BOOM POWER YN GOHIRIO’U CYNLLUNIAU AM FFERM SOLAR AR YNYS MÔN

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi croesawu cadarnhad gan Boom Power bod eu cynlluniau ar gyfer ffermydd solar yn Llanbabo a Llechcynfarwy “wedi’u gohirio” yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, sydd yn amlinellu eu safbwynt na ddylid roi caniatad cynllunio i ffermydd solar ar dir amaethyddol sy’n cael ei ddosbarthu fel y tir ‘Gorau a Mwyaf Amlbwrpas’ (tir BMV).

Roedd cynlluniau Boom Power yn cynnwys datblygu fferm solar ar tua 64 hectar o dir, ond erbyn hyn mae’r mwyafrif ohono wedi’i ddosbarthu fel y Gorau a’r Mwyaf Amlbwrpas yn unol â’r mapiau Dosbarthu Tir Amaethyddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, gofynnodd Mr ap Iorwerth am arwyddocâd dosbarthiad tir BMV yn y Senedd, a chroesawu’r farn bod cadw’r tir gorau a mwyaf amlbwrpas ar gyfer amaethyddiaeth yn bwysicach nag erioed.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Boom Power, dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan Boom Power – oedd â chynlluniau ar gyfer ffermydd solar yn Llanbabo a Llechcynfarwy – yn un arwyddocaol i bob datblygiad solar ar Ynys Môn. Rwy’n falch eu bod wedi cymryd y penderfyniad i ohirio eu cynlluniau oherwydd canllawiau polisi cenedlaethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, oedd yn amlinellu pwysigrwydd cadw ein tir gorau a mwyaf amlbwrpas at ddefnydd amaethyddol a chynhyrchu bwyd.

“Rhaid i ddatblygwyr solar eraill gymryd sylw o’r penderfyniad hwn rwan.

“Siaradais am yr angen i warchod tir amaethyddol rhag gorddatblygu solar yn y Senedd yn gynharach eleni, ac mewn cwestiynau ysgrifenedig pellach i Weinidogion. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl amlygais hyn i’r gwrandawiad cynllunio oedd yn asesu’r cynnig am fferm solar yn Nhraffwll, ger Bryngwran. Mae solar yn iawn mewn egwyddor fel rhan o’r cymysgedd ynni adnewyddadwy, ond dim ond os yw yn y lle iawn, yn dod â budd cymunedol gwirioneddol a phan nad yw’n peryglu cynhyrchiant bwyd ar dir amaethyddol da.”

DIWEDD