DIWEDDARIAD COVID-19
Ymatebais i ddiweddariad Covid-19 y Llywodraeth. Ar y cyfan roeddwn yn falch fod y Llywodraeth wedi cytuno efo fy ngalwadau i gadw masgiau yn rhan o’r rheolau. Ond galwais am eglurder ar y mesur fydd Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio pan ddaw’n amser i gadarnhau’r llacio ar 7fed Awst.
Isadeiledd Rheoli Ffiniau
Gofynnais i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ar frys am y datblygiadau ym mhorthladd Caergybi – rydan ni’n gwybod rŵan bod yr HMRC wedi prynu truck stop Roadking, lle mae pobl yn mynd i fod yn colli eu swyddi – a dw i wedi cael digon ar y diffyg tryloywder a chyfathrebu gan HMRC. Rwy’n clywed o bosib fod Llywodraeth Cymru yn symud eu datblygiad nhw o Barc Cybi i mewn i ddatblygiad Roadking. Mae cymuned Caergybi a phobl Ynys Môn angen gwybod beth sydd yn digwydd ar fyrder.
GTB – Digidol
Cefais fy ail ethol yn gadeirydd ar y Grŵp Traws Bleidiol ar Ddigidol yng Nghymru. Ail-etholwyd Parc Gwyddoniaeth Menai yn Ysgrifenyddiaeth ar y grŵp a manteisiodd ar y cyfle i lansio AgriTech sef y defnydd o dechnoleg ac arloesedd technolegol i wella effeithlonrwydd ac allbwn prosesau amaethyddol. Hynny yw, cymhwyso technoleg i wella pob elfen o’r prosesau ffermio a thyfu.
Iechyd
Cefais gyfarfod efo’r dirprwy weinidog iechyd meddwl i drafod gweledigaeth Plaid Cymru o sefydlu hybiau iechyd meddwl i bobl ifanc ar draws Cymru. Cawsom hefyd gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Iechyd yn y 6ed Senedd yr wythnos hon.
Colli Swyddi RAF y Fali
Siaradais ar Radio Cymru i drafod fy mhryder o glywed bod 70 o swyddi dan risg o’u colli yn ôl Undeb Unite ar safle’r llu awyr brenhinol yn y Fali.
Byddaf yn ysgrifennu ar frys at Y Weinyddiaeth Amddiffyn am fwy o wybodaeth am eu hymrwymiad nhw i’r staff fyddai’n cael eu heffeithio.
Cyfarfodydd
Cefais nifer o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos gan gynnwys cyfarfod efo MônCF, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cerebral Palsy Cymru, NFU Cymru ac FSB ar fusnesau bach.
Facebook Live
Nos Lun arall a sesiwn Facebook Live arall. Sesiwn byrrach yr wythnos hon, ond braf oedd cael dal fyny ag etholwyr unwaith eto’r wythnos hon i drafod materion sy’n codi ynghylch y pandemig neu unrhyw fater arall.
MônFM
Recordiais fy mwletin wythnosol sy’n cael ei ddarlledu ar MônFM yn wythnosol, bob nos Wener am 8yh – cofiwch diwnio mewn!
Cymhorthfa
Fel bob wythnos, cynhaliais fy nghymhorthfa er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio’u problemau neu bryderon ac i mi gynnig datrysiad neu gymorth iddynt.
Etholwyr
Gyda chymorth fy nhîm, atebais lawer o e-byst a galwadau ffôn nifer o etholwyr drwy gydol yr wythnos.