Croesawu penodi meddygon newydd, ond y galw’n parhau am well gwasnaethau iechyd yn ardal Caergybi – Rhun ap Iorwerth AS

Ar ôl bron i ddwy flynedd o drafferthion dwys efo gofal sylfaenol yng Nghaergybi, mae AS Ynys Môn wedi croesawu’r newyddion bod tri meddyg teulu wedi cael eu recriwtio. Mae Rhun ap Iorwerth yn gweld hyn fel cam pwysig tuag at sefydlogi gwasanaethau, ond mae cryn ffordd i fynd meddai, yn cynnwys yr angen am ganolfan iechyd newydd.
Diffyg meddygon oedd un o’r prif resymau pan fu raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymryd cyfrifoldeb am feddygfeydd Longford Rd a Cambria yn 2019, ac ers hynny – yn enwedig yn sgil heriau y pandemig – mae Mr ap Iorwerth wedi clywed cwyn ar ôl cwyn gan gleifion sydd wedi cael anhawster cael mynediad at wasanethau.
Meddai Mr ap Iorwerth:
“Rwy’n falch bod y Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bellach bod tri meddyg newydd wedi’u penodi. Gallwn ddechrau edrych ymlaen rŵan at ailadeiladu gwasnaethau, ac rwy’n gwybod y caiff y tri groeso yng Nghaergybi. Ond mae problemau’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos bod angen mwy na’r penodiadau hyn i greu gwasanaethau modern a gwydn.
Dywed Mr ap Iorwerth y bydd angen “canolfan iechyd newydd fel rhan o’r ateb. Rydym fel cymuned wedi llwyddo i wneud hynny yn flaenoriaeth, a chlywais yn ddiweddar bod trafodaethau gyda Chyngor Môn ar safle ar gyfer canolfan iechyd yn rhai adeiladol. Rwyf i o’r farn y dylai hwnnw fod reit yng nghanol y dref, er mwyn clymu anghenion gofal iechyd gydag anghenion cymdeithasol ac economaidd ehangach yr ardal hefyd. Rwyf wedi annog edrych ar safle’r hen Woolworths, sy’n ganolog, yn fawr, a gyda digon o le parcio.
Cadarnhawyd y tri phenodiad newydd mewn llythyr at y Cynghorydd Plaid Cymru Trefor Lloyd Hughes.
Dywedodd y Cyng. Trefor Lloyd Hughes:
 “Mae’n gywilyddus ein bod ni’n Nghaergybi wedi gorfod disgwyl am dros ddwy flynedd i feddygon ddod yno i’r ddwy feddygfa.
Ychwanegodd – “Mae’n rhaid i’r Bwrdd iechyd amlinellu’n union beth fydd y newidiadau yn ei olygu i gleifion meddygfeydd Cambira a Longofrd Rd.”
Mae Rhun ap Iorwerth wedi cael sicrwydd hefyd y bydd newidiadau yn cael eu gwyneud i’r system ffôn a’r system E-consult. Dywed y Bwrdd Iechyd eu bod wedi diweddaru y system ffôn yn ddiweddar iawn, ac ei fod yn gwneud gwahaniaeth yn barod.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sy’n llefarydd iechyd a Gofal i Blaid Cymru yn y Senedd:

“Hoffwn ddiolch i’r staff sydd wedi ceisio parhau i gynnig gwasnaethau mewn amgylchiadau mor anodd, ac rydw i’n ddiolchgar hefyd i bawb sydd wedi cysylltu dros y blynyddoedd i rannu eu pryderon am sefyllfa’r ddwy feddygfa.”