Wrth ymateb i’r cyhoeddiad bod ‘Lloyds Bank’ yn bwriadu cau eu cangen yng Nghaergybi ar 23 Ionawr 2023, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn:
“Rwy’n hynod siomedig fod Caergybi yn wynebu ergyd pellach gyda banc arall yn cyhoeddi eu bwriad i gau. Mae gormod o fanciau wedi troi eu cefnau ar Ynys Môn dros y blynyddoedd.
“Byddaf yn trefnu i gyfarfod â Lloyds i drafod ymhellach, ac i bwysleisio cryfder y teimlad yn dilyn y cyhoeddiad hwn – mae’n rhaid bod yna ffyrdd mwy arloesol o sicrhau bod banciau’n aros ar agor yn ein cymunedau. Rwyf wedi galw arnynt i gydweithio yn y gorffennol i ddod â’u gwasanaethau dan yr un to, er enghraifft. Mae gallu trafod materion ariannol wyneb i wyneb drwy fynd i mewn i’r banc yn hanfodol i lawer.
“Maent yn dweud y bydd banciwr cymunedol yn ymweld â’r ardal am ‘gyfnod byr ar ôl i’r gangen gau’ i gynnig cymorth ac arweiniad. Ond fy nghwestiwn i yw pam mai dim ond am gyfnod byr y bydd y gwasanaeth hwn ar gael? Mae arna i ofn nad yw’n llawer o gysur.
“Mae’n fater yr ydw i wedi’i godi dro ar ôl tro – yn syml, mae’r banciau mawr yn troi eu cefnau ar gymunedau gwledig fel Ynys Môn. Ni allwn ddibynnu arnynt, ac rwy’n gefnogol iawn i’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu menter Banc Cambria newydd.”
DIWEDD