Datblygiad Glannau Caergybi – Angen i drigolion Caergybi leisio’u barn

Gyda llai nag wythnos i fynd ar yr ymgynghoriad, mae AS dros Ynys Môn yn gofyn i bobl Caergybi wneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed ac i rannu eu barn ar y cynigion diweddaraf ar gyfer datblygiad y glannau. Gallai llawer o bethau cadarnhaol ddod allan o’r datblygiad os caiff ei gynllunio’n drylwyr ac os caiff ei  gefnogi’n lleol, ond yn dilyn dadlau ynghylch y cynlluniau gwreiddiol, mae’n bwysig bod gwersi yn cael eu dysgu. Rwy’n credu y gall Caergybi elwa o gael y datblygiad cywir ar waith. Mae colli’r Marina oherwydd storm Emma ddwy flynedd yn ôl wedi bod yn ergyd enfawr. Ond rhaid i unrhyw gynllun fod yn un sy’n sensitif i anghenion a dyheadau pobl Caergybi. Nhw yw’r pwysicaf yn hyn, ac rwy’n annog pobl i ddweud eu dweud. Gwn er enghraifft, fod llawer o bryderon yn parhau am yr effaith ar ardal traeth Newry ei hun. Roeddwn wedi dadlau dros symud tua’r gorllewin, i gynnwys adnewyddu Tŷ Porthyfelin a Soldiers Point House, ond mae hynny bellach yn ychwanegol at ddatblygiad Newry. Rwyf am sicrhau bod pobl yn dweud eu dweud, fel bod materion yn ymwneud â gorddatblygu posibl, amddiffyn harddwch lleol, natur y tai sy’n cael eu darparu, a’r effaith ar y gymuned leol yn cael eu hystyried yn wirioneddol.