“ARGYFWNG TAI ANGEN EI DACLO RŴAN, CYN IDDI FYND YN RHY HWYR!”

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi gofyn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford roi ymrwymiad llawn a chlir i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Yn y sesiwn gyntaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog yn nhymor y 6ed Senedd, gofynnodd Rhun ap Iorwerth AS dros Ynys Môn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud datganiad ar argaeledd tai yn y farchnad leol ar Ynys Môn, mater enfawr a gododd ar garreg y drws yn ystod etholiad diweddar y Senedd, ac fel rhan o ddadl ehangach.
Yn ei araith, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS: “Rwy’n credu ei bod hi’n briodol iawn bod y cwestiwn cyntaf yn y tymor seneddol newydd yma yn ymwneud â mater sy’n gymaint o argyfwng ac yn un mae pobl yn mynnu gweld gweithredu arno fo. Un cyfraniad cwbl amlwg at yr argyfwng tai ydy’r twf cwbl ddi-reolaeth yn y farchnad am ail gartrefi. Dwi’n ei weld o bob dydd. Dwi’n ei weld o yn fy mhentre’ fy hun. Dwi’n ei weld o mewn pentrefi glan môr yn enwedig. Dwi’n ei weld o yn strydoedd gwag a ffenestri tywyll y gaeaf, yn rhwystredigaeth pobl ifanc yn methu fforddio cael cartref yn eu cymuned. Dwi’n ei weld o yn y cynnydd o 16% mewn pris eiddo ar Ynys Môn yn y flwyddyn diwethaf. Mae pethau’n mynd yn waeth bob dydd.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwahaniaethu’n glir rhwng perchnogaeth ail gartref a thwristiaeth. Mae twristiaeth gynhenid, wedi’i berchnogi’n lleol, yn arf economaidd pwysig, ond dydy perchnogaeth ail gartrefi di-reolaeth yn helpu dim.
“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd camau brys, gan ddefnyddio pob arf cynllunio a threthiant ac ati i geisio dod â ryw fath o reolaeth ar y farchnad dai, ac i roi ryw fath o obaith, ryw fath o siawns i bobl yn ein cymunedau ni.”
Diolchodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford i Rhun ap Iorwerth am godi’r cwestiwn ac ymatebodd, gan nodi: “Rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio nifer o’r pethau sydd gyda ni yn y maes trethi, yn y maes cynllunio, a rhai pethau eraill, i’w tynnu at ei gilydd i geisio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa y mae wedi’i hamlinellu y prynhawn yma, a’i wneud, os gallwn, mewn cydweithrediad. ”