Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Bad Achub Bae Trearddur i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.

Aeth Rhun ap Iorwerth AS i gwrdd â rhai o’r criw yng ngorsaf bad achub Bae Trearddur i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth ac i rybuddio am beryglon y dŵr, a sut i gadw’n ddiogel dros ŵyl y banc a thymor yr haf.

Cyfarfu ag un o’r criw Dafydd Griffiths, a fu’n rhan o alwad fawr yr wythnos diwethaf pan hysbyswyd y criw fod un syrffiwr wedi cyrraedd y lan tra bod y llall yn dal i fod yn y dŵr. Ar ôl chwiliad byr fe ddaethon nhw o hyd i’r unigolyn ger y creigiau tua chan metr i’r môr o draeth Bae Trearddur. Disgrifiodd Dafydd y digwyddiad fel un o’r gwaethaf y mae wedi’i weld mewn dros 20 mlynedd o’i gyfnod yn gwirfoddoli i’r RNLI.

Diolchodd Rhun ap Iorwerth i’r criw am eu gwaith caled a nododd fod “yr RNLI bob amser yno i ni”.
Anogodd Dafydd i bobl aros yn ddiogel dros ŵyl y banc a thymor yr haf gan ddweud “Os ydych chi’n mynd allan ar y dŵr, gadewch i wylwyr y glannau wybod ble rydych chi’n mynd, faint o’r gloch y byddwch chi’n ôl, a cheisiwch beidio â mynd ar eich pen eich hun , nodwch faint sydd yn eich grŵp a mwynhewch eich hun – mae gennym arfordir hyfryd yma ”