Ar ôl gorfod disgwyl dwy flynedd, mae Rhun ap Iorwerth yn gwthio Llywodraeth Cymru i gyflawni eu haddewidion am Gerbydau Trydan

Mae methiant Llywodraeth Cymru i droi addewidion gwariant yn realiti yn golygu bod rhaid cwestiynu eu hymrwymiadau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn ôl AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, a gododd bryderon ynghylch yr oedi mewn buddsoddiad o £2m ar gyfer datblygu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer cerbydau cyhoeddus.

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi bod yn llafar ei gefnogaeth wrth annog cerbydau trydan, ac wrth godi cwestiynau yn y Cynulliad Cenedlaethol galwodd am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith EV, ac ymgyrchu i Lywodraeth Cymru weithredu mewn modd sy’n dangos eu bod nhw’n cymryd y dechnoleg newydd hon o ddifrif.

Sicrhawyd y £2m tuag at ddatblygu rhwydwaith codi tâl ULEV gan Blaid Cymru yn 2017 fel rhan o gyllideb fargen gyda Llywodraeth Lafur Cymru, ond hyd yn hyn dim ond hanner yr arian hwnnw sydd wedi’i wario, a chododd AC Plaid Cymru ei bryderon gyda Llywodraeth Cymru’r wythnos yma.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae Llywodraeth Cymru yn ei ddyddiau cynnar iawn o ran y buddsoddiad a ddylai fod yn digwydd ar raddfa eang y rhwydwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan. Yn ein cytundeb cyllideb ddwy flynedd yn ôl, cytunodd Llywodraeth Cymru i gais Plaid Cymru i fuddsoddi £2 filiwn mewn rhwydwaith gwefru cenedlaethol.

“Rhaid dweud ei bod yn achos rhwystredigaeth fawr i mi, ar ôl llwyddo i ddod i’r cytundeb hwnnw, i weld yr oedi i wario’r arian. Nid yw dwy filiwn o bunnoedd gwerth cymaint ag yr oedd ddwy flynedd yn ol, ac roedd yn bwysig iawn cael y cyllid hwnnw ar waith er mwyn rhoi hwb i’r sector.

“Mae gwariant o hanner yr hyn a gytunwyd arno ledled Cymru gyfan ar bwyntiau gwefru cyhoeddus dros gyfnod o ddwy flynedd yn brawf o fethiant y Llywodraeth i droi addewidion gwariant yn realiti.

“Os mai dyna eu hagwedd at y rhwydwaith gwefru, mae angen gofyn rhai cwestiynau difrifol iawn am yr addewidion a wnaed yn ehangach o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a pharodrwydd a gallu’r Llywodraeth i droi’r cynlluniau hynny’n realiti?”