Ymateb Rhun ap Iorwerth i gyhoeddiad Hitachi ynghylch prosiect Wylfa Newydd

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod Hitachi wedi tynnu’n ôl yn swyddogol o brosiect Wylfa Newydd, dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Roedd Horizon yn dweud hyd at yr wythnosau diwethaf bod eu rhiant-gwmni, Hitachi, yn dal yn obeithiol o ennill cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn amlwg mae hynny wedi methu, a gobeithion y rhai fu’n dymuno gweld datblygiad gorsaf ynni newydd wedi cael eu codi a’u chwalu eto. I mi, dyma oedd y perygl mewn rhoi gormod o ddibyniaeth ar fuddsoddiad allanol ac ar allu llywodraeth y DU i ddelifro.

“Tra bydd angen ystyriaeth frys rŵan ar gyfer opsiynau amgen ar gyfer y safle, rhaid hefyd codi gêr yn y gwaith o sicrhau cyfleon eraill yma ym Môn, yn cynnwys maesydd yr ydw i’n gefnogol iawn iddyn nhw, mewn ynni môr, ynni hydrogen ac uwch-dechnoleg ym mharc gwyddoniaeth MSparc er enghraifft. Byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her honno fel mater o flaenoriaeth.

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weld Plaid Cymru yn dod a phencadlys corff cenedlaethol newydd Ynni Cymru i Fôn.”