Rhun ap Iorwerth AS yn cyd-sefyll â streicwyr British Gas / Centrica

AS Ynys Môn yn condemnio cynllun ‘Diswyddo ac Ailgyflogi’ y cwmni

Wrth i filoedd o weithwyr British Gas/Centrica barhau i weithredu’n ddiwydiannol mae’r Aelod Seneddol dros Ynys Môn wedi beirniadu’r cwmni eto wrth iddynt danseilio cytundebau’r gweithwyr. Mae British Gas yn mynd drwy broses o ddiswyddo staff, i bob pwrpas, a’u cyflogi eto ar gytundebau llai ffafriol.

Estynodd aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS ei gefnogaeth i weithwyr y cwmni fydd yn streicio eto heddiw a’r wythnos nesaf i bwyso ar British Gas i newid eu meddyliau. Mae o eisoes wedi Ysgrifennu at Lywodraeth Prydain yn gofyn am gefnogaeth i’r gweithlu.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae’n gwbl annerbyniol i drin y gweithlu fel hyn. Mae llawer ohonyn nhw wedi rhoi blynyddoedd teyrngar o wasanaeth i’r cwmni, a fyddai eu trin fel hyn ddim yn deg ar unrhyw adeg, ond yn enwedig rwan yng nghanol ansicrwydd y pandemig. Dylai’r math yma o arfer gael ei wahardd.”

Fis Medi y llynedd, ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Prydain ar y pryd, Alok Sharma AS i ofyn am ei gefnogaeth i weithwyr British Gas a Centrica gan alw am wahardd yr arfer hwn gan gyflogwyr.

Dywedodd un o weithwyr British Gas, sy’n gwasanaethu etholaeth Ynys Môn wrth Rhun ei fod o a’i gyd-beirianwyr British Gas “yn flin iawn hefo’r rheolwyr sydd yn ceisio ein bwlio i dderbyn telerau newydd, telerau sydd yn rhoi targedau sydd yn amhosibl i’w cyraedd,” gan ychwanegu y byddant “yn ein rhoi o dan bwysau eithriadol”.

Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae penderfyniad British Gas i drin eu gweithwyr yn y modd hwn yn afresymol, ac rwy’n estyn pob cefnogaeth i’r gweithwyr sy’n streicio dros yr wythnosau nesaf. Mae 15 o weithwyr sy’n gofalu am ardal Môn a gogledd orllewin Cymru, gweithwyr cwbl hanfodol sy’n haeddu chwarae teg a chytundebau rhesymol gan eu cyflogwyr.

“Rwyf wir yn gobeithio y bydd British Gas yn ail ystyried eu penderfyniad sydd am effeithio miloedd o bobl ledled y DU. Mae hon yn frwydr dros eraill allai wynebu tactegau tebyg gan eu cyflogwyr.”