Galwad dro ar ôl tro i godi taliad hunan-ynysu i £800

Galwad dro ar ôl tro i godi taliad hunan-ynysu i £800

Wrth ymateb i newyddion bod hunan-ynysu yn costio cannoedd o bunnoedd mewn incwm coll i bobl nad ydyn nhw’n gymwys i gael cymorth ariannol, dywedodd Gweinidog Cysgodol Cyllid ac Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae hunan-ynysu yn parhau i fod yn rhan hanfodol o atal lledaeniad coronafirws, ac mae ofn anhawster ariannol yn un o’r rhwystrau i hunan-ynysu effeithiol. Os nad yw cefnogaeth yn ddigonol, ac nad yw’n cyrraedd y bobl iawn, mae ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r pandemig yn dioddef.

“Bydd codi’r taliad hunan-ynysu incwm isel i £800 yn helpu mwy o bobl i aros gartref ar yr adeg y mae angen iddynt ei hynysu fwyaf. Bydd hwn yn gam pwysig wrth helpu i atal y firws rhag gafael eto unwaith y byddwn yn llacio’r cyfyngiadau. ”