Blas ar waith Aelod o’r Senedd – Owain Sion

Ymunodd Owain Sion, disgybl yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy gyda Rhun ap Iorwerth a’r tîm yr wythnos yma am gyfnod o brofiad gwaith.  Dyma oedd ganddo i’w ddweud ar ddiwedd yr wythnos, wedi iddo dreulio amser yn y swyddfa etholaeth yn Llangefni, ac yn y Senedd yng Nghaerdydd:

“Mae’r wythnos dwytha’ wedi bod yn agoriad llygad i ba mor weithgar sydd angen i unigolyn fod er mwyn gallu gwasanaethu ei gymuned. O yrru e-byst diddiwedd, i ymchwilio i faterion amrywiol, i gymorthi a gwrando ar bryderon etholwyr – mae’r gwaith yn ddi-stop, ond yn hynod o wobrwyol pan mae achos yn cael ei ddatrys a mae rhywun yn cael gweld bod democratiaeth ar waith ar Ynys Môn.

“Hoffwn ddiolch i holl dîm Plaid Cymru Ynys Môn, ond yn benodol i Rhun, Non a Heledd yng Nghaerdydd am adael i mi gael cipolwg ar eu gwaith ac am y cyngor fydd o ddefnydd i mi lle bynnag yr ydw i’n mynd.”

Diolch am ymuno efo ni, Owain, a phob lwc i chdi yn y dyfodol – paid a bod yn ddiethr!