Dylai gorchuddion wyneb fod yn “orfodol” mewn mannau cyhoeddus risg uwch meddai Rhun ap Iorwerth.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, dylai gorchuddion wyneb fod yn “orfodol” mewn mannau cyhoeddus risg uwch.

Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol a chefnogaeth o fewn y gymuned wyddonol yn awgrymu fod y risg o drosglwyddo’r feirws yn cael ei lleihau wrth wisgo gorchudd wyneb.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban wrth wneud gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a mewn siopau, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu “arweiniad clir a diamwys” er mwyn eu gwneud yn orfodol.

Heddiw, dywedodd yr Athro Syr Venju Ramakrishnan, sef Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, y dylai “pawb” gario gorchudd wyneb wrth adael eu cartref er mwyn taclo Coronafeirws, ac y dylid eu gwisgo “pryd bynnag y byddwch mewn mannau cyhoeddus prysur”.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae tystiolaeth gynyddol yn cefnogi effeithlonrwydd gorchuddion wyneb er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws. Fel yr Alban, sydd newydd wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad clir a diamwys a’u gwneud yn orfodol mewn rhai mannau cyhoeddus.

“Does dim lle i fod yn esgeulus wrth lacio’r cyfyngiadau. Mae’r frwydr i leihau trosglwyddiad y feirws yn parhau, ac mae gan gorchuddion wyneb ran i’w chwarae yn y frwydr hon.”

Plaid Cymru yn ymateb i lacio’r cyfyngiadau teithio yng Nghymru

Yn ôl Plaid Cymru, mae pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gorchuddion wyneb yn fwy “pwysig nag erioed” rwan wrth i’r cyfyngiadau teithio lacio yng Nghymru.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ddydd Llun fod cyfyngiadau teithio yng Nghymru yn dod i ben, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru,

“Fe wnaethom ni gefnogi’r rheol aros yn lleol, ond roeddem ni eisiau mwy o hyblygrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn rhai mannau gwledig. Maent wedi ymateb yn bositif i hyn.

“Gan bod y canllawiau cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio’n gyfan gwbl rwan, beth sy’n bwysig ydi beth mae pobl yn ei wneud pan maent yn cyrraedd pen eu taith. Mae pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gorchuddion wyneb rwan yn fwy, yn hytrach na llai, pwysig.

“Dwi dal yn awyddus i glywed mwy o gefnogaeth tuag at wisgo gorchudd wyneb mewn mannau caeëdig, er enghraifft. Mae hefyd angen mwy o eglurder ar y camau a’r gefnogaeth os oes angen ailgyflwyno rhai o’r cyfyngiadau os oes achosion penodol. Dwi hefyd yn pwysleisio fy ngalw i ddefnyddio’r system brofi, olrhain ac amddiffyn i’r gorau o’n gallu er mwyn i’r system adnabod achosion ar frys.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gael strategaeth er mwyn ‘gwneud y mwyaf o system brofi Cymru’ meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Plaid Cymru wedi ailadrodd ei galw i ehangu system brofi Covid-19 yng Nghymru er mwyn sicrhau fod achosion yn cael eu rheoli yn gynt ac i amddiffyn y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae lle i 12,374 o brofion ddigwydd yn ddyddiol yng Nghymru, ond mae ffigyrau Gorffennaf y 1af yn dangos mai dim ond 1,410 a brofwyd yng Nghymru ddoe.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, y byddai profi ansymptomatig rheolaidd yn gallu cael ei ehangu i fwy o weithwyr iechyd a gofal, yn ogystal â gweithwyr allweddol eraill megis y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant prosesu bwyd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae profi yn ran annatod o’r frwydr i fod yn llwyddiannus yn erbyn covid-19. Felly mae’n rhaid cael strategaeth i wneud y mwyaf o’r capasiti profi sydd ganddom ni. Roedd y capasiti yma yn rhy araf yn cael ei gynyddu, ond rwan ei fod o yma, mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio.

“Mi fuaswn i’n licio gweld strategaeth glir i ddefnyddio’r capasiti yma yn y ffordd orau bosib. Mae angen nod glir, yn ogystal â chael hyblygrwydd er mwyn sicrhau fod capasiti yn gallu cael ei addasu wrth ymateb i achosion newydd.

Pan gafodd ei gwestiynu gan Rhun mewn cyfarfod diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd yr Athro Deenan Pillay, aelod o Bwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), ei fod yn cytuno fod angen gwneud y mwyaf o’r capasiti profi a chael ‘strategaeth glir’.

Dywedodd un meddyg teulu yn Ynys Môn, sef etholaeth Mr ap Iorwerth, sydd wedi galw am fwy o brofi i fwy o weithwyr iechyd, fod angen hyn er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Dywedodd Dr Sarah Borlace: “Dwi’n credu dylai profi rheolaidd gael ei gynnig i weithwyr iechyd er mwyn ceisio sicrhau nad ydym ni’n peryglu bywydau cleifion, cydweithwyr a theuluoedd yn ddiangen.”

“Dwi a fy nghydweithwyr wedi cymryd pob rhagofal posibl, ond byddau profi rheolaidd yn rhoi mwy o sicrwydd i gleifion, a dwi’n credu y dylai profi gweithwyr iechyd yn rheolaidd fod yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau nad ydym ni’n peryglu bywydau cleifion, cydweithwyr a theuluoedd yn ddiangen.”

Buddugoliaeth i Blaid Cymru yn dilyn ymgyrch i amddiffyn etholaeth ynys mewn Bil ffiniau newydd.

Yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru, mae Llywodraeth San Steffan wedi newid ei meddwl i gefnogi amddiffyn statws Ynys Môn mewn Bil Etholaethau Seneddol.

Mae’r ddeddfwriaeth yma’n ceisio diwygio etholaethau ar gyfer etholiadau San Steffan, gan leihau’r nifer o etholaethau yng Nghymru er mwyn cynyddu’r nifer yn Lloegr.

Fe wnaeth y Bil gwreiddiol, sydd wedi bodoli mewn rhyw ffurf ers y 16eg ganrif, fethu ag amddiffyn yr etholaeth. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser maith i amddiffyn etholaeth ynys Ynys Môn fel ynysoedd eraill, megis Ynys Wyth.

Fe wnaeth AS Plaid Cymru ac aelod o’r Pwyllgor Biliau, Ben Lake, gynnig sawl diwygiad er mwyn ceisio amddiffyn yr etholaeth.

Wrth ymateb i’r newid barn yn San Steffan, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth :

“Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer hunaniaeth ac annibynniaeth ddemocrataidd Ynys Môn, ac mae rhan helaeth o hyn yn sgîl pwysau cyson Plaid Cymru. Fe wnes i roi tystiolaeth y tro diwethaf i’r Comisiwn Ffiniau ystyried hyn, gan ddadlau bryd hynny yn ogystal â rwan nad oedd ffiniau ynys yn fympwyol. Dyna pam bod Ynys Môn wedi bod yn uned ddemocrataidd nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond mewn llywodraeth seneddol hefyd ers canrifoedd.

“Byddai ychwanegu rhan o’r tir mawr at yr ynys er mwyn cynyddu’r boblogaeth wedi bod yn niweidiol iawn i ddwy ochr y pontydd.

“Tra bod San Steffan yn parhau i reoli sawl polisi amrywiol yng Nghymru, mae hi ond yn iawn bod ein cenedl yn cael ei chynrychioli’n deg.

Oedi canlyniadau profion ffatri’r 2 Sisters yn rhwystredig a phryderus meddai Rhun ap Iorwerth

Er bod wythnos bellach ers i’r achosion gael eu cadarnhau ar safle’r 2 Sisters yn Llangefni, mae rhai gweithwyr yn dal i ddisgwyl canlyniadau eu profion, ac yn ôl Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn rhwystredig a phryderus.

Mae aelodau’r cyhoedd sydd yn gweithio yn 2 Sisters yn dal i gysylltu efo AS Ynys Môn yr wythnos hon yn mynegi eu pryder ynghylch yr oedi i dderbyn canlyniadau eu profion. Cafodd rhai ohonynt eu profion hyd at 12 diwrnod yn ôl, a maent yn dal i ddisgwyl am eu canlyniadau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’n rhwystredig a phryderus fod rhai gweithwyr y 2 Sisters wedi aros dros wythnos am eu canlyniadau profion Covid-19. Mae’r Llywodraeth yn honni fod y mwyafrif wedi dod nol o fewn un diwrnod, ond mae’r nifer o brofion sydd yn cymryd mwy na 24 awr i gael eu dychwelyd wedi cynyddu ar hyd a lled Cymru yn yr wythnosau diwethaf.

“Mae hyn yn tanseilio effeithlonrwydd y system ‘brofi, olrhain, diogelu’ oherwydd mae dychwelyd canlyniadau’n gyflym yn golygu y gallwch ddechrau olrhain cysylltiadau a gofyn i bobl ynysu yn gyflymach.

“Mae’r system brofi ac olrhain ar gyfer achos y 2 Sisters yn cael ei rheoli’n rhanbarthol oherwydd maint yr achos. Dwi wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru i egluro’r oedi. Maent yn dweud bod y mwyafrif helaeth o brofion yn cael eu dychwelyd yn gyflym, ond mai dyletswydd y Bwrdd Iechyd ydi’r profion swab, ac felly mae angen i bob asiantaeth fod yn glir ynghylch beth sy’n mynd o’i le i’r sawl sy’n aros yn llawer rhy hir.

“Tra’n bod ni’n lwcus mai Cyngor Ynys Môn oedd un o’r arweinwyr wrth ddatblygu’r system tracio yn ogystal â bod yn rhan o’r arbrawf Gymreig, mae unrhyw oedi yng nghanlyniadau’r profion rwan ac yn ystod y misoedd nesaf yn mynd i gyfyngu’r llwyddiant.”

Mae’n rhaid i Gymru atal Boris Johnson rhag aberthu ein economi wledig ni, meddai Rhun ap Iorwerth

Mae hi’n amlwg bod Boris Johnson a’i aelodau Ceidwadol Cymreig, yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, yn barod i aberthu economi wledig Cymru yn dilyn pleidleisio yn erbyn diwygiad hanfodol i Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU. Mae Mr ap Iorwerth heddiw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau y bydd sector amaethyddol Cymru yn cael ei hamddiffyn.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Aelodau Seneddol Ceidwadol wrthod diwygiad yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n amddiffyn buddiannau ffermwyr Cymru drwy sicrhau fod rhaid i unrhyw gynnyrch sy’n cael ei fewnforio o ganlyniad i gytundebau masnach Brexit gadw at yr un safonau bwyd a lles anifeiliaid ag y mae ffermwyr Cymru yn ei wneud.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod gwrthod y diwygiad yma yn rhoi ffermwyr a chwsmeriad mewn lle ansicr, a gofynodd i Weinidog Amaethyddol Llywodraeth Cymru am sicrwydd ar y mater yng nghyfarfod y Senedd ar-lein.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn:

“Mae hi’n hynod siomedig fod Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n cynrychioli etholaethau gwledig megis Ynys Môn wedi pleidleisio yn erbyn diwygidad i’r Bil Amaethyddol fyddai’n amddiffyn buddiannau ein ffermwyr.

“Pwrpas y diwygiad oedd i sicrhau fod cynnyrch amaethyddol sy’n cael ei fewnforio yn sgîl cytundebau masnach Brexit yn cadw at yr un safonau lles anifeiliaid a safonau eraill â ffermydd yma.

“Mae ffermwyr a chwsmeiriad yn cael eu tanseilio, felly fe wnes i ofyn unwaith yn rhagor heddiw i Weinidog Amaethyddol Llywodraeth Cymru fynnu sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y byddai’n rhaid i bob cynnyrch amaethyddol a werthir yma gadw at yr un safonau y mae ein ffermwyr ni yn cadw atynt.

“Mae hi’n amlwg bod Boris Johnson a’i aelodau yng Nghymru yn barod i aberthu yr economi wledig, ond mae’n rhaid i ni yng Nghymru, o sector y ffermwyr, i’r undebau, i’r gwleiddyddion, wneud popeth yn ein gallu i wrthsefyll hyn.”

“Dangoswch i’r cyhoedd eich bod chi’n gweithredu mor gyflym a mor ddiogel â phosib i lacio’r cyfyngiadau” meddai Rhun ap Iorwerth wrth Lywodraeth Cymru

Er ei fod o dal yn cefnogi agwedd bwyllog Llywodraeth Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi annog y Llywodraeth i “brofi a herio’i thystiolaeth ei hun yn barhaus” er mwyn sicrhau fod Cymru’n gallu llacio’r cyfyngiadau mor gyflym a ddiogel â phosib.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn mynd i gyhoeddi adolygiad o’r cyfyngiadau yfory (dydd Gwener).

Wrth gyfeirio at bryderon lles a phryderon economaidd cynyddol, dywedodd Gweinidog Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod rhaid i Lywodraeth Cymru “berswadio pobl” ei bod hi’n gweithredu mor “gyflym â phosib” yn y ffordd fwyaf ddiogel.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai gweinidogion brofi, herio a modelu’r wybodaeth wyddonol maent yn eu derbyn yn rheolaidd, gan alw ar y Llywodraeth i ddarparu “cynllun llawer cliriach” o’r ffordd mae hi’n mynd i lacio’r cyfyngiadau yn yr wythnosau sydd i ddod.

Pwysleisiodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid hefyd fod cael system brofi a monitro “gadarn, gyflym a phell-gyrhaeddol” yn hanfodol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae agwedd Cymru tuag at y cyfyngiadau wedi bod yn hynod o dda, a mae hyn wedi bod yn allweddol i leihau’r nifer sy’n cael eu heintio, a gall pawb gymryd y clod am hynny. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, mae hi’n anochel fod rhwystredigaeth pobl yn cynyddu o ganlyniad i hiraeth am deulu a phryderon ariannol cynyddol.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru berswadio pobl ei bod hi’n gweithredu mor gyflym â phosib, ac yn gwneud y gorau i sicrhau ‘normalrwydd newydd’ sy’n cynnwys caniatáu busnesau i agor yn raddol a diogel, a rhoi mwy o hyblygrwydd i bobl dreulio amser efo’u teulu.

“Does dim angen cyfaddawdu ein iechyd, ond mae angen eglurder. Does dim angen chwaith cymharu efo gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr. Mae’n rhaid i Gymru wneud beth sy’n iawn i Gymru. Fodd bynnag, mae hi’n bwysig dadansoddi’r dystiolaeth ryngwladol er mwyn gweld beth sydd yn ddiogel i’w wneud, a pha mor gyflym y gellir gwneud hynny efo’r rhagofalon angenrheidiol ar waith, gan gynnwys system brofi a monitro gadarn, gyflym a phell-gyrhaeddol.

“Mae’n rhaid i Weinidogion brofi a herio’r cyngor maent yn dderbyn yn gyson, ac opsiynau modelu wrth symud ymlaen, gan wneud hynny yn y ffordd fwyaf gyhoeddus bosib. Does dim rheswm pam na all y Llywodraeth ddarparu cynllun llawer cliriach o’i gobeithion i lacio cyfyngiadau yn yr wythnosau i ddod.”