Wythnos Rhun – 7/6/21

Cyfarfod
Cefais gyfarfod wythnosol â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod materion sy’n codi ar yr ynys. Yn y cyfarfod oedd y Prif Weithredwr a’r Arweinydd.

Facebook Live
Nos Lun, cefais y cyfle i ailgydio yn y sesiwn Facebook Live wedi seibiant dros gyfnod gwyliau’r hanner tymor. Roedd hi’n braf iawn cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

Plenari – Amrywiolyn Delta
Pwysleisiais i’r Gweinidog Iechyd, os ydym ni am allu gwarchod iechyd a chyfyngu ar impact ar yr economi a thwristiaeth ac ati, rydyn ni angen gwybod bod y Llywodraeth yn barod i weithredu yn gyflym ac mewn ffordd sydd mor ‘focused’ â phosib er mwyn inni allu, gobeithio, dod â phethau nôl i drefn mor fuan â phosib wedyn. Mae’r amrywiolyn Delta yn bryderus, mae angen gwneud yn siw1r fod pethu mewn lle i atal ei ledaeniad cyn i bethau waethygu.

Plenari – Staff Iechyd a Gofal
Dywedais wrth y Prif Weinidog fod y pandemig wedi amlygu realiti’r gweithlu nyrsio, gan gynnwys pwysau gwaith uchel, prinder staff, moràl a thâl isel – byddai codiad tâl teg yn mynd ymhell i gynorthwyo recriwitio a chadw staff.

Nodi Wythnos Gofalwyr
Cymerias y cyfle yn y senedd i ddiolch i ofalwyr ar hyd a lled Cymru sy’n gweithio mor galed, yn dawel i ofalu am anwyliaid a theuluoedd a, thrwy eu gwaith, sicrhau bod y GIG yn gallu gweithredu ac, wrth wneud hynny, arbed biliynau o bunnoedd. Gofynnais i’r Gweinidog Iechyd, ar ôl siarad â llawer o ofalwyr ledled Ynys Môn, pa gamau y byddai’n eu cymryd i gydlynu gwasanaethau ac i greu un pwynt cyswllt er mwyn cefnogi gofalwyr, sydd wir yn haeddu’r gefnogaeth honno.
Ymunais â digwyddiad rhithiol wedi’i drefnu gan Carers Trust Wales.

Llawdriniaethau Dewisiol
Ysgrifennais at Brif Weithredwr BIPBC yn tanlinellu’r boen y mae llawer o etholwyr yn brofi o ganlyniad i’w llawdriniaethau yn cael eu gohirio.
Ni allwn anwybyddu’r ffaith bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth a’r Bwrdd Iechyd fynd i’r afael i daclo’r amseroedd aros hir. Dydi dychwelyd i’r amseroedd aros cyn cyfnod y pandemig ddim yn ddigon.

Croesawu Buddsoddiad £20 miliwn i ddatblygu Ffatri Gaws ym Môn
Croesawais y buddsoddiad £20m i ddatblygu ffatri gaws yn Ynys Môn a chreu 100 o swyddi ar yr ynys. Rydw i wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sector fwyd ym Môn, yn cynnwys y posibilrwydd o greu parc busnes cynhyrchu bwyd ar yr ynys.
Rwy’n gobeithio gallu defnyddio datblygiad Mona Island Dairy fel sbardun pellach i wthio am ddatblygu’r sector hon, yn adeiladu ar arbennigedd sydd eisoes yn bodoli mewn nifer fawr o gwmniau bwyd ym Môn, i’w helpu i dyfu a chreu swyddi. Byddaf yn parhau â’r sgyrsiau yma gyda Gweinidogion yn yr wythnosau nesaf.

Cyfarfod
Cefais gyfarfod efo Menter Môn, er mwyn dal fyny ar bopeth sy’n mynd ymlaen yn ddiweddar.

Cyfarfod – Porth Wen Solar
Cefais gyfarfod â Porth Wen Solar i drafod y prosiect ac roedd yn gyfle i mi nodi unrhyw broblemau neu bryderon a oedd yn codi ynglŷn â’r prosiect.

Ymweliad
Es i draw i Gaergybi i ymweld â safle newydd Bragdy Cybi, roedd y bragdy yn edrych yn werth chweil ac yn gyfnod cyffrous iawn i’r cwmni wrth iddyn nhw ehangu eu busnes. Tra’r oeddwn yno, es draw i Cymell, sydd drws nesa i weld beth oedd ganddynt ar y gweill.
Yn y prynhawn, cefais gyfle i ymweld â safle Cambria a Longford Rd, i drafod y diweddaraf efo Hwb Cybi. Yn bresennol oedd Cadeirydd BIPBC, y cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y cynghorydd Glyn Haynes ac eraill.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.