Oedi canlyniadau profion ffatri’r 2 Sisters yn rhwystredig a phryderus meddai Rhun ap Iorwerth

Er bod wythnos bellach ers i’r achosion gael eu cadarnhau ar safle’r 2 Sisters yn Llangefni, mae rhai gweithwyr yn dal i ddisgwyl canlyniadau eu profion, ac yn ôl Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn rhwystredig a phryderus.

Mae aelodau’r cyhoedd sydd yn gweithio yn 2 Sisters yn dal i gysylltu efo AS Ynys Môn yr wythnos hon yn mynegi eu pryder ynghylch yr oedi i dderbyn canlyniadau eu profion. Cafodd rhai ohonynt eu profion hyd at 12 diwrnod yn ôl, a maent yn dal i ddisgwyl am eu canlyniadau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’n rhwystredig a phryderus fod rhai gweithwyr y 2 Sisters wedi aros dros wythnos am eu canlyniadau profion Covid-19. Mae’r Llywodraeth yn honni fod y mwyafrif wedi dod nol o fewn un diwrnod, ond mae’r nifer o brofion sydd yn cymryd mwy na 24 awr i gael eu dychwelyd wedi cynyddu ar hyd a lled Cymru yn yr wythnosau diwethaf.

“Mae hyn yn tanseilio effeithlonrwydd y system ‘brofi, olrhain, diogelu’ oherwydd mae dychwelyd canlyniadau’n gyflym yn golygu y gallwch ddechrau olrhain cysylltiadau a gofyn i bobl ynysu yn gyflymach.

“Mae’r system brofi ac olrhain ar gyfer achos y 2 Sisters yn cael ei rheoli’n rhanbarthol oherwydd maint yr achos. Dwi wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru i egluro’r oedi. Maent yn dweud bod y mwyafrif helaeth o brofion yn cael eu dychwelyd yn gyflym, ond mai dyletswydd y Bwrdd Iechyd ydi’r profion swab, ac felly mae angen i bob asiantaeth fod yn glir ynghylch beth sy’n mynd o’i le i’r sawl sy’n aros yn llawer rhy hir.

“Tra’n bod ni’n lwcus mai Cyngor Ynys Môn oedd un o’r arweinwyr wrth ddatblygu’r system tracio yn ogystal â bod yn rhan o’r arbrawf Gymreig, mae unrhyw oedi yng nghanlyniadau’r profion rwan ac yn ystod y misoedd nesaf yn mynd i gyfyngu’r llwyddiant.”