“Ddim yn ddigon da” nad yw 1 o bob 4 claf yn dechrau triniaeth ganser o fewn y 62 diwrnod targed

Ymateb Rhun ap Iorwerth i restrau aros y GIG, ac amseroedd aros canser

 

Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos bod 600,000 o gleifion ar restrau aros GIG Cymru, ac nad yw 1 o bob 4 claf yn dechrau triniaeth ganser o fewn y 62 diwrnod targed, dywedodd llefarydd ar ran Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

 

“Tynnwyd sylw at faint o restrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ond y gwir yw bod y rhain eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig. Nid yw dychwelyd i ‘normal gyn-bandemig’ yn ddigon da.”

 

“Er mwyn gwella pethau, rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru gyflwyno cynllun adfer cadarn, uchelgeisiol, sy’n rhoi GIG Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem ar ddechrau’r pandemig. Rhaid i hyn gynnwys strategaeth gweithlu i ddenu a chadw gweithwyr iechyd a gofal.”

 

“Fel mater o frys, rhaid i’r cynllun flaenoriaethu diagnosis canser cynnar, gan ddod â’r rhai sydd heb gael diagnosis i’r system a darparu gofal effeithiol i’r cleifion hynny yng nghyfnodau diweddarach canser a fydd angen triniaethau mwy cymhleth.”

RHUN AP IORWERTH AS YN CAEL EI AIL-ETHOL YN GADEIRYDD Y GRWP TRAWS BLEIDIOL AR DDIGIDOL

Yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol yn y chweched Senedd yr wythnos diwethaf, ail-etholwyd Rhun ap Iorwerth AS yn Gadeirydd gydag M-Sparc yn cael eu hailethol yn ysgrifenyddiaeth y grŵp.

 

Mynychwyd y cyfarfod gan Aelodau o’r Senedd o bob plaid ynghyd â sefydliadau eraill o’r sector digidol, a manteisiodd M-SParc ar y cyfle i lansio’r clwstwr Agri-Tech yn swyddogol yn y fforwm ledled Cymru. Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol i sicrhau bod y genedl mewn sefyllfa dda i elwa ar gyfleoedd y sector digidol. Mae’r Clwstwr AgriTech yn hyrwyddo cydweithredu ac arloesi mewn sector twf uchel gyda buddion economaidd i’r rhanbarth.

 

Yn 2020 buddsoddodd y DU £24 Miliwn mewn prosiectau AgriTech, gan arwain at lawer o ddatblygiadau technolegol cyffrous yn y sector amaethyddol, a bydd lansiad y Clwstwr AgriTech yn sicrhau fod gogledd Cymru yn gallu elwa ar hyn, gan helpu’r sector i dyfu yn y rhanbarth.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n falch iawn o gael fy ailethol yn Gadeirydd y grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol. Rwy’n awyddus i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i elwa’n gymdeithasol ac yn economaidd o’r sector, ac mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n arloesi yn y sector a’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrru’r sector ymlaen i ddod at ei gilydd i drafod a rhannu syniadau”

 

Dywedodd Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai Pryderi ap Rhisiart:

“Mae cael ein hailethol yn Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol dros Ddigidol yng Nghymru yn gyfle cyffrous iawn i M-SParc fod yn rhan o helpu i symud yr agenda ddigidol ymlaen yng Nghymru, gan gydweithio â swyddogion etholedig ac ystod eang o arbenigwyr ar flaen y gad yn y maes hwn. “

“Rydym yn ymwneud â llawer o grwpiau a phrosiectau yn y sector hwn, ac yn teimlo bod ‘mudiad’ yn datblygu y gallwn ni yng ngogledd Cymru ei arwain o’r tu blaen. Mae cyfleoedd clir ym maes Digidol yng Nghymru ar draws ystod o sectorau ond mae yna heriau i’w goresgyn hefyd, ac mae hyn yn rhoi llwyfan inni drafod yr heriau hynny a’r ffordd orau o adeiladu ar y cyfleoedd.”

 

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Fe wnes i fwynhau clywed am y prosiect clwstwr AgriTech a’i nodau yn fawr – dyma’r union fath o weithio cydweithredol sydd ei angen arnom i sicrhau bod y sector yn tyfu yma yng ngogledd Cymru, ac rwy’n gyffrous i’w weld yn datblygu. “

Wythnos Rhun – 12-16/7/21

DIWEDDARIAD COVID-19

Ymatebais i ddiweddariad Covid-19 y Llywodraeth. Ar y cyfan roeddwn yn falch fod y Llywodraeth wedi cytuno efo fy ngalwadau i gadw masgiau yn rhan o’r rheolau. Ond galwais am eglurder ar y mesur fydd Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio pan ddaw’n amser i gadarnhau’r llacio ar 7fed Awst.

Isadeiledd Rheoli Ffiniau

Gofynnais i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ar frys am y datblygiadau ym mhorthladd Caergybi – rydan ni’n gwybod rŵan bod yr HMRC wedi prynu truck stop Roadking, lle mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi – a dw i wedi cael digon ar y diffyg tryloywder a chyfathrebu gan HMRC. Rwy’n clywed o bosib fod Llywodraeth Cymru yn symud eu datblygiad nhw o Barc Cybi i mewn i ddatblygiad Roadking. Mae cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn angen gwybod beth sydd yn digwydd ar fyrder.

GTB – Digidol

Cefais fy ail ethol yn gadeirydd ar y Grŵp Traws Bleidiol ar Ddigidol yng Nghymru. Ail-etholwyd Parc Gwyddoniaeth Menai yn Ysgrifenyddiaeth ar y grŵp a manteisiodd ar y cyfle i lansio AgriTech sef y defnydd o dechnoleg ac arloesedd technolegol i wella effeithlonrwydd ac allbwn prosesau amaethyddol. Hynny yw, cymhwyso technoleg i wella pob elfen o’r prosesau ffermio a thyfu. 

Iechyd

Cefais gyfarfod efo’r dirprwy weinidog iechyd meddwl i drafod gweledigaeth Plaid Cymru o sefydlu hybiau iechyd meddwl i bobl ifanc ar draws Cymru. Cawsom hefyd gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Iechyd yn y 6ed Senedd yr wythnos hon.

Colli Swyddi RAF y Fali

Siaradais ar Radio Cymru i drafod fy mhryder o glywed bod 70 o swyddi dan risg o’u colli yn ôl Undeb Unite ar safle’r llu awyr brenhinol yn y Fali.

Byddaf yn ysgrifennu ar frys at Y Weinyddiaeth Amddiffyn am fwy o wybodaeth am eu hymrwymiad nhw i’r staff fyddai’n cael eu heffeithio.

Cyfarfodydd

Cefais nifer o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos gan gynnwys cyfarfod efo MônCF, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cerebral Palsy Cymru, NFU Cymru ac FSB ar fusnesau bach.

Facebook Live

Nos Lun arall a sesiwn Facebook Live arall. Sesiwn byrrach yr wythnos hon, ond braf oedd cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghylch y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM

Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa

Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr

Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o e-byst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

Mae cam-drin staff lletygarwch yn “gwbl annerbyniol” – meddai AS Ynys Môn.

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi condemnio camdriniaeth staff lletygarwch, yn dilyn cyfres o bryderon sydd wedi cael eu postio ar-lein gan fusnesau lletygarwch lleol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Trodd Dylan’s, cadwyn bwytai yng Ngogledd Cymru, at y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon i fynegi’r trallod a achosir i’w staff yn dilyn cam-drin “geiriol a chorfforol” yn eu tri bwyty yng Ngogledd Cymru.

 

Yn y gorffennol, mae Rhun ap Iorwerth wedi galw am well ymdirinaeth i gam-drin ar staff archfarchnadoedd a manwerthu sydd hefyd wedi crybwyll cwynion tebyg yn ystod y pandemig.

 

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi cynnig ei gefnogaeth i staff y sector sy’n gweithio’n ddiflino o dan reoliadau parhaus Covid-19. Dwedodd ef:

 

“Mae’r cam-drin y mae staff yn Dylan’s a llawer o weithwyr lletygarwch arall wedi gorfod ei wynebu yn ystod y pandemig yn gwbl gywilyddus. Maent yn gweithredu o dan ganllawiau llym i gadw eu cwsmeriaid a nhw’u hunain yn ddiogel, ac nid ydynt yn haeddu dim ond canmoliaeth am hynny – hyd yn oed os yw’n golygu eich bod yn gorfod aros ychydig yn hirach am eich bwyd a’ch diod.

 

“Rydw i wedi gweithio mewn bar fy hun, rydych chi’n gweithio’n galed i geisio rhoi’r gwasanaeth gorau y gallwch chi o dan amgylchiadau arferol, felly nid yw’n llawer gofyn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar ac yn gwrtais wrth iddynt barhau i weithredu mewn amgylchiadau sy’n bell o fod yn arferol. Mae’n gwbl annerbyniol bod canran bach o bobl yn teimlo’r angen i gam-drin staff, ar lafar ac yn gorfforol ar amser prysur i’r busnesau hyn, sy’n ceisio ail gydio mewn pethau yn dilyn misoedd o gyfnod clo. Mae’r un peth yn berthnasol i staff sy’n gweithio ym maes manwerthu a’r gweithwyr allweddol hynny sydd wedi darparu gwasanaethau hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhaid condemnio ymddygiad ymosodol fel hyn pan mae’n codi. ”

 

Ychwanegodd:

 

“Mae’r pandemig wedi bod yn anodd i bawb, ond nid cam-drin staff yw’r ateb byth – rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw’n haeddu ein parch.”

MAE ANGEN MWY O GYFATHREBU A THRYLOYWDER AR GYNLLUNIAU ÔL-BREXIT CAERGYBI

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru am eglurhad brys ar eu seilwaith Rheoli Ffiniau.

 

Mae Aelod Senedd Cymru Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru am ddatganiad brys ar eu cynlluniau ar gyfer seilwaith Rheoli Ffiniau ar ôl Brexit yng Nghaergybi, a fydd i fod ar waith i hwyluso gwiriadau ar nwyddau’r UE ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, daeth i’r amlwg bod Cyllid a Thollau EM wedi methu â nodi safle arall ar gyfer lleoliad tollau newydd yng Nghaergybi ac felly wedi bwrw ymlaen â phrynu Roadking Truckstop yn y dref, gan arwain at golli 24 o swyddi.

 

Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth fod y diffyg tryloywder a chyfathrebu gan Gyllid a Thollau EM ar eu cynlluniau yn pwysleisio pwysigrwydd hysbysu cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y lleoliad Rheoli Ffiniau newydd.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

 

“Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru am ddatganiad brys ar seilwaith ffiniau ym mhorthladd Caergybi. Mae yna rannau o’r isadeiledd sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a rhannau sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Mae angen eglurhad – rwyf wedi cael digon o’r diffyg tryloywder a chyfathrebu gan Gyllid a Thollau EM, ac nid wyf eto wedi derbyn ymateb ganddynt yn dilyn y ddealltwriaeth ddiweddar eu bod wedi prynu’r Truckstop Roadking, lle bydd pobl yn colli eu swyddi.

 

“Rhaid i ni wybod yn union beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn. Pa drafodaethau y mae Gweinidogion wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar swyddi a sicrwydd i bobl sy’n gweithio yn y Roadking nawr, o ran cael swyddi yn y datblygiad tollau newydd? A fyddant yn gallu symud yn syth yno heb seibiant yn eu cyflogaeth? Beth fydd yn digwydd i’r lorïau sydd wedi bod yn parcio yn Roadking? Mae’n adnodd mor bwysig, fel rhan o seilwaith y porthladdoedd.

 

“Rwyf hefyd wedi clywed bod Llywodraeth Cymru yn symud y datblygiad a oedd yn cael ei baratoi ar Barc Cybi. Mae angen i gymuned Caergybi a phobl Ynys Môn wybod beth sy’n digwydd ar frys. ”

 

Ymatebodd Lesley Griffiths AS, Trefnydd, i ddatganiad Rhun ap Iorwerth yn Cyhoeddiad Busnes a Datganiad Llywodraeth Cymru, a dywedodd:

 

“Rwy’n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi hysbysu Llywodraeth Cymru yn hwyr iawn mewn perthynas â’r seilwaith ffiniau y bydd ei angen, yng Nghaergybi ac, yn amlwg, yn ne-orllewin Cymru. Mae’r Gweinidog Economi yn arwain ar y maes hwn, a gwn ei fod ar hyn o bryd yn edrych ar ychydig o gyngor ynglŷn â hyn. Gofynnaf iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fydd ganddo fwy o wybodaeth i’w rannu gyda’r Aelodau. “

Wythnos Rhun – 9/7/21

Porthladd Rhydd Caergybi 

Gofynnais i Lywodraeth Cymru wneud gwaith ar effaith economaidd porthladdoedd rhydd. 

Mae eisiau ystyried pob opsiwn ar gyfer cyfleon newydd i borthladd Caergybi, dwi wedi edrych ers sawl blwyddyn ar y posibiliadau o ran creu porthladd rhydd. Ond mae eisiau bod yn glir iawn am fanteision posib ac anfanteision posib. 

Gweminar

Ymunais â gweminar Fferm Solar Alaw Môn, byddaf yn edrych yn ofalus dros y datblygiadau dros yr wythnosau nesaf.

Cyfarfod Llawn

Wrth wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, mae’n anochel y bydd y chwyddwydr ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn cael ei wanhau.

Galw yn y Senedd am ymchwiliad penodol i sut mae Llywodraeth Cymru wedi delio efo’r pandemig.

Iechyd

Holais am adferiad y gwasanaeth iechyd, gan gyfeirio at sawl maes. Mae’n bryder meddwl am filoedd o bobl—dros 4,000 yn ôl Macmillan—yn bosib sydd ddim wedi cael diagnosis cancr. Ond mae’n bryder i fi, wrth gwrs, mai beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf ydy chwyddo problem oedd yn bodoli yn barod, ac un broblem oedd gennym ni mewn gwasanaethau canser oedd prinder gweithwyr i wneud y gwaith diagnosis. 

Mae gen i bryderon mawr am bobl ifanc, a dweud y gwir, ar hyn o bryd, wrth i gyfyngiadau gael eu codi. O fy ngwaith i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi’n gweld cyfran ryfeddol o uchel o’r bobl dwi’n siarad â nhw yn bobl sydd wedi mynd yn sâl drwy eu gwaith nhw mewn iechyd a gofal. Mae eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, a dwi eisiau gwybod beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud i’w cefnogi nhw.

Sialens 5k – IIGA

Cymerias ran yn her 5k IIGA a oedd yn rhithiol eleni. Fy amser yn rhedeg y 5k oedd 00:27:26 ac rwy’n annog i lawer mwy gymryd rhan yn yr her.

Trenau Cymru

Cefais gyfarfod â Phrif Weithredwr Trafnidiaeth i Gymru i drafod dau fater y mae sawl etholwr wedi godi sef cau gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll dros dro yn ystod y pandemig a mater trenau gorlawn ar reilffordd gogledd Cymru.

Mynegais fy siom bod gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll wedi cau ers dechrau’r pandemig. Dywedodd Trafnidiaeth i Gymru wrthaf eu bod yn dal i chwilio am ateb i’r mater hwn, gan gynnwys offer PPE gwell a hyfforddiant i warchodwyr. Yn y cyfamser, maent wedi sicrhau bod opsiwn ‘call a cab’ ar gael i deithwyr sydd am deithio o’r gorsafoedd hyn i’r orsaf agosaf i fynd ar wasanaethau trên. Cefais gyfweliad â’r BBC am y mater hwn.

Facebook Live
Nos Lun arall a sesiwn Facebook Live arall. Sesiwn byrrach yr wythnos hon, ond braf oedd cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

Ynys Môn MS Rhun ap Iorwerth yn cwrdd â Phrif Weithredwr ‘Trafnidiaeth i Gymru’

 

Mae AS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi cwrdd â Phrif Weithredwr Trafnidiaeth i Gymru i drafod dau fater y mae sawl etholwr wedi eu codi gydag ef ac sy’n parhau i fod yn destun rhwystredigaeth i Rhun – cau gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll dros dro yn ystod y pandemig a mater trenau gorlawn ar reilffordd gogledd Cymru.

 

Mynegodd Rhun ei siom bod gorsafoedd y Fali a Llanfairpwll wedi cau ers dechrau’r pandemig. Dywedodd Trafnidiaeth i Gymru wrth AS Ynys Môn eu bod yn dal i chwilio am ateb i’r mater hwn, gan gynnwys offer PPE gwell a hyfforddiant i warchodwyr. Yn y cyfamser, maent wedi sicrhau bod opsiwn ‘call a cab’ ar gael i deithwyr sydd am deithio o’r gorsafoedd hyn i’r orsaf agosaf i fynd ar wasanaethau trên.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Rwy’n synnu na ellid dod o hyd i ateb mewn cyfnod o fwy na blwyddyn i gadw staff yn ddiogel ond roedd hynny hefyd yn caniatáu i’r gwasanaeth wneud yr hyn y mae yno i’w wneud, sef codi teithwyr a’u gollwng yn gorsafoedd! ”

 

Mater arall yr oedd nifer o etholwyr wedi cysylltu â Rhun yn ei gylch oedd gorlenwi trenau ar reilffordd gogledd Cymru. Dywedodd TfW eu bod yn edrych ar opsiynau a fyddai’n helpu fel staff gwirfoddol i gerdded fyny a lawr y trên.

 

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Rhun: “Er iddynt ddweud bod cydymffurfio o ran gwisgo masgiau ac ati wedi bod yn eithaf da, fe wnaethant gytuno â mi bod angen gwell negeseuon, yn enwedig ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos hon a’r dryswch gall hyn beri i deithwyr sy’n teithio rhwng Cymru a Lloegr. Fe wnaethant ddweud wrthym hefyd fod trenau newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi gyrwyr ar hyn o bryd, ac unwaith y byddant ar gael, dylai hynny fod yn hwb i’r gwasanaeth. “

 

“Byddaf yn parhau i bwyso am y newidiadau hyn ac rwy’n gwerthfawrogi pawb sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi i rannu eu profiadau diweddar ar y trenau.”

Wythnos Rhun – 2/7/21

Plenari

Ymatebais i ddatganiad y Prif Weinidog ar ddiwygio’r undeb heddiw, gan ddweud mai’r cwestiwn allweddol ddylai Prif Weinidog Cymru fod ei ofyn yw sut ellir gwarchod buddiannau Cymru, a buddiannau pobl Cymru orau yn y dyfodol, sut allem adeiladu cenedl sy’n gallu cyflawni dyheadau pobl Cymru orau, sy’n gallu cynllunio am ddyfodol tegach, fwy cyflawn, agored a mwy llewyrchus.

GTB – Coeliac

Cefais fy ethol yn gadeirydd y GTB ar Coeliac yr wythnos hon.

Cyfarfod

Cefais nifer o gyfarfodydd yr wythnos hon yn cynnwys cyfarfod â’r RCN, M-SParc, Golwg 360 a chyfarfod efo HSBC i alw ar fanciau i ddod fyny efo syniadau megis hybs cymunedol i leoliadau sydd heb gangen neu a oedd yn arfer bod â changen.

Digwyddiad Gyrru’r Dyfodol – M-SParc

Diwedd wythnos diwethaf, bues draw yn M-SParc i ymweld â’u digwyddiau gyrru’r dyfodol a oedd yn canolbwyntio ar sut oedd cerbydau a thrafnidiaeth gwyrdd yn datblygu. Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i mi weld pob mathau o dechnoleg newydd sbon.

Ymweliad Tŷ Gobaith

Cefais y pleser ofynd draw i Dŷ Gobaith i ymweld â’r tîm yno, cefais fy arwain o amgylch y lle gan Angharad a’r tîm a oedd yn gwneud gwaith anhygoel yno. Diolch i chi gyd am y croeso cynnes.

Llawdriniaethau Dewisiol

Ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd yn gynharach y mis hwn yn galw arnynt i fanylu ar ba gamau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhestrau aros helaeth, yn dilyn cyhoeddiad ganddynt y byddant yn ailddechrau llawdriniaethau dewisol. Derbyniais ymateb sy’n manylu ar sut maent yn bwriadu mynd i’r afael â’r amseroedd aros ar draws y Bwrdd Iechyd.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen eu hymateb – https://www.rhunapiorwerth.cymru/ailddechrau…/

Ffrind Dementia

Cefais i a fy nhîm hyfforddiant gan Alzheimer’s Cymru. Rydym felly yn gallu dweud ein bod yn parhau i fod yn dîm Dementia gyfeillgar. Diolch yn fawr iddynt am yr hyfforddiant gwych.

Facebook Live
Roedd hi’n braf iawn cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.

Dioddefwyr Covid Hir Gogledd Cymru: “Mae angen gwasanaethau arbenigol arnom”

Dywed cyd-gadeirydd Grŵp Covid Hir y Senedd “bod yn rhaid cadw pwysau ar y Llywodraeth” i ddatblygu gwasanaethau

Ddoe, roedd cyfarfod rhwng AS Ynys Môn a llefarydd ar Iechyd a Gofal Rhun ap Iorwerth ag aelodau’r grŵp Covid Hir Gogledd Cymru, ac eto roedd hi’n glir pam mae angen gweithredu ar frys i ddarparu’r gofal sydd ei angen arnynt.

Rhannodd yr aelodau â Rhun eu profiadau o fyw gyda covid hir a’u rhwystredigaeth gyda’r diffyg gwasanaethau arbenigol sydd ar gael iddynt. Buont yn siarad am unai wynebu anawsterau gyda chael eu cyfeirio at rai adrannau, a phan oeddent, o gael eu pasio rhwng un adran a’r llall, gydag ychydig iawn o gymorth cydgysylltiedig.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n ddiolchgar i aelodau Covid Hir Gogledd Cymru am rannu eu profiadau gyda mi heddiw. Daeth themâu cyffredin cryf i’r amlwg ynglŷn â symptomau a phrofiadau wrth geisio cael cymorth.

“Mae angen i ni ddysgu mwy am y cyflwr hwn, gwrando ar y rhai sy’n dioddef o’i ganlyniad, a sicrhau bod arfer gorau yn cael ei drosglwyddo rhwng byrddau iechyd cyn gynted â phosibl.”

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer ‘llwybr cleifion’ newydd ar gyfer dioddefwyr covid hir, gan roi meddygon teulu wrth galon yr ymateb i covid hir. Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda meddygon teulu i wella diagnosis a thriniaeth, ond dywed bod tystiolaeth gref o’r angen am ganolfannau arbenigol. Ychwanegodd:

“Roedd datganiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf yn gam cyntaf pwysig i gydnabod difrifoldeb y cyflwr, ond mae angen i ni nawr weld y cynlluniau hynny yn datblygu wrth i ni ddysgu mwy a mwy am y cyflwr hwn. Yn benodol, rwy’n awyddus i weld timau arbenigol yn gallu adeiladu arbenigedd.

“Roedd llawer o’r rhai sy’n dioddef o covid hir yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cyn dal y firws ac yn ysu am allu dychwelyd i wneud yr hyn maen nhw am ei wneud, i ofalu am eraill. Nid yw’r bobl hyn sy’n rhoi eu hiechyd eu hunain yn ail i iechyd eraill yn ystod y pandemig bellach yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt – mae rhai hyd yn oed yn gorfod ceisio cymorth yn breifat – yn destun pryder mawr i mi, a byddaf yn cadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau i helpu’r rhain a phawb sy’n dioddef o covid hir. “