“MAE ANGEN CANOLFAN FRECHU AR GAERGYBI” meddai AS dros Ynys Môn

“MAE ANGEN CANOLFAN FRECHU AR GAERGYBI” meddai AS dros Ynys Môn
Siom enfawr wrth i’r bwrdd iechyd gadarnhau fod ‘dim cynlluniau’ ar gyfer ail safle Ynys Môn

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi mynegi ei siom yn dilyn cadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer sefydlu canolfan frechu gymunedol yng Nghaergybi.

Croesawodd Aelod y Senedd y ffaith bod meddygon teulu ar yr ynys eisoes wedi bod yn rhan o’r rhaglen frechu, ond dywed y dylid darparu canolfannau brechu cymunedol mewn ardaloedd o boblogaeth uwch er mwyn sicrhau bod y rhaglen frechu yn cael ei darparu’n gyflym ac yn gyfleus. Mae wedi ysgrifennu at BIPBC i ddadlau dros ail ganolfan, a dywed bod Cyngor Ynys Môn hefyd yn gefnogol ac yn awyddus i ddarparu lleoliad, fel y maent wedi’i wneud gyda’r ganolfan hamdden yn Llangefni.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

“Rwy’n croesawu bod canolfan wedi’i chlustnodi ar gyfer Llangefni, a bydd cael canolfan ym Mangor yn ei gwneud yn hygyrch i bobl sy’n byw yn ne’r ynys hefyd. Fodd bynnag, mae’n amlwg i mi fod angen canolfan frechu arnom hefyd ar gyfer y rhan fwyaf poblog ar yr Ynys, sef ardal Caergybi, yn enwedig o ystyried pwysau diweddar ar wasanaethau gofal sylfaenol yn y dref. ”

Yn y cyfamser, yn ei rôl fel Gweinidog Cysgodol Iechyd a Gofal, bydd Mr ap Iorwerth yn parhau i wthio am welliannau wrth gyflwyno’r brechlyn ledled Cymru, gan ddweud bod y broses wedi cychwyn yn rhy araf ar lefel genedlaethol.

Yn y Senedd yr wythnos hon fe gyflwynodd gwestiwn brys yn dilyn awgrymiadau gan y Prif Weinidog y byddai stociau cyfredol y brechlyn yn cael eu lledaenu dros gyfnod o wythnosau, yn hytrach na chael eu dosbarthu cyn gynted â phosibl. Gwrthododd y Prif Weinidog yr awgrym hwnnw wedi hynny. Galwodd AS Ynys Môn am eglurder llwyr ar strategaeth frechu, tryloywder ynghylch rhannu’r brechlyn ledled y DU ac yng Nghymru, ac ynghylch lle mae problemau’n codi yn y system.

Canmolodd Mr ap Iorwerth y timau brechu, gan ychwanegu:

“Mae gennym ni dimau brechu gwych eisoes wrth waith, ac mae eraill yn barod i fynd, ond mae’n hanfodol nawr bod Llywodraeth Cymru’n adeiladu’r hyder sydd ei angen arnom yn y rhaglen frechu holl bwysig hon.

“Mae yna arwyddion go iawn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn cyflymu pethau ond gadewch i ni nawr weld cynlluniau pellach ar gyfer lleddfu’r dasg enfawr sydd o’n blaenau, gyda mwy o ganolfannau brechu mewn mwy o gymunedau.”