AC Plaid Cymru yn falch bod y Senedd wedi pleidleisio o blaid pleidlais y bobl

Mae Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal pleidlais cadarnhau BREXIT – ble bydd opsiwn i aros yn ymddangos ar y papur pleidleisio – sydd yn golygu mai hon yw’r Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

Siaradodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth mewn dadl a gyflwynodd ei blaid ar y mater gan fynegi ei falchder bod y Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n falch bod y Senedd yn ddiamod wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm pleidlais pobl – gyda’r opsiwn i aros mewn ar y papur pleidleisio hefyd – yn dilyn dadl dan arweiniad Plaid Cymru, fel y Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

“Ar ôl llanast y tair blynedd diwethaf, mae ein hasesiad yn parhau’n glir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd – ein hasesiad ni – yn niweidiol i Gymru – yn ddrwg i ffermio, yn ddrwg i bobl ifanc, i’r GIG ac i’r economi.

“Rwy’n falch o sefyll ochr yn ochr â’r pleidiau gwleidyddol eraill yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol sydd hefyd yn rhannu’r un pryderon a ni. Ni fydd pawb yn cytuno â’r asesiad hwnnw, ond prydferthwch yr hyn yr ydym yn galw amdano heddiw yw nad ein hewyllys ym Mhlaid Cymru yw i ni gael ein dilyn, ond ewyllys y bobl heddiw.

“Beth am roi i’r bobl, nid ni, y gair olaf, a gadael i’r bobl roi eu hasesiad o’r hyn sydd wedi datblygu ers Mehefin 2016. Mae ein dyfodol a dyfodol ein plant yn y fantol.”

AC Plaid Cymru yn galw am ddadl sylweddol ar y camau nesaf i’r M4 am fod cynlluniau llwybrau DU yn cael eu dileu

Gyda Llywodraeth Cymru yn dileu cynlluniau i fwrw ymlaen gyda’r M4 Black Route, mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth wedi galw am amserlennu dadl sylweddol yn y Cynulliad er mwyn trafod y camau nesaf sydd angen eu cymerwyd wrth i’r cynllun £1.4bn gael ei atal.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod wedi gwneud y penderfyniad i gael gwared ar y cynllun oherwydd ei gost a’i effaith ar yr amgylchedd. Byddai’r cynlluniau wedi gweld traffordd 14 milltir yn cael ei hadeiladu mewn ymgais i fynd i’r afael â’r tagfeydd a wynebir gan fodurwyr o amgylch Casnewydd, gyda’r pwnc yn un o’r materion mwyaf cyffredin a drafodwyd yn y Cynulliad yn y blynyddoedd diwethaf.

Cyn i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi brynhawn Mawrth, gofynnodd Mr ap Iorwerth i Lywodraeth Cymru neilltuo amser sylweddol i’r Aelodau drafod y camau nesaf ar gyfer yr ardal ac ar gyfer yr arian a ddyrannwyd i’r prosiect.

Dywedodd AC Plaid Cymru:

“Rwyf wedi gofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, ynghylch penderfyniad y Prif Weinidog ar goridor M4 o amgylch Casnewydd. Mynegwyd nifer o safbwyntiau yn Siambr y Cynulliad mewn ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ddoe, ond credaf fod angen mwy o amser.

“Dylai’r Llywodraeth wneud amser ar gyfer dadl sylweddol, dros ddeuddydd o bosibl, hyd yn oed, ar beth yn union yw goblygiadau’r penderfyniad hwn a pha gamau y mae angen eu cymryd fel sefydliad, fel Llywodraeth ac fel Cenedl, wrth i ni symud ymlaen o’r pwynt penodol hwn mewn amser.

“Credaf mai hwn yw un o’r materion gwleidyddol pwysicaf yr ydym wedi’i drafod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond credaf yng ngoleuni hynny fod angen inni sicrhau bod digon o amser ar gael yma yn ein Senedd genedlaethol i gynnal y ddadl bwysig yma wrth inni wynebu’r camau nesaf.”

Aelod Cynulliad Ynys Môn yn llongyfarch Beicwyr Elusen Asia i Ynys Môn.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi llongyfarch tri o’i etholwyr sydd wedi goresgyn taith feicio 5,500 milltir o Istanbul i Gaergybi er budd elusen.

Mae Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas wedi cwblhau taith anhygoel yr wythnos hon, gan feicio o Istanbul drwy Ddwyrain Ewrop ac ar draws y DU i Gaergybi ac wedi casglu dros £13,000 ar gyfer Cymdeithas Clefyd Modur Niwron a Hosbis Dewi Sant.

Wrth iddynt reidio mewn i Gaergybi ar y 23ain o Fai ar ôl wyth wythnos i ffwrdd o adref a miloedd o filltiroedd wedi eu cyflawni ac arian wedi ei gasglu at achosion da, diolchodd Rhun ap Iorwerth iddynt am eu hymdrechion gwych.

Dywedodd AC Ynys Môn:

“Rwy’n falch o dynnu sylw at daith feicio elusennol anhygoel, sydd bellach yn dod i ben, ac i longyfarch y tri etholwr sydd wedi bod yn beicio yn ddygn ers diwedd mis Mawrth.

“Aeth Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas ar y beic yn Istanbul ar yr 28ain o Fawrth, ac ers hynny maen nhw wedi beicio 65 milltir y dydd ar gyfartaledd, sydd yn 5,500 milltir i gyd, dros bedwar mynydd ar yr hyn a elwir yn Llen Haearn Llwybr Beicio.

“Fe orffennwyd y daith yng Nghaergybi heddiw (dydd Iau) ac roeddwn i’n gobeithio reidio’r rhan olaf gyda nhw. Mae busnes y Cynulliad yn golygu na fyddaf yn gallu, ond rwy’n falch o allu ymrwymo i’r weithred yma sydd yn llawer llai egnïol, drwy anfon y neges yma o gefnogaeth.

“Maen nhw wedi codi dros £13,000 i ddwy elusen. Rwy’n gwybod y bydd Cymdeithas Clefyd Motor Niwronau yn ddiolchgar iawn i chi, a bydd pob un ohonom sy’n cefnogi Hosbis Dewi Sant yn falch iawn o weld rhodd mor sylweddol yn cael ei roi hefyd, gan eu bod yn bwriadu agor canolfan newydd yng Nghaergybi. Ar ran pawb — diolch.”

Rhun ap Iorwerth yn cynnal trafodaeth ynglŷn â gofal ysbyty i cleifion dementia

Ddydd Llun, y 10 fed o Fehefin, mae Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn, yn cynnal trafodaeth o amglych bwrdd ynglŷn â gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia.

Cynhelir y drafodaeth ford gron yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni, ac mae’n agored i bawb sy’n byw yn yr ardal sydd â phrofiad – da neu ddrwg – o ofal ysbyty i rywun sy’n byw â dementia. Defnyddir yr wybodaeth hon i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i wella ansawdd gofal dementia mewn ysbytai ledled Cymru, rhywbeth sydd â’r potensial i effeithio ar fywydau miloedd o bobl.

Dangosodd tystiolaeth fod person sy’n byw â dementia ar ei fwyaf agored i niwed yn aml pan fo’n mynd i ysbyty. Gall eu hiechyd ddirywio’n gyflym ar ôl mynd i ysbyty.

Gall arhosiad diangen o hirfaith mewn ysbyty ei gwneud hi’n fwy tebygol i’r person golli’i sgiliau byw’n annibynnol, megis gwisgo amdano neu fwyta heb gymorth. Gall diffyg dealltwriaeth o ddementia ymysg staff meddygol hefyd gael effaith andwyol sylweddol ar brofiad y claf.

Dywed Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn:

“Pan fo’r person rydych yn ei garu’n mynd i ysbyty, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn profi’r gofal gorau un. Mae arnom angen gwneud mwy ar fyrder i gynorthwyo pobl sy’n byw â dementia yn ystod eu cyfnod mewn ysbyty, ac mae hynny’n dechrau drwy wrando ar brofiadau fy etholwyr ac ymateb i’w pryderon. Rwyf yn gweithio’n agos ag aelodau eraill o’r Grŵp Trawsbleidiol ar ddementia i ganfod datrysiadau i’r mater iechyd hanfodol hwn.”

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia yn addo gweithredu i wella gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia[1].

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia yn cynnal ymchwiliad i gasglu tystiolaeth gan bobl ledled Cymru i ddeall cyflwr presennol gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia. Byddant yn defnyddio’r dystiolaeth hon i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau y gellir eu cyflawni mewn ysbytai ledled Cymru.

Os oes gennych chi neu’ch anwylyd brofiad o ofal ysbyty yn gysylltiedig â dementia, fe hoffai Rhun ap Iorwerth glywed gennych ar yr 10fed o Fehefin yn y ford gron yng Nghanolfan Ebeneser, Bridge Street, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7PN. I ganfod mwy o wybodaeth ac i neilltuo lle i chi’ch hun, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Sophie Douglas ar 02920 475580 neu anfonwch e-bost at Sophie.Douglas@alzheimers.org.uk

Plaid Cymru yn galw am Strategaeth unswydd ar Gerbydau Allyriadau Hynod Isel

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau a dangos fod Cymru’n awyddus i groesawu’r dyfodol o ran Cerbydau Allyriadau Hynod Isel , wedi lansio adroddiad yn amlinellu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn rhannau eraill y DG ar y pwnc, a sut y mae Cymru’n cael ei gadael ar ôl.

Mae Driving Change: Scottish Lessons for Wales’ EV Future yn adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw gan Weinidog cysgodol y Blaid dros yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth, sydd yn dangos yr heriau sy’n wynebu Cymru o ran mabwysiadu agenda CT ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog y genedl i fynd yn drydanol.

Cyn lansio’r adroddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae arnom angen strategaeth CAHY eang a chynhwysfawr, nid rhywbeth sy’n cael ei gynnwys yn unig fel rhan o strategaeth ehangach ar leihau carbon, fel y gwelsom gyda’r Cynllun Carbon Isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chryfhau’r rhwydweithiau pŵer, mae angen cynllunio’r seilwaith gwefru yn ofalus.

“Gallai Llywodraeth Cymru naill ai aros nes bod digon o bobl yn brynu CAHY cyn sbarduno eu buddsoddiad eu hunain mewn seilwaith, sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi, neu fe allent ddilyn esiampl yr Alban, a gweld y gwir werth o fuddsoddi arian, amser ac ymdrech yn awr i annog newid ymddygiad.

“Gadewch i ni wneud datganiadau fel cenedl sydd yn codi proffil CAHY, ac yn normaleiddio’r defnydd ohonynt. Beth am gyflwyno ein priffyrdd trydan ein hunain, fel y gwnaeth yr Alban gyda’u A9 Trydan? Allwn ni gymell y sectorau cyhoeddus a phreifat rhag blaen i fynd yn drydanol?

“Gadewch i ni ddangos fod Cymru’n awyddus i groesawu’r dyfodol.”