Plaid yn glaw am brofion Coronafeirws rheolaidd mewn Ysgolion

Dylid cynnal profion Coronafeirws rheolaidd a phwrpasol mewn ysgolion, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS.

Dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod “yn gwneud synnwyr” i ddefnyddio’r capasiti profi sydd ar gael i helpu i sicrhau bod ein hysgolion yn parhau’n ddiogel i’w hagor yn llawn.

Mae ysgolion yng Nghymru yn ailagor yr wythnos hon.

Dangosodd data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos diwethaf cynnydd mewn achosion newydd gan rybuddio fod “Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth mai’r “unig ffordd o fod yn siŵr o weld y darlun llawn” yw cynnal profion mor eang â phosibl mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan nad yw pobl yn aml yn arddangos unrhyw symptomau neu’n arddangos symptomau gwan iawn.

Ar hyn o bryd, yng Nghymru, dim ond aelodau o’r cyhoedd sydd â symptomau Coronafeirws sydd yn cael profion swab, gan eithrio lleoliadau cartrefi gofal.

Ymhlith yr argymhellion o adroddiad diweddar gan fenter Gymdeithas Frenhinol DELVE mae angen “gweithredu trefn fonitro effeithiol…sy’n cynnwys gwyliadwriaeth eang, sy’n gysylltiedig â system profi, olrhain a diogelu effeithiol, a ellir ei chynyddu yn ddigonol ac yn gyflym.” Galwodd Comisiynydd Plant Lloegr i athrawon a disgyblion yn Lloegr gael profion wythnosol yn sgil yr adroddiad.

Bydd pêl-droediwr yn yr Uwch Gynghrair yn derbyn profion ddwywaith yr wythnos drwy gydol misoedd Mai i Orffennaf a disgwylir i brofion rheolaidd barhau pan fydd y gynghrair yn ailgychwyn. Mae’r drefn brofi wedi bod yn effeithiol iawn o ran dod o hyd i achosion positif lle nad oedd y person yn dangos unrhyw symptomau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth “os yw’n ddigon pwysig i’n pêl-droediwr, dylai fod yn ddigon pwysig i’n hathrawon, ein myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn ein hysgolion.”

Meddai Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru,

“Mae profion wedi bod ar gael i bawb yng Nghymru sy’n arddangos symptomau Coronafeirws ers peth amser. Fodd bynnag, gwyddom fod plant – a llawer o oedolion – yn aml ddim yn arddangos symptomau neu’n yn arddangos symptomau ysgafn iawn. Felly’r unig ffordd o fod yn siŵr o weld y darlun llawn yw defnyddio’r capasiti profi sydd gennym gymaint â phosibl i ddod ag achosion a chlystyrau i’r amlwg.

“Ysgolion yw’r mannau anhysbys newydd. O gofio ei bod mor bwysig iddynt aros ar agor, ac yn ddiogel i bawb ynddynt, mae’n gwneud synnwyr defnyddio’r capasiti profi yng Nghymru i roi sicrwydd i athrawon, rhieni a disgyblion fel bod gennym ddarlun cyflawn o ble y gallai Coronafeirws fod yn cylchredeg.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i bobl ddychwelyd o wyliau i ysgolion, gan fod adroddiadau yn dweud fod mwy o berygl o drosglwyddo’r firws wrth ddod yn ôl o wyliau i leoliadau penodol.

“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhaglen ‘wyliadwriaeth eang’ i ni. Dylent ddechrau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod fod Coronafeirws yn cylchredeg, dylent brofi mor eang â phosibl, a dylai’r samplu rheolaidd hwn ddechrau rŵan, wrth i ddisgyblion ddychwelyd i ysgolion.

“Os bernir bod profion rheolaidd yn ddigon pwysig i’n pêl-droediwr, yna dylai fod yn ddigon pwysig i’n hathrawon, ein myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn ein hysgolion.”