“Dangoswch i’r cyhoedd eich bod chi’n gweithredu mor gyflym a mor ddiogel â phosib i lacio’r cyfyngiadau” meddai Rhun ap Iorwerth wrth Lywodraeth Cymru

Er ei fod o dal yn cefnogi agwedd bwyllog Llywodraeth Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi annog y Llywodraeth i “brofi a herio’i thystiolaeth ei hun yn barhaus” er mwyn sicrhau fod Cymru’n gallu llacio’r cyfyngiadau mor gyflym a ddiogel â phosib.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn mynd i gyhoeddi adolygiad o’r cyfyngiadau yfory (dydd Gwener).

Wrth gyfeirio at bryderon lles a phryderon economaidd cynyddol, dywedodd Gweinidog Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod rhaid i Lywodraeth Cymru “berswadio pobl” ei bod hi’n gweithredu mor “gyflym â phosib” yn y ffordd fwyaf ddiogel.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai gweinidogion brofi, herio a modelu’r wybodaeth wyddonol maent yn eu derbyn yn rheolaidd, gan alw ar y Llywodraeth i ddarparu “cynllun llawer cliriach” o’r ffordd mae hi’n mynd i lacio’r cyfyngiadau yn yr wythnosau sydd i ddod.

Pwysleisiodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid hefyd fod cael system brofi a monitro “gadarn, gyflym a phell-gyrhaeddol” yn hanfodol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae agwedd Cymru tuag at y cyfyngiadau wedi bod yn hynod o dda, a mae hyn wedi bod yn allweddol i leihau’r nifer sy’n cael eu heintio, a gall pawb gymryd y clod am hynny. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, mae hi’n anochel fod rhwystredigaeth pobl yn cynyddu o ganlyniad i hiraeth am deulu a phryderon ariannol cynyddol.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru berswadio pobl ei bod hi’n gweithredu mor gyflym â phosib, ac yn gwneud y gorau i sicrhau ‘normalrwydd newydd’ sy’n cynnwys caniatáu busnesau i agor yn raddol a diogel, a rhoi mwy o hyblygrwydd i bobl dreulio amser efo’u teulu.

“Does dim angen cyfaddawdu ein iechyd, ond mae angen eglurder. Does dim angen chwaith cymharu efo gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr. Mae’n rhaid i Gymru wneud beth sy’n iawn i Gymru. Fodd bynnag, mae hi’n bwysig dadansoddi’r dystiolaeth ryngwladol er mwyn gweld beth sydd yn ddiogel i’w wneud, a pha mor gyflym y gellir gwneud hynny efo’r rhagofalon angenrheidiol ar waith, gan gynnwys system brofi a monitro gadarn, gyflym a phell-gyrhaeddol.

“Mae’n rhaid i Weinidogion brofi a herio’r cyngor maent yn dderbyn yn gyson, ac opsiynau modelu wrth symud ymlaen, gan wneud hynny yn y ffordd fwyaf gyhoeddus bosib. Does dim rheswm pam na all y Llywodraeth ddarparu cynllun llawer cliriach o’i gobeithion i lacio cyfyngiadau yn yr wythnosau i ddod.”