Diweddariad gan Dŵr Cymru – ardal Llanddona

Newydd ddod oddi ar y ffôn efo Prif Weithredwr Dŵr Cymru Chris Jones i drafod y diweddaraf o ran eiddo sydd heb ddŵr yn Ynys Môn. Mae llawer ohonoch wedi bod mewn cysylltiad, ac rwyf wedi bod mewn cyswllt cyson gyda Dŵr Cymru. Rwy’n deall bellach mai ryw 200 eiddo sy’n dal wedi eu heffeithio – ffigwr sydd, wrth gwrs yn dal yn bryderus o uchel, ond cefais gyfle i drafod ymateb Dŵr Cymru a’r gwaith sy’n cael ei wneud i adfer cysylltiadau.

Yn gyntaf, mae’n bwysig iawn i fi bod y bobl fwyaf bregus yn cael pob cefnogaeth, ac rwy’n eich hannog i ffonio 0800 052 0130 i roi gwybod am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych chi neu aelod o’r teulu neu gymydog. Cefais addewid y bydd pob cymorth posibl yn cael ei roi.

Rwy’n deall hefyd bod dŵr potel yn mynd i barhau i gael ei rannu yn Llanddona a Llangoed i’r bobl sy’n dal heb ddŵr.

Y cwestiwn mawr yn amlwg yw ‘pa bryd fydd y cyflenwad yn ei ôl?’. Wel yn sicr y gobaith ydi ailgysylltu erbyn heno. Mae’r system ei hun yn ôl yn ‘pressurized’ erbyn hyn, ond gyda rhai eiddo penodol ar is-rwydweithiau yn dal heb ddŵr oherwydd ‘air blocks’ yn y system, neu efallai oherwydd bod dŵr yn dal i ollwng o rai pibellau. Y gobaith yw bod pob cyswllt yn ei ôl erbyn heno, ond mae Dŵr Cymru ofn gwneud addewid llwyr rhag ofn bod problemau yn cymryd ychydig yn hirach i’w datrys mewn abell eiddo.

Plis cadwch mewn cysylltiad gyda fy swyddfa ar ebost rhun.apiorwerth@cynulliad.cymru neu 01248 723599 oes oes problemau penodol yr hoffech eu trafod.

Rwy’n ddiolchgar i Gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn ward Seiriol am eu gwaith hwythau dros eu hetholwyr yn yr ardal sydd wedi dioddef waethaf.

AC yn gofyn am ddiweddariad am groesiad y Fenai

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i’r prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad ar draws y Fenai.

Yn ystod Cwestiynau i’r prif Weinidog yr wythnos hon, cafodd Rhun gadarnhad ganddo eu bod nhw’n dal ar amser i gwblhau’r prosiect yn 2022. Gofynnodd ymhellach ynglŷn â thrafodaethau Llywodraeth Cymru gyda’r Grid ac am bwysigrwydd ymgynghori’n llawn gyda phobl leol am lwybrau posib. Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun:

“Rydw i’n falch ein bod ni, yn ein cytundeb cyn y gyllideb, wedi gallu sicrhau arian i ddatblygu’r prosiect yma, sydd ei angen nid dim ond oherwydd rhwystredigaeth bod pobl yn gorfod oedi cyn croesi’r bont yn aml ond er mwyn adeiladu gwytnwch i’r croesiad rhwng Môn a’r tir mawr.

“Ym Mehefin y llynedd, rydw i’n meddwl, fe wnes i’r achos yn y Siambr yma dros drio sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn gwneud cyfraniad helaeth tuag at y bont yn hytrach na gwastraffu arian—o bosib £100 miliwn, £200 miliwn—yn rhoi twnnel o dan y Fenai. Rŵan bod y dyddiad cwblhau, yn hytrach na’r dyddiad dechrau, yn 2021-22, a allwn ni gymryd hynny fel arwydd bod Grid Cenedlaethol wedi cytuno i wneud y cyfraniad yma erbyn hyn, ac mai chwilio am fodel o sut i wireddu hynny ydy hynny? A hefyd, a allaf i gael sicrwydd y bydd ymgynghori ar y cynllun yn digwydd mor eang ac mor llawn â phosib efo’r etholwyr yn Ynys Môn?”

Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:

“Nid oes yna unrhyw fath o gytundeb eto. Fe wnes i godi hwn gyda’r grid tua dwy neu dair blynedd yn ôl. Bryd hynny, roeddem ni eisiau ystyried gyda nhw ym mha ffordd y gallem ni ddatblygu croesiad i’r Fenai. Bryd hynny, nid oedd diddordeb gyda nhw. Maen nhw wedi newid ers hynny, ond nid ydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gallu dweud, ‘Mae yna gytundeb’. Erbyn mis Mai, wrth gwrs, blwyddyn nesaf, byddwn ni yn cyhoeddi beth yw’r llwybr rydym ni eisiau ei gymryd er mwyn i’r bont gael ei hadeiladu. Erbyn hynny, wrth gwrs—yn bell cyn hynny, gobeithio—byddwn ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gwybod beth yw sefyllfa’r grid, a pha fath o gyfraniad maen nhw’n fodlon rhoi i’r bont.”

Fy ymateb i Ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar beilonau

Annwyl Syr / Madam,
 
Ysgrifennaf i ymateb i ymgynghoriad Grid Cenedlaethol ar Gysylltiad gogledd Cymru, ac i ail-fynegi fy ngwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig i adeiladu rhês o beilonau newydd ar draws Ynys Môn.
 
Fe wyddoch eisoes o fy ymatebion i ymgynghoriadau blaenorol, a sawl sgwrs a gohebiaeth gyda’r Grid, fod gen i ffafriaeth gref tuag at ddod o hyd i ateb arall a fy mod yn cefnogi gosod ceblau o dan y ddaear yn hytrach nac uwchben.  O fod wedi siarad gyda nifer fawr o drigolion a mudiadau lleol yn Ynys Môn, a mynychu sawl cyfarfod cyhoeddus lleol ar y pwnc, gwn mai dyma yw barn y mwyafrif ar yr ynys, ac mae aelodau etholedig ar bob lefel hefyd – fy hun fel Aelod Cynulliad, yr Aelod Seneddol lleol, Aelod Seneddol Ewropeaidd a Chynghorwyr Môn – i gyd wedi siarad yn unfrydol yn erbyn peilonau.
 
Er gwaethaf y gwrthwynebiad cryf yn lleol a’r ffaith fod ymgynghoriadau blaenorol y Grid wedi dangos yn glir fod y mwyafrif llethol o bobl ddim yn ffafrio peilonau, mae’n hynod siomedig fod y Grid yn dal i ganolbwyntio ar yr opsiwn yma.  Nid oes dim cyfaddawd wedi bod, ac nid oes digon o dystiolaeth bod opsiynau eraill wedi cael eu hystyried o ddifrif.
 
Mae’n ymddangos mai’r gost yw’r ffactor allweddol i’r Grid yn hytrach na ffactorau technegol rhoi ceblau o dan y ddaear. Fodd bynnag, credaf y byddai’r gost i bobl Môn o gael rhês newydd o beilonau yn drwm ac yn anheg.  Mae’r Grid i’w weld yn gofyn i bobl Môn dalu er mwyn darparu gweddill y DU gyda’r opsiwn rhataf i drosglwyddo trydan.  Byddai pobl Môn yn talu trwy ostyngiad yng ngwerth eu tai a byddai’r diwydiant twristiaeth – sydd yn werth tua £250m i’r ynys bob blwyddyn – o dan fygythiad.  Annogaf chi’n gryf felly i wneud asesiad cost manwl cyn dod i benderfyniad, a gresynaf yn fawr nad ydy hyn eisoes wedi cael ei wneud, o ystyried yr effaith ar bobl ac economi Môn. Cytunodd Ofgem yn ddiweddar i fy nhgais i ofyn i Grid gynnal y fath asesiad, ac rwyf yn edrych ymlaen i weld y canlyniadau.
 
Yn ogystal ag effaith economaidd, credaf y dylai’r Grid roi mwy o ystyriaeth i effaith amgylcheddol peilonau newydd. Fe gyhoeddodd y Grid yn ddiweddar eu bod am wario canoedd o filiynau o bunoedd ar osod gwifrau dan ddaear yn Ardal y Llynoedd er mwyn lleihau’r effaith amgylchedddol. Nid yw Ynys Môn yn haeddu dim llai.  Efallai nad ydy Môn yn Barc Cenedlaethol, ond mae’n Geoparc UNESCO a ganddi sawl Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae ein harddwch naturiol yn ased mor bwysig i Ynys Môn ag i unrhyw Barc Cenedlaethol.
 
Nodaf bod y Grid wedi penderfynu peidio rhoi ceblau uwchben y Fenai. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw nad oedd unrhyw fwriad ganddynt i osod gwifrau uwch y Fenai o’r cychwyn gan y gwyddent na chaent ganiatad i wneud hynny. Nid ydwyf yn cytuno mai adeiladu twnel i geblau fyddai’r opsiwn gorau.  Byddai llai o effaith amgylcheddol drwy i’r Grid gyfrannu tuag at gost pont newydd, i ddeuoli llwybr y Bont Britannia bresennol, gan roi gwifrau ar y bont newydd honno. Byddai gwario efallai £150m ar dwnel yn awr, a £150m arall ar bont yn y blynyddoedd i ddod yn wastraff  gwarthus o arian cyhoeddus pan ellid lladd dau dderyn ar yr un pryd. 

Hefyd, os yw’r Grid yn dewis peidio rhoi ceblau ar draws y Fenai rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?
 
Dadl arall yw gwydnwch, neu resilience. Credaf bod y bwriad i osod dwy rês o beilonau gyfochrog a’u gilydd yn codi cwestiwn o wydnwch o ran cysylltiad i bwerdy Wylfa Newydd. Gallai nifer o ffactorau posibl, gan gynnwys tywydd gwael neu ddamwain, arwain at golli’r cysylltiad. Buasai claddu gwifrau dan ddaear yn atal hynny.
 
Gofynnaf i chi unwaith eto i ystyried pryderon pobl leol ac i wneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn ateb amgen na fyddai’n cael cymaint o effaith negyddol ar amgylchedd, golygfeydd, twristiaeth ac economi yr ynys. Yn ôl Grid, £400m fyddai’r gost ychwanegol – swm bychan iawn yng nghyd-destun buddsoddiadau isadeiledd trydan o’r math hwn.
 
Yn gywir,
 
RHUN AP IORWERTH
Aelod Cynulliad Ynys Môn

Cyfarfod gyda phenanethiaid NatWest i ddatgan gwrthwynebiad i gau banciau ym Môn

Cyfarfûm heddiw gyda uwch-reolwyr NatWest i ddatgan gwrthwynebiad i’r penderfyniad i gau canghennau Amlwch, Caergybi a Phorthaethwy.

Dywedais bod patrwm amlwg yma o fanciau – nid dim ond NatWest – yn tynnu allan o drefi bychain, a bod angen i’r banciau gofio mai eu cwsmeriaid sy’n rhoi eu elw iddyn nhw. Fe wnes i ddadlau y dylen nhw fod yn ymchwilio’n llawn i effaith cau cangen CYN ystyried gwneud hynny – nid AR OL gwneud y penderfyniad.

Ceisiais am sicrwydd ynglyn a chynnal lefelau o wasanaethau, yn cynnwys gwasanaethau i fusnesau drwy Swyddfa’r Post, ac o ran peiriannau arian. Fe gytunon nhw in edrych eto ar y penderfyniad i gau ‘cashpoint’ Porthaethwy gan nad oes un 24 awr arall o gwbl yng nghanol y dref.

Rwyf yn teimlo dros staff ardderchog NatWest ym Môn hefyd, a cefais sicrwydd mai’r gobaith yw na fydd yna ddiswyddiadau gorfodol.

Gofynnais, wrth gwrs, iddynt ailystyried eu penderfyniad, ond mae’n amlwg mai lliniaru posib ydi’r unig ystyriaeth ganddyn nhw, yn cynnwys creu swydd Banciwr Cynunedol newydd i Fôn, cryfhau gwasanaethau drwy’r Post, ac ynweliadau gan ganhennau symudol. Ond dyw hyn yn amlwg ddim yn ddigon. Rhaid gweld gweithredu rhywsut, gan Lywodraethau a’r diwydiant ei hun, i gynnal gwasanaethau ariannol mewn llefydd fel Môn. Rydym yn prysur eu colli.

Gwasanaeth casglu cewynnau Môn

Dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Ar ôl i mi fod mewn cysylltiad hefo’r Cyngor, rydw i wedi derbyn ymateb cadarnhaol ganddyn nhw sydd yn dangos eu bod wedi ymateb i’n pryderon – maent yn awr wedi newid y polisi i gasglu cewynau plant hyd at 4 oed yn hytrach na 3 oed ac os fydd gofyn am gyfnod hirach gall y rhieni / gwarchodwyr adael iddynt wybod. Maent hefyd wedi cadarnhau er y byddant angen gwybod oed y plentyn, ond ni fyddant angen copi o’r tystysgrif geni. Diolch i bawb wnaeth gysylltu hefo’n swyddfa ni ar hyn.”