Mae hi’n amlwg bod Boris Johnson a’i aelodau Ceidwadol Cymreig, yn ôl Rhun ap Iorwerth AS, yn barod i aberthu economi wledig Cymru yn dilyn pleidleisio yn erbyn diwygiad hanfodol i Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU. Mae Mr ap Iorwerth heddiw wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau y bydd sector amaethyddol Cymru yn cael ei hamddiffyn.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Aelodau Seneddol Ceidwadol wrthod diwygiad yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n amddiffyn buddiannau ffermwyr Cymru drwy sicrhau fod rhaid i unrhyw gynnyrch sy’n cael ei fewnforio o ganlyniad i gytundebau masnach Brexit gadw at yr un safonau bwyd a lles anifeiliaid ag y mae ffermwyr Cymru yn ei wneud.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod gwrthod y diwygiad yma yn rhoi ffermwyr a chwsmeriad mewn lle ansicr, a gofynodd i Weinidog Amaethyddol Llywodraeth Cymru am sicrwydd ar y mater yng nghyfarfod y Senedd ar-lein.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn:
“Mae hi’n hynod siomedig fod Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n cynrychioli etholaethau gwledig megis Ynys Môn wedi pleidleisio yn erbyn diwygidad i’r Bil Amaethyddol fyddai’n amddiffyn buddiannau ein ffermwyr.
“Pwrpas y diwygiad oedd i sicrhau fod cynnyrch amaethyddol sy’n cael ei fewnforio yn sgîl cytundebau masnach Brexit yn cadw at yr un safonau lles anifeiliaid a safonau eraill â ffermydd yma.
“Mae ffermwyr a chwsmeiriad yn cael eu tanseilio, felly fe wnes i ofyn unwaith yn rhagor heddiw i Weinidog Amaethyddol Llywodraeth Cymru fynnu sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y byddai’n rhaid i bob cynnyrch amaethyddol a werthir yma gadw at yr un safonau y mae ein ffermwyr ni yn cadw atynt.
“Mae hi’n amlwg bod Boris Johnson a’i aelodau yng Nghymru yn barod i aberthu yr economi wledig, ond mae’n rhaid i ni yng Nghymru, o sector y ffermwyr, i’r undebau, i’r gwleiddyddion, wneud popeth yn ein gallu i wrthsefyll hyn.”