Wythnos Rhun – 14/6/21

Cyfarfod

Cefais gyfarfod ag Andy o ‘Anglesey Pursuits’ i ffilmio fideo ag o ynglŷn â’r digwyddiad elusen y bydd o yn ei wneud i godi arian i Mencap Môn wedi i’w chwaer gael gofal ganddynt ac ward alaw Ysbyty Gwynedd. Bu ei chwaer gael diagnosis o ganser y gwaed pan yr oedd hi’n 52 mlwydd oed, ac i godi arian, mi fydd Andy yn rhwyfo o Iwerddon i Gaergybi. Cefais y cyfle i fynd allan ar y dŵr efo Andy a ffilmio darn bach i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos nesaf.

Am y tro, dyma’r linc i gyfrannu at yr achos pe dymunwch – https://www.justgiving.com/crowdfunding/andy-williams-485

Grŵp Traws Bleidiol

Roeddwn wedi cyd-sefydlu a di cael fy ethol yn gyd-gadeirydd y GTB covid hir. Roedd yn gyfle arbennig i mi allu gwrando ar bobl oedd yn dioddef o’r cyflwr yma, a dod i wybod mwy am sut y mae’n effeithio bywydau pobl ledled Cymru.

Plenari – Rhaglen Lywodraethu

Ymatebais i’r rhaglen lywodraethu newydd am y 5 mlynedd nesaf. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at raglen ei Lywodraeth ar gyfer Cymru fel un uchelgeisiol a radical. Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai’r rhaglen hon ar gyfer llywodraeth a fydd yn darparu’r cyfeiriad newydd sydd ei angen ar Gymru, a’r trawsnewid sydd ei angen arnom er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn a llewyrchus.

Ymatebais iddo ar raglen BBC Radio Cymru hefyd – Dros Frecwast.

Plenari – Argyfwng Hinsawdd

Codais fy mhryderon, a phryderon nifer o bobl am yr argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu. Atgoffais y Prif Weinidog fod y sefyllfa’n gwaethygu a bod angen rhoi model ariannol a strategaeth ar waith i fynd ati i daclo’r broblem hon.

Tŵr Marcwis

Cefais y pleser o longyfarch Anglesey Column Trust wedi iddynt gael gwybod eu bod yn derbyn grant o £872,800 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dyma ffrwyth llafur blynyddoedd o waith caled, ac rwy’n falch iawn o fod wedi eu cefnogi gyda’u cais.

Rwan, cawn edrych ymlaen i weld y gwaith yn cael ei gwblau a’r golofn ar agor i ymwelwyr unwaith eto – mae gen i atgofion melys o ddringo’r grisiau troellog pan yn blentyn. Bydd y tŵr, a’r ganolfan ymwelwyr, siop a chaffi yn ychwanegiad gwerth ei gael i’n atyniadau treftadaeth lleol ar draws yr ynys.

Nodi Wythnos Iechyd Dynion 

Ar fy nghyfryngau cymdeithasol, nodais wythnos iechyd dynion gan rannu’r linc i bobl wirio eu risg  o ganser y prostad. Mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol o’r risg ac yn gweithredu pe bai angen. Dyma’r linc i wirio – https://prostatecanceruk.org/risk-checker?utm_source=nhspartners&utm_medium=affiliate-referral&utm_campaign=mens-health-week&utm_content=organic-video

Ymweliad

Bues yn ymweld â Mona Island Dairy Ltd, ac fe gefais groeso cynnes iawn. Dymunaf bob lwc iddynt ar eu menter newydd, ac mi fydd yn hwb aruthrol i’r sector amaeth a bwyd yma ym Môn.

Ymweliad

Es draw i Ganolfan Hyfforddiant Môn yn Llangefni i weld y cwmni eithaf newydd a sut y mae nhw wedi tyfu yn ystod y pandemig. Dros y flwyddyn diwethaf, maent wedi cynnig hyfforddiant i 1,000 o bobl ledled Ynys Môn a Gwynedd. 

Facebook Live
Nos Lun, cefais y cyfle i ailgydio yn y sesiwn Facebook Live wedi seibiant dros gyfnod gwyliau’r hanner tymor. Roedd hi’n braf iawn cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghlych y pandemig neu unrhyw fater arall.

MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!

Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.

Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o ebyst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.