Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi croesawu cyhoeddi Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) yn ddiweddar fel ‘cam pwysig iawn’, a fydd yn gweld yr oedran pleidleisio wedi gostwng ar gyfer etholiadau Cymreig, yn ogystal ac enw newydd i’n Senedd Genedlaethol.
Mewn ymateb i ddatganiad gan y Llywydd yn cyflwyno’r Mesur yn Siambr y Cynulliad ddoe, trafododd Mr ap Iorwerth y symudiad at ailenwi Senedd Genedlaethol Cymru fel y ‘Senedd’, a gwnaeth yr achos dros y ddeddfwriaeth hon sydd angen disgrifio i bobl Cymru’r daith o fod yn Gynulliad i ddod yn Senedd.
Dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Mae hwn yn gam pwysig iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r trafodaethau ar Fesur newydd a fydd yn gweld yr oedran pleidleisio’n dod lawr i 16 ar gyfer etholiadau yng Nghymru – rwy’n credu’n gryf bod angen i ni barchu llais ein pobl ifanc. Ac mae dadl ddiddorol i ddod o hyd i enw addas i’n Senedd Genedlaethol hefyd.
“Rwy’n credu bod angen i ni symud tuag at gael un enw, ‘Senedd’, i’n Senedd genedlaethol newydd, ond mae arnom hefyd angen y ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs, i ddisgrifio ein newid ar y daith honno o fod yn Gynulliad, a oedd yn ein rhoi ar lefel is i’r Senedd yn yr Alban – mae arnom angen y ddeddfwriaeth hon i fynd â ni ar y daith honno i fod yn Senedd.
“Mae arnom angen ‘Senedd’ fel enw, mae angen i ni, trwy’r ddeddfwriaeth hon, gael ‘Senedd’ yno fel disgrifydd, ac edrychaf ymlaen atom wrth ddefnyddio hyn fel cam i sefydlu ein hunain hyd yn oed ymhellach yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru yn yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt. “