Ambiwlans Awyr Cymru yn nodi 20 mlynedd o wasanaeth.

Ambiwlans Awyr Cymru yn nodi 20 mlynedd o wasanaeth.

Rhun ap Iorwerth AS yn dathlu dydd Gŵyl Dewi drwy ddiolch am 20 mlynedd o wasanaeth gan yr Ambiwlans Awyr.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae’r dydd Gŵyl Dewi hwn yn un hanesyddol iawn i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, wrth iddynt gyrraedd carreg filltir arbennig iawn. Mae’r gwasanaeth hanfodol hwn wedi achub cymaint o fywydau dros y blynyddoedd, ac mae’n wasanaeth sy’n golygu lot fawr i lawer.”

Mae Siop Sglodion y Wygyr, Cemaes yn un o’r busnesau sydd wedi bod yn casglu arian i’r elusen, ers blynyddoedd ac maent yn annog unrhyw un i gyfrannu i ddangos eu gwerthfawrogiad i waith caled yr elusen yn ystod yr amser anodd sydd ohoni.

ychwanegodd Rhun ap Iorwerth “Rwyf yn hynod falch o’r holl waith y mae’r Ambiwlans Awyr yn ei wneud, mae ein diolch yn fawr iddynt, yn enwedig dros gyfnod heriol y pandemig. Os allwch gyfrannu unrhyw beth tuag at yr elusen, byddant yn ddiolchgar iawn”