Blog profiad gwaith – gan Ifan Hughes

Cefais gyfle i fynd am wythnos o brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, yn ei swyddfa yn Llangefni ym mis Gorffennaf 2016. Rwyf yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Hanes ac yn byw ym Mryngwran Ynys Môn. Gan fy mod yn agosáu at ddiwedd fy nghyfnod yn y Brifysgol a dal ddim yn rhy siŵr o beth i wneud yn y dyfodol, roedd profiad gwaith gyda Rhun yn gyfle da i mi ddod i ddeall mwy am waith AC. Gan fy mod yn astudio Hanes a gyda diddordeb mewn gwleidyddiaeth roedd y profiad yn agoriad llygaid i mi er mwyn penderfynu pa lwybr y byddaf yn ei ddilyn ar ôl graddio.

Yn ystod fy amser cefais y cyfle i gyflawni nifer o wahanol dasgau a chael nifer o brofiadau newydd a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Treuliais fy amser yn y swyddfa yn Llangefni am yr wythnos gyfan ac yno cefais hefyd y cyfle i weithio yng nghwmni Rhun a’i staff a oedd yn barod i fy helpu ac yn rhoi digon o waith i mi wneud.

Mynychais un o gyfarfodydd cyhoeddus Rhun yng nghlwb rygbi Llangefni ar y 4ydd o Orffennaf ynglŷn â’r refferendwm a sut oedd Rhun yn bwriadu symud ymlaen yn dilyn y canlyniad i Adael Ewrop. Yn dilyn y cyfarfod cefais gyfle i ysgrifennu Datganiad I’r Wasg am y digwyddiad. Gan nad oeddwn erioed wedi ysgrifennu Datganiad o’r blaen, roedd hyn yn sgil defnyddiol iawn gan fod ysgrifennu datganiad yn ffocysu ar ddefnyddio dyfyniadau yn hytrach na fy nehongliad personol, rhywbeth yr wyf yn ei wneud yn aml yn fy ngwaith yn y Brifysgol.

Cymerais ran mewn ‘Cymhorthfa’ gyda Rhun yn gwrando ar broblemau ac ymholiadau pobl ynglŷn â nifer o faterion gwahanol. Wrth gymryd nodiadau ar yr ymholiadau roeddwn wedyn yn mynd ati i ysgrifennu llythyrau er mwyn ceisio datrys eu problemau. Hefyd ysgrifennais lythyrau yn llongyfarch grwp Creating Chances gan eu bod wedi ennill grant gan y Gronfa’r Loteri Fawr. Treuliais amser hefyd yn mynd drwy benawdau o’r Holyhead & Anglesey Mail ac yn rhoi crynodeb o’u cynnwys er mwyn diweddaru Rhun ar y newyddion lleol.

Gan nad oeddwn wedi mynd lawr i Gaerdydd gyda Rhun, cefais y cyfle i fynychu cyfarfodydd ym Môn. Drwy fynychu’r cyfarfodydd yma cefais syniad o beth mae Rhun a’i aelodau o’i staff yn ei ddelio gydag a chefais hefyd y cyfle i leisio fy marn yn rhai o’r cyfarfodydd yma.

Roedd hi’n wythnos ddiddorol iawn ac fe wnes i wir fwynhau’r profiad o gael dod i weithio gydag AC a dod i ddeall mwy am sut fath o waith maent yn delio gyda nhw. Yn sicr mae’r wythnos o brofiad gwaith wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi er mwyn meddwl am swydd o fewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.

Blog profiad gwaith – gan Madalen Reid

Ges i’r cyfle i wneud wythnos o brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, ym Mehefin 2016. Rydw i’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Tryfan ym Mangor, ac rydw i’n byw ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Er bod fi ddim yn astudio gwleidyddiaeth yn yr ysgol, mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Cymry, Prydain a’r byd, ac rydw i’n gobeithio astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol ac ella mynd ymlaen i weithio ym maes gwleidyddiaeth yn y dyfodol. Wnes i ddewis gwneud mi mhrofiad gwaith hefo Rhun ap Iorwerth oherwydd roeddwn i eisiau gweld gwaith dydd i ddydd AC a dod i ddeall mwy am fyd gwleidyddiaeth, ac yn enwedig gwleidyddiaeth Cymru.

Roedd yr wythnos roeddwn i’n gwneud fy mhrofiad gwaith yn wythnos ofnadwy o bwysig a diddorol yng ngwleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop. Yr wythnos cynt, roedd y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, hefo’r rhan fwyaf o siroedd Cymru yn pleidleisio i adael. Oherwydd hyn, ges i weld yr ochr cyffroes o waith AC, wrth i faterion pwysig fel yr Undeb Ewropeaidd cael eu trafod yn y cynulliad.

Gwariais tair allan o’r pum diwrnod yn Swyddfa Etholaeth Rhun ap Iorwerth yn Llangefni, lle ges i’r cyfle i ysgrifennu llythyrau a chlywed cwynion a phroblemau etholwyr oedd yn dod i’r swyddfa. Roedd hi’n ddiddorol gweld bod rhaid i staff AS delio hefo amryw o broblemau, o rhai bach oedd yn gallu cael eu datrys yn hawdd, i bryderon ynglŷn â materion pwysig fel canlyniad refferendwm yr UE, lle doedd dim atebion sydyn a hawdd. Dangosodd hyn i mi fod gwaith AC yn ei etholaeth yn bwysig, yn ogystal â’i waith yn y Senedd.

Gwariais y ddau ddiwrnod arall o’r wythnos yn y cynulliad yng Nghaerdydd. Dyma oedd y rhan mwyaf cyffroes o fy wythnos profiad gwaith. Roedd y swyddfa yn brysur, a wnes i gyfarfod pobl oeddwn i ddim ond wedi gweld ar y teledu o’r blaen, fel arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Ges i’r cyfle i wylio sesiwn plenary yn y Senedd, a hefyd trafodaeth amdan ganlyniadau’r refferendwm yr wythnos cynt. Ges i weld sut roedd pobl hefo safbwyntiau gwahanol iawn yn gallu trafod materion pwysig gan drio dod i gytundeb amdan beth i wneud nesaf i wneud y peth gorau i Gymru. Roedd o’n ddiddorol gweld trafodaeth o fater mor bwysig yn cymryd lle tra roeddwn i yn gwylio, ac i weld sut mae trafodaeth yn y Senedd yn gweithio, a sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud. Roedd y galeri cyhoeddus yn llawn oherwydd pwysigrwydd y drafodaeth, ac roedd hi’n amlwg iawn roedd gan bawb, yn cynnwys y cyhoedd, teimladau cryf am a mater oedd yn cael ei drafod

Wnes i hefyd dysgu mwy am y ffordd roedd pwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol yn cael eu sefydlu, eu pwrpas a sut roedden nhw’n gweithio. Roedd hyn yn agwedd o lywodraeth doeddwn i ddim wedi meddwl llawer amdan yn y gorffennol, a wnes i weld bod trafodaethau yn y Senedd dim ond yn rhan o’r gwaith roedd AC yn gwneud.

Roedd o’n wythnos ddiddorol iawn, ac rydw i rŵan yn deall mwy amdan y fath o waith mae pobl yn gwneud ym maes gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r profiad wedi gwneud fi’n fwy sicr na gwleidyddiaeth rydw i eisiau ei astudio yn y dyfodol.