Yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, dylai gorchuddion wyneb fod yn “orfodol” mewn mannau cyhoeddus risg uwch.
Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol a chefnogaeth o fewn y gymuned wyddonol yn awgrymu fod y risg o drosglwyddo’r feirws yn cael ei lleihau wrth wisgo gorchudd wyneb.
Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban wrth wneud gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a mewn siopau, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu “arweiniad clir a diamwys” er mwyn eu gwneud yn orfodol.
Heddiw, dywedodd yr Athro Syr Venju Ramakrishnan, sef Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, y dylai “pawb” gario gorchudd wyneb wrth adael eu cartref er mwyn taclo Coronafeirws, ac y dylid eu gwisgo “pryd bynnag y byddwch mewn mannau cyhoeddus prysur”.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Mae tystiolaeth gynyddol yn cefnogi effeithlonrwydd gorchuddion wyneb er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws. Fel yr Alban, sydd newydd wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad clir a diamwys a’u gwneud yn orfodol mewn rhai mannau cyhoeddus.
“Does dim lle i fod yn esgeulus wrth lacio’r cyfyngiadau. Mae’r frwydr i leihau trosglwyddiad y feirws yn parhau, ac mae gan gorchuddion wyneb ran i’w chwarae yn y frwydr hon.”