Mae AC Ynys Môn yn galw am fuddsoddiad er mwyn dileu digartrefedd ar ôl marwolaeth dyn lleol

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi talu teyrnged heddiw, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i Paul Daniel Hughes, dyn digartref y daethpwyd o hyd i’w gorff yn Llangefni yn ddiweddar, ac anogodd Lywodraeth Cymru i fuddsoddi’n iawn i ddileu digartrefedd fel na all marwolaeth gyffelyb ddigwydd eto.

Roedd Mr Hughes yn byw mewn pabell ar lannau Afon Cefni am nifer o fisoedd cyn ei farwolaeth, ar ôl cael ei gicio allan o hostel am ddwyn brechdan un o’i gydletywyr.

Roedd wedi cyfaddef ei ddwyn cyn hynny, yn syml fel y gallai fynd i’r carchar a chael to uwch ei ben, ar ôl cael ei wneud yn ddigartref yn dilyn marwolaeth ei fam.

Talodd AC Plaid Cymru Mr ap Iorwerth deyrnged i Mr Hughes, gan ddweud:

“Rwy’n wirioneddol drist o glywed am farwolaeth Paul Daniel Hughes, dyn digartref a oedd yn teimlo fel nad oedd ganddo unman i droi oherwydd y sefyllfa yr oedd ynddi, gydag ychydig iawn o gefnogaeth ar gael iddo i’w godi allan o’r amgylchiadau anodd yr oedd wedi darganfond ei hun ynddo fo.

“Ceisiodd fy nhîm helpu Paul ond methodd nifer o atgyfeiriadau at sefydliadau ac awdurdodau lleol ac ymyriadau ddwyn ffrwyth oherwydd y gwasanaethau cyhoeddus llethol yr ydym yn cael ein gorfodi i weithio gyda nhw y dyddiau yma.

“Mae marwolaeth Paul yn ein hatgoffa y gall unrhyw un ohonom a phob un ohonom syrthio ar amseroedd caled, a phan fydd pobl yn wynebu anawsterau o’r fath rhaid iddynt gael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i’w helpu i wella.

“Roedd Paul yn ddyn a oedd wir eisiau cyfle arall. Mae delio â chymdeithas a system gymorth sydd wedi goddef toriadau i adnoddau a chyllid a oedd i fod helpu gyda sefyllfaoedd fel hyn yn golygu bod y system wedi ei fethu’n llwyr.

“Oherwydd pobl fel Paul y mae’n rhaid i ni fuddsoddi’n iawn i ddileu digartrefedd, ac mae’n rhaid cynnyddu’r cyllid sydd ar gael.”