedi bod yn amlwg i mi ein bod ni yno ers peth amser – ble nad yw’r pwysau sy’n wynebu ein GIG yn broblem tymhorol yn unig. Mae hi’n ddiwedd yr haf, mae rhestrau aros mor hir ag erioed – gyda llawer o fetrigau pwysig yn gwaethygu – ac nid mater o glirio’r ôl-groniad o ‘bwysau’r gaeaf’ yn unig yw hyn. Mewn gwirionedd, mae’r problemau y mae’n GIG yn ei wynebu yn dyddio’n ôl ymhell cyn y pandemig.

“Yn amlwg, mae angen i ni weld camau’n cael eu cymryd rwan i gynyddu capasiti ac i wella llif cleifion drwy’r system, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pethau’n gynaliadwy ar gyfer yr hirdymor. Mae’n rhaid i hynny gynnwys newid dramatig mewn agweddau – a chyllid gan y Llywodraeth – tuag at fesurau iechyd ataliol. Mae angen chwyldro ataliol arnom i dynnu pwysau oddi ar ein GIG.”

Wrth ymateb i adroddiadau gan y BBC bod cleifion yn talu am lawdriniaethau dramor yn hytrach nag wynebu rhestrau aros hir yng Nghymru, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae gormod o bobl sydd mewn poen yn aros rhy hir – ydi o’n syndod felly eu bod yn chwilio am ddatrysiad yn rhywle arall? Egwyddor allweddol y GIG yw y dylai ‘gofal iechyd da fod ar gael i bawb, waeth beth fo’u cyfoeth’ ond eto un canlyniad i restrau aros sy’n cynyddu o hyd yw’r system gofal iechyd tair haen sy’n datblygu – y rhai sy’n gallu fforddio gofal iechyd preifat o’r cychwyn cyntaf, y rhai sydd â’r modd i dalu am driniaeth ar ôl aros yn rhy hir, a phawb arall.”

DIWEDD

Erthygl y BBC: NHS waiting list in Wales: Patients turn to surgery abroad – BBC News