Croesawu Astudiaeth bosibl Llywodraeth Cymru fyddai’n archwilio posibiliadau rheilffyrdd cyhoeddus a teithio llesol yn y dyfodol ar gyfer coridor rheilffordd Amlwch-Gaerwen

Mae Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio am gyllid i adeiladu’r achos dros ailgyflwyno gwasanaeth rheilffordd i deithwyr ar draws yr ynys o Amlwch i Gaerwen, ac ymlaen i Fangor. Dywed Mr ap Iorwerth ei fod yn falch bod yr astudiaeth a gynigiwyd yn cynnwys ymgorffori llwybr aml-ddefnydd ochr yn och â’r rheilffordd hefyd, sef rhywbeth y mae wedi ei argymell ers amser maith.

Wrth ymateb i lythyr gan Mr ap Iorwerth yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa’r Llywodraeth, cadarnhaodd swyddog yn yr Adran Drafnidiaeth fod cais ffurfiol wedi’i wneud i ‘gronfa syniadau’ rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n edrych ar sut mae gwasanaeth rheilffordd yn dod o Amlwch i ddechrau, trwy Llangefni, Gaerwen a Bangor a gallai fynd ymlaen i Llandudno yn y pen draw fel rhan o’r rhwydwaith Rheilffyrdd.

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, a’r math yma o astudiaeth ddifrifol yn gwneud i ni ystyried y cyfleoedd a’r heriau ar gyfer y linell.” Meddai Mr ap Iorwerth.

“Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith bod y Llywodraeth yn nodi’r angen i edrych ar yr opsiynau ar gyfer llwybr aml-ddefnydd ochr yn ochr â’r rheilffordd, a sut i ymgorffori defnydd ‘Heritage Railway’ hefyd. Rwyf wedi bod yn awyddus ers amser i ddod â grwpiau sydd â gweledigaethau gwrthwynebol ynghyd ar y mater yma.

“Ar yr un pryd, rwyf wedi bod yn gohebu gyda’r awdurdod lleol ac eraill yn ddiweddar ynghylch opsiynau ar gyfer llwybrau teithio egnïol. Mae yna lawer o gyfleoedd yn hynny o beth, ond dim ond un opsiwn ar yr ynys i ddatblygu rheilffordd fel trafnidiaeth gyhoeddus.

“Yn ddiweddar, amlinellodd yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd sut y gwelodd botensial i gynnwys lein Amlwch fel rhan o ehangu rheilffyrdd ar draws y gogledd orllewin.

“Bu tanariannu sylweddol yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru dros y blynyddoedd, gyda Chymru’n cael llai na 2% o’r gwariant ar wella rheilffyrdd, er gwaethaf cael 11% o’r traciau. Fe ddylen ni fod yn edrych nid yn unig i wella’r traciau sydd gennym ni eisoes, ond i ehangu’r rhwydwaith hefyd.

“Yma yn Ynys Môn mae gennym un o’r ychydig linellau rheilffordd a gafodd eu gadael yn hytrach na’u codi yn dilyn toriadau a yrrwyd gan Beeching. Mae gennym ni rywfaint o arian wedi’i neilltuo gan Lywodraeth y DU ar gyfer datblygu syniadau, ac mae angen i ni geisio mynd ar ol hynny, yn ogystal â manteisio ar amrywiol gynlluniau teithio egnïol, hefyd. ”

Ychwanegodd MS Ynys Môn:

“Rwyf wedi cael gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i ychwanegu fy nghefnogaeth i’r cynnig trwy ohebu â Gweinidogion y DU, cyfle y byddaf yn sicr yn ei gymryd. Byddai gwahanol grwpiau sydd efo diddordeb lleol yn cael leisio eu barn hefyd, sy’n hanfodol, wrth gwrs – mae’r rhain yn gynlluniau a all fod o fudd i’r ynys gyfan yn nhermau economaidd, cymdeithasol, trafnidiaeth a lles. “