Ymateb Gweinidog Cysgodol Economi Plaid Cymru i gyhoeddiad Airbus A380

Mae Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC, wedi mynegi ei siom yn dilyn cyhoeddiad Airbus am ei penderfyniad i roi’r gorau i gynhyrchu’r A380 dwbl yn 2021.

Mae rhan o waith adeiladu’r A380 yn digwydd ar safle’r cwmni ym Mrychdyn, a mae’r cyhoeddiad yn codi pryderon ynglŷn â cholli swyddi posib, ond mae Airbus yn dweud eu bod yn gobeithio na fydd yn effeithio ar lawer o golli swyddi.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Roeddwn i’n siomedig i glywed heddiw am benderfyniad Airbus i roi’r gorau i gynhyrchu’r A380 deulawr dwbl yn 2021. Mae hi’n awyren hardd yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i hedfan arni, ac rwy’n falch o rôl Cymru yn ei chreu.

“Daeth y penderfyniad yn sgil gostyngiad archebion y cwsmer mwyaf, sef Emirates, a fydd yn hytrach yn canolbwyntio ar ddefnyddio awyrennau eraill o fflyd Airbus.

“Mae Airbus yn nodi ei bod yn gobeithio cadw colledion i leiafswm, ond mae’n anochel y bydd pryderon ym Mrychdyn ble mae’r adenydd yn cael eu creu.

“Byddaf yn gofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau’r cyhoeddiad hwn yn y tymor byr a chanolig. Rwy’n falch fodd bynnag, nad yw Airbus yn disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar eu cynlluniau recriwtio prentisiaid.”