RHUN AP IORWERTH AS YN CAEL EI AIL-ETHOL YN GADEIRYDD Y GRWP TRAWS BLEIDIOL AR DDIGIDOL

Yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol yn y chweched Senedd yr wythnos diwethaf, ail-etholwyd Rhun ap Iorwerth AS yn Gadeirydd gydag M-Sparc yn cael eu hailethol yn ysgrifenyddiaeth y grŵp.

 

Mynychwyd y cyfarfod gan Aelodau o’r Senedd o bob plaid ynghyd â sefydliadau eraill o’r sector digidol, a manteisiodd M-SParc ar y cyfle i lansio’r clwstwr Agri-Tech yn swyddogol yn y fforwm ledled Cymru. Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol i sicrhau bod y genedl mewn sefyllfa dda i elwa ar gyfleoedd y sector digidol. Mae’r Clwstwr AgriTech yn hyrwyddo cydweithredu ac arloesi mewn sector twf uchel gyda buddion economaidd i’r rhanbarth.

 

Yn 2020 buddsoddodd y DU £24 Miliwn mewn prosiectau AgriTech, gan arwain at lawer o ddatblygiadau technolegol cyffrous yn y sector amaethyddol, a bydd lansiad y Clwstwr AgriTech yn sicrhau fod gogledd Cymru yn gallu elwa ar hyn, gan helpu’r sector i dyfu yn y rhanbarth.

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Rwy’n falch iawn o gael fy ailethol yn Gadeirydd y grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol. Rwy’n awyddus i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i elwa’n gymdeithasol ac yn economaidd o’r sector, ac mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n arloesi yn y sector a’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrru’r sector ymlaen i ddod at ei gilydd i drafod a rhannu syniadau”

 

Dywedodd Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai Pryderi ap Rhisiart:

“Mae cael ein hailethol yn Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol dros Ddigidol yng Nghymru yn gyfle cyffrous iawn i M-SParc fod yn rhan o helpu i symud yr agenda ddigidol ymlaen yng Nghymru, gan gydweithio â swyddogion etholedig ac ystod eang o arbenigwyr ar flaen y gad yn y maes hwn. “

“Rydym yn ymwneud â llawer o grwpiau a phrosiectau yn y sector hwn, ac yn teimlo bod ‘mudiad’ yn datblygu y gallwn ni yng ngogledd Cymru ei arwain o’r tu blaen. Mae cyfleoedd clir ym maes Digidol yng Nghymru ar draws ystod o sectorau ond mae yna heriau i’w goresgyn hefyd, ac mae hyn yn rhoi llwyfan inni drafod yr heriau hynny a’r ffordd orau o adeiladu ar y cyfleoedd.”

 

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Fe wnes i fwynhau clywed am y prosiect clwstwr AgriTech a’i nodau yn fawr – dyma’r union fath o weithio cydweithredol sydd ei angen arnom i sicrhau bod y sector yn tyfu yma yng ngogledd Cymru, ac rwy’n gyffrous i’w weld yn datblygu. “