AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn sector bwyd yr ynys.

Heddiw, gofynnodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths am ddatganiad ynglŷn â chynlluniau’r Llywodraeth i hyrwyddo’r sector bwyd ar Ynys Môn.
Esboniodd Rhun ap Iorwerth fod sector bwyd yr ynys eisoes yn gyffrous iawn, ond bod angen buddsoddiad clir, a nododd fod diffyg amlwg o eiddo priodol i allu cynhyrchu bwyd ar yr ynys. Dywedodd:
“Rydyn ni’n gweld gormod o fusnesau yn gorfod retroffit-io unedau ar yr ynys i’w gwneud nhw’n addas i gynhyrchu bwyd, mae’n sector cyffrous iawn ar yr ynys ac er mwyn tyfu mae angen canolfan gynhyrchu bwyd addas arnon ni, a allai hefyd wasanaethu fel arddangosfa ar gyfer y cynnyrch sydd gennym i’w gynnig. Rwyf wedi galw ers amser ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y syniad hwn. ”
Yn ddiweddar ymwelodd Rhun ap Iorwerth MS â Mona Island Dairy, ffatri gaws newydd sy’n cael ei datblygu ar yr ynys, a chroesawodd y buddsoddiad o £20m i’r ffatri a fydd yn creu 100 o swyddi ar yr ynys.
Anogodd Rhun ap Iorwerth weinidogion i edrych ar fenter Mona Island Dairy a’i ddefnyddio fel cyfle i ddatblygu’r sector ymhellach. Ychwanegodd:

“Beth am ddefnyddio Mona Island Dairy fel man cychwyn i gael y math o fuddsoddiad rydw i’n galw amdano mewn lleoliad neu leoliadau ar yr ynys? Mae cymaint o botensial i greu bwyd ond hefyd i greu swyddi o fewn sector bywiog a chyffrous ar Ynys Môn, ac rwy’n cynnig i’r Gweinidog ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i wireddu hyn a byddwn yn parhau i lobïo’r Llywodraeth ar hyn. ”

Wythnos Rhun – 14/6/21

Cyfarfod

Cefais gyfarfod ag Andy o ‘Anglesey Pursuits’ i ffilmio fideo ag o ynglŷn â’r digwyddiad elusen y bydd o yn ei wneud i godi arian i Mencap Môn wedi i’w chwaer gael gofal ganddynt ac ward alaw Ysbyty Gwynedd. Bu ei chwaer gael diagnosis o ganser y gwaed pan yr oedd hi’n 52 mlwydd oed, ac i godi arian, mi fydd Andy yn rhwyfo o Iwerddon i Gaergybi. Cefais y cyfle i fynd allan ar y dŵr efo Andy a ffilmio darn bach i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos nesaf.

Am y tro, dyma’r linc i gyfrannu at yr achos pe dymunwch – https://www.justgiving.com/crowdfunding/andy-williams-485

Grŵp Traws Bleidiol

Roeddwn wedi cyd-sefydlu a di cael fy ethol yn gyd-gadeirydd y GTB covid hir. Roedd yn gyfle arbennig i mi allu gwrando ar bobl oedd yn dioddef o’r cyflwr yma, a dod i wybod mwy am sut y mae’n effeithio bywydau pobl ledled Cymru.

Plenari – Rhaglen Lywodraethu

Ymatebais i’r rhaglen lywodraethu newydd am y 5 mlynedd nesaf. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at raglen ei Lywodraeth ar gyfer Cymru fel un uchelgeisiol a radical. Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai’r rhaglen hon ar gyfer llywodraeth a fydd yn darparu’r cyfeiriad newydd sydd ei angen ar Gymru, a’r trawsnewid sydd ei angen arnom er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn a llewyrchus.

Ymatebais iddo ar raglen BBC Radio Cymru hefyd – Dros Frecwast.

Plenari – Argyfwng Hinsawdd

Codais fy mhryderon, a phryderon nifer o bobl am yr argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu. Atgoffais y Prif Weinidog fod y sefyllfa’n gwaethygu a bod angen rhoi model ariannol a strategaeth ar waith i fynd ati i daclo’r broblem hon.

Tŵr Marcwis

Cefais y pleser o longyfarch Anglesey Column Trust wedi iddynt gael gwybod eu bod yn derbyn grant o £872,800 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dyma ffrwyth llafur blynyddoedd o waith caled, ac rwy’n falch iawn o fod wedi eu cefnogi gyda’u cais.

Rwan, cawn edrych ymlaen i weld y gwaith yn cael ei gwblau a’r golofn ar agor i ymwelwyr unwaith eto – mae gen i atgofion melys o ddringo’r grisiau troellog pan yn blentyn. Bydd y tŵr, a’r ganolfan ymwelwyr, siop a chaffi yn ychwanegiad gwerth ei gael i’n atyniadau treftadaeth lleol ar draws yr ynys.

Nodi Wythnos Iechyd Dynion 

Ar fy nghyfryngau cymdeithasol, nodais wythnos iechyd dynion gan rannu’r linc i bobl wirio eu risg  o ganser y prostad. Mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol o’r risg ac yn gweithredu pe bai angen. Dyma’r linc i wirio – https://prostatecanceruk.org/risk-checker?utm_source=nhspartners&utm_medium=affiliate-referral&utm_campaign=mens-health-week&utm_content=organic-video

Ymweliad

Bues yn ymweld â Mona Island Dairy Ltd, ac fe gefais groeso cynnes iawn. Dymunaf bob lwc iddynt ar eu menter newydd, ac mi fydd yn hwb aruthrol i’r sector amaeth a bwyd yma ym Môn.

Ymweliad

Es draw i Ganolfan Hyfforddiant Môn yn Llangefni i weld y cwmni eithaf newydd a sut y mae nhw wedi tyfu yn ystod y pandemig. Dros y flwyddyn diwethaf, maent wedi cynnig hyfforddiant i 1,000 o bobl ledled Ynys Môn a Gwynedd. 

Facebook Live
Nos Lun, cefais y cyfle i ailgydio yn y sesiwn Facebook Live wedi seibiant dros gyfnod gwyliau’r hanner tymor. Roedd hi’n braf iawn cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

Mae angen arweinyddiaeth a chefnogaeth yn wyneb yr amrywiolyn newydd

Cyn adolygiad tair wythnos Llywodraeth Cymru o reoliadau coronafeirws, dywed Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS fod yr ansicrwydd ynghylch yr amrywiolyn Delta newydd, ac mae tystiolaeth gynyddol am ei drosglwyddo yn amlwg yn gwneud ymlacio pellach yn anodd am y tro, ond mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth” ar gyfer y sector lletygarwch, lle mae gan lawer “ofnau gwirioneddol am y dyfodol.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS,

“Rhaid i ni fod yn obeithiol y bydd tystiolaeth yn dangos yn fuan bod y rhaglen frechu yn amddiffyn rhag yr amrywiad Delta newydd, ond hyd nes y cesglir digon o wybodaeth, rhaid bod yn ofalus.

“Mae llawer o letygarwch yn dal i brofi’r anawsterau o’r bwlch anesboniadwy mewn arian ym mis Ebrill eleni. Yn sgil yr amrywiolyn Delta, a sôn am gloeon pellach, mae hyn yn peri pryder gwirioneddol i’r holl ddiwydiant.

“Bydd lletygarwch – yn wir pob busnes yng Nghymru – yn edrych at Lywodraeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar adeg pan fydd gan lawer ofnau gwirioneddol am y dyfodol.

“Mae angen yr arweinyddiaeth a’r gefnogaeth honno hefyd gan y sector iechyd, sydd yn rhy ymwybodol o’r ôl-groniad enfawr sydd bellach yn eu hwynebu. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth posibl i helpu byrddau iechyd i frechu, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r amrywiad Delta yn ymledu gyflymaf. ”

Wythnos Rhun – 7/6/21

Cyfarfod
Cefais gyfarfod wythnosol â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod materion sy’n codi ar yr ynys. Yn y cyfarfod oedd y Prif Weithredwr a’r Arweinydd.

Facebook Live
Nos Lun, cefais y cyfle i ailgydio yn y sesiwn Facebook Live wedi seibiant dros gyfnod gwyliau’r hanner tymor. Roedd hi’n braf iawn cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

Plenari – Amrywiolyn Delta
Pwysleisiais i’r Gweinidog Iechyd, os ydym ni am allu gwarchod iechyd a chyfyngu ar impact ar yr economi a thwristiaeth ac ati, rydyn ni angen gwybod bod y Llywodraeth yn barod i weithredu yn gyflym ac mewn ffordd sydd mor ‘focused’ â phosib er mwyn inni allu, gobeithio, dod â phethau nôl i drefn mor fuan â phosib wedyn. Mae’r amrywiolyn Delta yn bryderus, mae angen gwneud yn siw1r fod pethu mewn lle i atal ei ledaeniad cyn i bethau waethygu.

Plenari – Staff Iechyd a Gofal
Dywedais wrth y Prif Weinidog fod y pandemig wedi amlygu realiti’r gweithlu nyrsio, gan gynnwys pwysau gwaith uchel, prinder staff, moràl a thâl isel – byddai codiad tâl teg yn mynd ymhell i gynorthwyo recriwitio a chadw staff.

Nodi Wythnos Gofalwyr
Cymerias y cyfle yn y senedd i ddiolch i ofalwyr ar hyd a lled Cymru sy’n gweithio mor galed, yn dawel i ofalu am anwyliaid a theuluoedd a, thrwy eu gwaith, sicrhau bod y GIG yn gallu gweithredu ac, wrth wneud hynny, arbed biliynau o bunnoedd. Gofynnais i’r Gweinidog Iechyd, ar ôl siarad â llawer o ofalwyr ledled Ynys Môn, pa gamau y byddai’n eu cymryd i gydlynu gwasanaethau ac i greu un pwynt cyswllt er mwyn cefnogi gofalwyr, sydd wir yn haeddu’r gefnogaeth honno.
Ymunais â digwyddiad rhithiol wedi’i drefnu gan Carers Trust Wales.

Llawdriniaethau Dewisiol
Ysgrifennais at Brif Weithredwr BIPBC yn tanlinellu’r boen y mae llawer o etholwyr yn brofi o ganlyniad i’w llawdriniaethau yn cael eu gohirio.
Ni allwn anwybyddu’r ffaith bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth a’r Bwrdd Iechyd fynd i’r afael i daclo’r amseroedd aros hir. Dydi dychwelyd i’r amseroedd aros cyn cyfnod y pandemig ddim yn ddigon.

Croesawu Buddsoddiad £20 miliwn i ddatblygu Ffatri Gaws ym Môn
Croesawais y buddsoddiad £20m i ddatblygu ffatri gaws yn Ynys Môn a chreu 100 o swyddi ar yr ynys. Rydw i wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sector fwyd ym Môn, yn cynnwys y posibilrwydd o greu parc busnes cynhyrchu bwyd ar yr ynys.
Rwy’n gobeithio gallu defnyddio datblygiad Mona Island Dairy fel sbardun pellach i wthio am ddatblygu’r sector hon, yn adeiladu ar arbennigedd sydd eisoes yn bodoli mewn nifer fawr o gwmniau bwyd ym Môn, i’w helpu i dyfu a chreu swyddi. Byddaf yn parhau â’r sgyrsiau yma gyda Gweinidogion yn yr wythnosau nesaf.

Cyfarfod
Cefais gyfarfod efo Menter Môn, er mwyn dal fyny ar bopeth sy’n mynd ymlaen yn ddiweddar.

Cyfarfod – Porth Wen Solar
Cefais gyfarfod â Porth Wen Solar i drafod y prosiect ac roedd yn gyfle i mi nodi unrhyw broblemau neu bryderon a oedd yn codi ynglŷn â’r prosiect.

Ymweliad
Es i draw i Gaergybi i ymweld â safle newydd Bragdy Cybi, roedd y bragdy yn edrych yn werth chweil ac yn gyfnod cyffrous iawn i’r cwmni wrth iddyn nhw ehangu eu busnes. Tra’r oeddwn yno, es draw i Cymell, sydd drws nesa i weld beth oedd ganddynt ar y gweill.
Yn y prynhawn, cefais gyfle i ymweld â safle Cambria a Longford Rd, i drafod y diweddaraf efo Hwb Cybi. Yn bresennol oedd Cadeirydd BIPBC, y cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y cynghorydd Glyn Haynes ac eraill.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

 

Rhun ap Iorwerth AS yn galw am eglurder ynghylch llawdriniaethau dewisiol.

Mae Rhun ap Iorwerth, AS dros Ynys Môn, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fanylu ar ba gamau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhestrau aros helaeth wrth symud ymlaen yn dilyn cyhoeddiad gan y Bwrdd Iechyd y byddant yn ailddechrau llawdriniaethau dewisiol.
Mewn llythyr at y Prif Weithredwr, dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod – “llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, gyda phryderon eu bod wedi cael eu gadael heb math o wybodaeth ynghylch eu llawdriniaethau a oedd fod i gymryd lle dros y flwyddyn ddiwethaf. Er eu bod yn llwyr werthfawrogi bod y llawdriniaethau hyn wedi’u gohirio oherwydd y cyfyngiadau dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig, mae cleifion yn dweud wrthyf pa mor bryderus ydyn nhw, a faint mae’r boen y maent yn ei brofi bob dydd yn effeithio ar eu bywydau – gan gynnwys eu hiechyd meddwl, a’u bod nhw’n teimlo nad oes unrhyw oleuni ar y gorwel.”
Pwysleisiodd – “ni allwn anwybyddu’r ffaith bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech egluro beth yw cynlluniau BIPBC i sicrhau na fyddwn yn dychwelyd i sut yr oedd pethau cyn cyfnod y pandemig.”
Yn ddiweddar, galwodd Rhun ap Iorwerth ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun adfer cadarn, uchelgeisiol, sy’n rhoi GIG Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oedd ar ddechrau’r pandemig, ac fe bwysleisiodd yn y llythyr i’r Bwrdd Iechyd y byddai’n croesawu eu barn hwythau ar sut y gellir cyflawni hyn.

Wythnos Rhun – 24/5/21

Cyfarfod

Cefais gyfarfod briffio â chynllun Alaw Môn, y cynllun i gael fferm Solar ger Llyn Alaw. Mae’n gyfnod digynsail o ran twf yn y sector ynni adnewyddol. Ond mae’n bwysig ein bod yn edrych yn union beth fydd yr elw cymunedol o’r prosiect. Byddaf yn edrych yn ofalus dros y datblygiadau dros yr wythnosau nesaf.

RNLI – Bae Trearddur

Cefais gyfarfod â’r bad achub ym Mae Trearddur, wedi iddynt fod allan ar y dŵr yn achub dynes a oedd yn syrffio yr wythnos flaenorol. Roedd yn gyfle gwych i mi allu diolch iddynt am eu gwaith anhygoel yno. Diolch!

Cyfarfod M-SParc

Cefais gyfarfod â Pryderi ap Rhisiart yn M-SParc i drafod nifer o bwyntiau gan gynnwys Digwyddiad Trafnidiaeth Gwyrdd, Grwp Trawsbleidiol Digidol, AgriTech a diweddariad ar gynllun Thermal Hydraulic. Roedd yn gyfarfod diddorol iawn i drafod llawer o bethau cyffrous.

Sesiwn Facebook Live

Nos Lun wych unwaith eto yn cael sgwrsio ac ateb unrhyw bryderon sy’n codi gydag etholwyr. Ymunodd llawer yn y sesiwn eto’r wythnos hon, ac roedd yn braf gweld cymaint yn gweld budd o’r sesiwn unwaith eto.

Argyfwng Tai

Gofynais gwestiwn cynta’r tymor newydd yn y 6ed Senedd i’r Prif Weinidog, a gofyn iddo am ddatganiad i’r argyfwng tai yr ydym yn ei wynebu. Mae’n sefyllfa argyfyngus y mae’n rhaid i’r Llywodraegth fynd i’r afael â hi, a hynny ar frys. Mae gormod o bobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – mae’n rhaid datrys y broblem hon cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Ymateb i ddiweddariadau Covid-19

Ymatebais i’r diweddaraf am y rheoliadau Covid-19, gan gynnig sylw i ambell ddiwygiad ac mi wnes apêl funud olaf ar y Llywodraeth i roi gwybod pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a’r meddwl, ac i ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel, ac mi wnes erfyn arnynt i wneud popeth y gallen nhw.

Holais hefyd am ba baratoadau oedd mewn lle ar gyfer 3ydd ton, er mwyn i ni fod yn barod pe byddai hynny yn digwydd ac i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws gorau posib.

Cymhorthfa

Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt. 

Etholwyr

Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Bad Achub Bae Trearddur i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.

Aeth Rhun ap Iorwerth AS i gwrdd â rhai o’r criw yng ngorsaf bad achub Bae Trearddur i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth ac i rybuddio am beryglon y dŵr, a sut i gadw’n ddiogel dros ŵyl y banc a thymor yr haf.

Cyfarfu ag un o’r criw Dafydd Griffiths, a fu’n rhan o alwad fawr yr wythnos diwethaf pan hysbyswyd y criw fod un syrffiwr wedi cyrraedd y lan tra bod y llall yn dal i fod yn y dŵr. Ar ôl chwiliad byr fe ddaethon nhw o hyd i’r unigolyn ger y creigiau tua chan metr i’r môr o draeth Bae Trearddur. Disgrifiodd Dafydd y digwyddiad fel un o’r gwaethaf y mae wedi’i weld mewn dros 20 mlynedd o’i gyfnod yn gwirfoddoli i’r RNLI.

Diolchodd Rhun ap Iorwerth i’r criw am eu gwaith caled a nododd fod “yr RNLI bob amser yno i ni”.
Anogodd Dafydd i bobl aros yn ddiogel dros ŵyl y banc a thymor yr haf gan ddweud “Os ydych chi’n mynd allan ar y dŵr, gadewch i wylwyr y glannau wybod ble rydych chi’n mynd, faint o’r gloch y byddwch chi’n ôl, a cheisiwch beidio â mynd ar eich pen eich hun , nodwch faint sydd yn eich grŵp a mwynhewch eich hun – mae gennym arfordir hyfryd yma ”

Croesawu penodi meddygon newydd, ond y galw’n parhau am well gwasnaethau iechyd yn ardal Caergybi – Rhun ap Iorwerth AS

Ar ôl bron i ddwy flynedd o drafferthion dwys efo gofal sylfaenol yng Nghaergybi, mae AS Ynys Môn wedi croesawu’r newyddion bod tri meddyg teulu wedi cael eu recriwtio. Mae Rhun ap Iorwerth yn gweld hyn fel cam pwysig tuag at sefydlogi gwasanaethau, ond mae cryn ffordd i fynd meddai, yn cynnwys yr angen am ganolfan iechyd newydd.
Diffyg meddygon oedd un o’r prif resymau pan fu raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymryd cyfrifoldeb am feddygfeydd Longford Rd a Cambria yn 2019, ac ers hynny – yn enwedig yn sgil heriau y pandemig – mae Mr ap Iorwerth wedi clywed cwyn ar ôl cwyn gan gleifion sydd wedi cael anhawster cael mynediad at wasanethau.
Meddai Mr ap Iorwerth:
“Rwy’n falch bod y Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bellach bod tri meddyg newydd wedi’u penodi. Gallwn ddechrau edrych ymlaen rŵan at ailadeiladu gwasnaethau, ac rwy’n gwybod y caiff y tri groeso yng Nghaergybi. Ond mae problemau’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos bod angen mwy na’r penodiadau hyn i greu gwasanaethau modern a gwydn.
Dywed Mr ap Iorwerth y bydd angen “canolfan iechyd newydd fel rhan o’r ateb. Rydym fel cymuned wedi llwyddo i wneud hynny yn flaenoriaeth, a chlywais yn ddiweddar bod trafodaethau gyda Chyngor Môn ar safle ar gyfer canolfan iechyd yn rhai adeiladol. Rwyf i o’r farn y dylai hwnnw fod reit yng nghanol y dref, er mwyn clymu anghenion gofal iechyd gydag anghenion cymdeithasol ac economaidd ehangach yr ardal hefyd. Rwyf wedi annog edrych ar safle’r hen Woolworths, sy’n ganolog, yn fawr, a gyda digon o le parcio.
Cadarnhawyd y tri phenodiad newydd mewn llythyr at y Cynghorydd Plaid Cymru Trefor Lloyd Hughes.
Dywedodd y Cyng. Trefor Lloyd Hughes:
 “Mae’n gywilyddus ein bod ni’n Nghaergybi wedi gorfod disgwyl am dros ddwy flynedd i feddygon ddod yno i’r ddwy feddygfa.
Ychwanegodd – “Mae’n rhaid i’r Bwrdd iechyd amlinellu’n union beth fydd y newidiadau yn ei olygu i gleifion meddygfeydd Cambira a Longofrd Rd.”
Mae Rhun ap Iorwerth wedi cael sicrwydd hefyd y bydd newidiadau yn cael eu gwyneud i’r system ffôn a’r system E-consult. Dywed y Bwrdd Iechyd eu bod wedi diweddaru y system ffôn yn ddiweddar iawn, ac ei fod yn gwneud gwahaniaeth yn barod.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sy’n llefarydd iechyd a Gofal i Blaid Cymru yn y Senedd:

“Hoffwn ddiolch i’r staff sydd wedi ceisio parhau i gynnig gwasnaethau mewn amgylchiadau mor anodd, ac rydw i’n ddiolchgar hefyd i bawb sydd wedi cysylltu dros y blynyddoedd i rannu eu pryderon am sefyllfa’r ddwy feddygfa.”

“ARGYFWNG TAI ANGEN EI DACLO RŴAN, CYN IDDI FYND YN RHY HWYR!”

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi gofyn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford roi ymrwymiad llawn a chlir i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Yn y sesiwn gyntaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog yn nhymor y 6ed Senedd, gofynnodd Rhun ap Iorwerth AS dros Ynys Môn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud datganiad ar argaeledd tai yn y farchnad leol ar Ynys Môn, mater enfawr a gododd ar garreg y drws yn ystod etholiad diweddar y Senedd, ac fel rhan o ddadl ehangach.
Yn ei araith, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS: “Rwy’n credu ei bod hi’n briodol iawn bod y cwestiwn cyntaf yn y tymor seneddol newydd yma yn ymwneud â mater sy’n gymaint o argyfwng ac yn un mae pobl yn mynnu gweld gweithredu arno fo. Un cyfraniad cwbl amlwg at yr argyfwng tai ydy’r twf cwbl ddi-reolaeth yn y farchnad am ail gartrefi. Dwi’n ei weld o bob dydd. Dwi’n ei weld o yn fy mhentre’ fy hun. Dwi’n ei weld o mewn pentrefi glan môr yn enwedig. Dwi’n ei weld o yn strydoedd gwag a ffenestri tywyll y gaeaf, yn rhwystredigaeth pobl ifanc yn methu fforddio cael cartref yn eu cymuned. Dwi’n ei weld o yn y cynnydd o 16% mewn pris eiddo ar Ynys Môn yn y flwyddyn diwethaf. Mae pethau’n mynd yn waeth bob dydd.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwahaniaethu’n glir rhwng perchnogaeth ail gartref a thwristiaeth. Mae twristiaeth gynhenid, wedi’i berchnogi’n lleol, yn arf economaidd pwysig, ond dydy perchnogaeth ail gartrefi di-reolaeth yn helpu dim.
“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd camau brys, gan ddefnyddio pob arf cynllunio a threthiant ac ati i geisio dod â ryw fath o reolaeth ar y farchnad dai, ac i roi ryw fath o obaith, ryw fath o siawns i bobl yn ein cymunedau ni.”
Diolchodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford i Rhun ap Iorwerth am godi’r cwestiwn ac ymatebodd, gan nodi: “Rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio nifer o’r pethau sydd gyda ni yn y maes trethi, yn y maes cynllunio, a rhai pethau eraill, i’w tynnu at ei gilydd i geisio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa y mae wedi’i hamlinellu y prynhawn yma, a’i wneud, os gallwn, mewn cydweithrediad. ”