Buddugoliaeth i Blaid Cymru yn dilyn ymgyrch i amddiffyn etholaeth ynys mewn Bil ffiniau newydd.

Yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru, mae Llywodraeth San Steffan wedi newid ei meddwl i gefnogi amddiffyn statws Ynys Môn mewn Bil Etholaethau Seneddol.

Mae’r ddeddfwriaeth yma’n ceisio diwygio etholaethau ar gyfer etholiadau San Steffan, gan leihau’r nifer o etholaethau yng Nghymru er mwyn cynyddu’r nifer yn Lloegr.

Fe wnaeth y Bil gwreiddiol, sydd wedi bodoli mewn rhyw ffurf ers y 16eg ganrif, fethu ag amddiffyn yr etholaeth. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser maith i amddiffyn etholaeth ynys Ynys Môn fel ynysoedd eraill, megis Ynys Wyth.

Fe wnaeth AS Plaid Cymru ac aelod o’r Pwyllgor Biliau, Ben Lake, gynnig sawl diwygiad er mwyn ceisio amddiffyn yr etholaeth.

Wrth ymateb i’r newid barn yn San Steffan, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth :

“Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer hunaniaeth ac annibynniaeth ddemocrataidd Ynys Môn, ac mae rhan helaeth o hyn yn sgîl pwysau cyson Plaid Cymru. Fe wnes i roi tystiolaeth y tro diwethaf i’r Comisiwn Ffiniau ystyried hyn, gan ddadlau bryd hynny yn ogystal â rwan nad oedd ffiniau ynys yn fympwyol. Dyna pam bod Ynys Môn wedi bod yn uned ddemocrataidd nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond mewn llywodraeth seneddol hefyd ers canrifoedd.

“Byddai ychwanegu rhan o’r tir mawr at yr ynys er mwyn cynyddu’r boblogaeth wedi bod yn niweidiol iawn i ddwy ochr y pontydd.

“Tra bod San Steffan yn parhau i reoli sawl polisi amrywiol yng Nghymru, mae hi ond yn iawn bod ein cenedl yn cael ei chynrychioli’n deg.