Nid yw newid ym mhersonel Betsi “yn ddigon” medd Rhun ap Iorwerth wrth i’r Prif Weithredwr gamu o’r neilltu

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad yw gwneud dim ond newid y personél ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, sydd mewn cymaint o drafferth “yn ddigon ynddo’i hun” yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Prif Weithredwr y bwrdd, Gary Docherty, yn gadael ei swydd erbyn diwedd y mis.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC a Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, wedi pum mlynedd mewn mesurau arbennig, na fyddai newid yn y personel yn ddigon.

Ychwanegodd mai “symptom” oedd y sefyllfa yn Betsi o broblem ehangach yn GIG Cymru ac y dylai’r llywodraeth Lafur “ysgwyddo’r cyfrifoldeb” am ei berfformiad gwael gan gynnwys amseroedd aros mewn adrannau brys, canoli a cholli gwasanaethau lleol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod ar y GIG angen “newid go-iawn” ac mai dim ond Plaid Cymru allai gyflawni hynny, gan ychwanegu fod “cleifion a staff yn haeddu dim llai”.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llyr Gruffydd fod ymadawiad Mr Docherty yn “benderfyniad cywir” ac y dylai’r bwrdd fod wedi gweld “mwy o welliant yn ystod ei bedair blynedd wrth y llyw”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC a Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru,

“Ar ôl pum mlynedd mewn mesurau arbennig, nid yw newid mewn personel ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ddigon ynddo’i hun.

“Symptom yw’r sefyllfa yn Betsi o broblem ehangach sy’n effeithio ar ein GIG. Llywodraeth Lafur Cymru sydd â gofal, a hwy sy’n gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y perfformiad gwael, amseroedd aros gwaeth mewn adrannau brys, canoli, a cholli gwasanaethau lleol. Mae arnom angen newid go-iawn a gall Plaid Cymru gyflwyno hwnnw. Mae cleifion a staff yn haeddu dim llai.

Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru Llyr Gruffydd,

“Dyma’r penderfyniad iawn ac y mae’n hen bryd iddo ddigwydd. Fe alwais ar i Mr Docherty fynd yn nadl Plaid Cymru ar berfformiad y GIG yr wythnos ddiwethaf, ac yr wyf yn falch o weld ei fod wedi mynd. Dylasem fod wedi gweld mwy o welliant yn ystod ei bedair blynedd wrth y llyw.”