Aelod Senedd Cymru dros Ynys Mon yn cefnogi’r galw ar gyfer adnoddau chwaraeon yn Dwyran

Mae Rhun ap Iorwerth AS yn cefnogi’r galw i gynnal a datblygu adnoddau chwarae i blant a phobl ifanc Dwyran.

Bu Rhun ap Iorwerth AS yn cyfarfod aelodau o’r gymuned i glywed eu rhwystredigaeth am ddiffyg parc chwarae i’r plant, yn enwedig o ystyried bod tai newydd wedi eu datblygu yno’n ddiweddar gyda llawer o deuluoedd ifanc yn byw ynddyn nhw, ac fe glywodd siom hefyd am y bwriad i werthu holl ystad ysgol y pentref gaeodd yn ddiweddar, yn cynnwys y cae chwarae.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod angen i gynlluniau datblygu tai gynnwys ymrwymiad i ddatblygu adnoddau cymunedol, a dwedodd y bydd yn ysgifennu at y Cyngor Sir i ofyn am eithrio‘r cae chwarae o werthiant yr ysgol.

Dywedodd hefyd ei fod yn barod i weithio gyda’r gymuned i weld sut y gellid sicrhau lleoliad a chodi’r cyllid angenrheidiol i ddarparu parc chwarae.

“Rwyf wedi cyfarfod â llawer o aelodau cymuned Ddwyran yn gynharach yr wythnos hon sydd am sicrhau bod gan bobl ifanc yr ardal ddigon o gyfleusterau chwarae ar gyfer y dyfodol.

“Siaradais â grŵp o bobl ifanc a’u rhieni yn y pentref a gododd bryderon nad oes cyfleusterau chwarae i blant a bod nhw’n awyddus weld datblygwyr tai yn yr ardal yn cynnig cyfleoedd i greu cyfleusterau chwarae fel rhan o’u datblygiadau, ac rwy’n cytuno’n llwyr.

“Byddaf yn gweithio gyda’r gymuned leol i weld sut y gallaf helpu a gweld a allwn ddatblygu cyfleuster o ryw fath yma. Mae pryderon hefyd am gynlluniau i werthu’r cae chwarae a oedd yn rhan o hen ysgol y pentref. Er bod angen i’r Cyngor Sir werthu’r ysgol, rwy’n credu y dylai’r cae gael ei amddiffyn a’i eithrio o unrhyw werthiant, fel nad yw’r bobl leol yn colli’r cyfleuster hwn.”