YMGYNGHORIAD YSGOL: ‘GADEWCH I’R GYMUNED GAEL EI CHLYWED’

YMGYNGHORIAD YSGOL: ‘GADEWCH I’R GYMUNED GAEL EI CHLYWED’

Ymgyrchwyr Talwrn yn dweud na ddylai ymgynghoriad i gau ddigwydd yn ystod pandemig 

Yn ystod cyfnod lle mae popeth yn cael ei gynnal yn rhithwir, mae ymgyrchwyr sy’n brwydro i achub Ysgol Talwrn rhag cau yn teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed oherwydd cyfyngiadau pandemig.

Mewn cyfarfod rhithwir a gynhaliwyd gan Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, mynegodd ymgyrchwyr bryderon difrifol bod y cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd Covid-19 wedi effeithio’u gallu i wrthwynebu cynlluniau Cyngor Sir Ynys Môn yn effeithiol. Maent wedi galw ar yr awdurdod lleol i ohirio’r broses ymgynghori hyd nes y gallant wrthwynebu’r cynigion yn llawn ac yn deg. Byddai’r cynlluniau’n gweld Ysgol Talwrn yn cau, gyda disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol y Graig yn Llangefni, a fyddai’n cael eu hehangu i dderbyn disgyblion ychwanegol.

Yr wythnos diwethaf, daeth cyfnod ymgynghori statudol y Cyngor i ben, ond mae ymgyrchwyr yn honni nad yw’r system wedi bod yn ddigon agored, a bod cynlluniau’n cael eu gwthio drwodd ar adeg lle mae plant yn cael eu haddysgu o gartref a phan na all grwpiau gyfarfod wyneb yn wyneb i godi eu pryderon yn llawn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Ar adeg lle rydym yn gyfyngedig iawn yn yr hyn y gellir ei wneud i wrthwynebu’r bwriad i gau Ysgol Talwrn, mae ymgyrchwyr wedi cysylltu â mi am eu bod eisiau cyfle teg i leisio eu barn.”

Mae Mr ap Iorwerth wedi ysgrifennu at y Cyngor o’r blaen i ofyn iddyn nhw oedi’r cynlluniau nes fyddwn ochr arall y pandemig, ond dywedwyd wrtho na ellir gohirio’r broses am byth.

Ychwanegodd: “Er fy mod yn deall bod yn rhaid i’r Cyngor ddelio â materion ar wahân i Covid-19, mae yma gymuned sydd ddim yn gallu cymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori – ni allant gyfarfod wyneb yn wyneb, maen nhw’n dweud wrthyf fod cyfyngiadau covid, ynghyd â chysylltiad rhyngrwyd gwael yn yr ardal, wedi effeithuio ar eu gallu i gyfarfod yn rhithwir, ac o ganlyniad maen nhw’n teimlo fel cymuned “ar miwt”.”

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymgynghoriadau ar ddyfodol Ysgol Talwrn, gyda’r Cyngor eisoes wedi gohirio’r broses bresennol ers Mawrth 2020 o ganlyniad i’r pandemig.

Dywedodd Rachael Jones, gwarchodwraig plant o Dalwrn ei bod yn credu y dylai’r ysgol gael dyfodol disglair:

“Mae’r ysgol wedi cael ei rhestru’n ‘Wyrdd’ yn ddiweddar, mae’r Cylch yn brysur ac mae fy musnes bach yn brysur o ganlyniad. Rwy’n poeni am yr effaith byddai cau’r ysgol yn ei gael ar fy musnes, ond rwy’n wirioneddol bryderus am yr effaith y byddai’n ei gael ar ein cymuned. Rwy’n gwybod nad yw rhai rhieni’n cofrestru eu plant yn yr ysgol oherwydd y bygythiad o gau.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ymgynghoriadau niferus yn sicr o adael creithiau ar gymuned, ac mae’r ffaith bod cyfleoedd i leisio barn y gymuned mor gyfyngedig ar hyn o bryd yn ychwanegu at y teimladau o anhegwch. Byddaf yn parhau i alw ar y Cyngor i ystyried pob opsiwn sydd ar gael iddynt, a byddaf yn ysgrifennu atynt eto yn dilyn y cyfarfod hwn i fynegi dyfnder y teimlad.”