GALW AM ‘YMCHWILIAD ANNIBYNNOL’ GAN AS YNYS MÔN AR ÔL CODI PRYDERON NYRSYS YN Y SENEDD

Ar ôl tynnu sylw at bryderon nyrsys Ysbyty Gwynedd am amodau gwaith a thriniaeth staff, mae Rhun ap Iorwerth yn galw am weithredu gan Betsi Cadwaladr

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn a llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn am weithredu difrifol a brys ar ôl derbyn e-bost dienw yn amlinellu pryderon am yr amodau gwaith o nyrsys yn Ysbyty Gwynedd.

Cododd Rhun ap Iorwerth ei bryderon yn gyntaf gyda’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS yn y Senedd yr wythnos diwethaf, lle gofynnodd am sicrwydd bod y pryderon – sy’n cynnwys bwlio yn y gweithle, y pwysau i symud o feysydd arbenigol i wardiau eraill gyda’r risg o roi cleifion mewn perygl, oriau gwaith afresymol o hir, perthynas wael gyda rheolwyr sydd wedi arwain at forâl isel a llawer o staff yn gadael – yn cael eu cymryd o ddifrif.

O ganlyniad i’r cyfraniad hwnnw yn y Senedd, mae llawer mwy o nyrsys wedi bod mewn cysylltiad ag Aelod Seneddol Ynys Môn, i ddiolch iddo am godi’r mater, ac i rannu eu profiadau’n ddewr, gan adleisio pryderon a godwyd gan y chwythwr chwiban a ddaeth i gyswllt yn wreiddiol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn:

“Roeddwn yn drist iawn o glywed am bryderon difrifol iawn ein nyrsys. Roedd un nyrs wedi casglu tystiolaeth gan ei chydweithwyr a’i drosglwyddo i mi yn ddienw gan eu bod mor ofnus o ôl-effeithiau.

“Wedi i mi ddod â nhw i sylw’r Gweinidog Iechyd yn y Senedd, cysylltodd nyrs ar ôl nyrs gyda mi i gadarnhau a phwysleisio’r pryderon.

“Rwyf felly wedi ysgrifennu at BIPBC, yn galw arnynt i gynnal ymchwiliad annibynnol. Mae’n amlwg i mi fod diffyg ymddiriedaeth ym mhrosesau chwythu’r chwiban y Bwrdd Iechyd, a rhaid rhoi’r cyfle i’n nyrsys gael eu clywed.”

Ymhlith yr ohebiaeth a dderbyniwyd, mae nifer o nyrsys wedi cadarnhau eu bod wedi gadael eu swyddi yn Ysbyty Gwynedd neu’r proffesiwn yn gyfan gwbl, ac mae nifer wedi datgan eu bod wrthi’n ystyried cyflwyno eu rhybudd.

Dywedodd nyrs a gysylltodd i ddechrau a’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn i fynegi ei phryderon:

“Roeddem ni fel gweithlu eisiau codi pryder dienw am ein hamodau gwaith yn Ysbyty Gwynedd a chysylltwyd â Rhun ap Iorwerth i’r perwyl hwnnw.

“Mae ‘burnout’ ar ei uchaf erioed ar y safle ymhlith nyrsys a gweithwyr gofal iechyd eraill, ac nid yw morâl staff erioed wedi bod mor isel. Mae llawer wedi dewis gadael eu swyddi. Rydym eisoes yn gweithio oriau hir ac yna’n teimlo pwysau i gymryd mwy o oriau gwaith – yn aml yn cael ein hadleoli i feysydd lle nad ydym yn arbenigo – i helpu gyda phrinder staff. Mae’n amhosibl meddu ar safon uchel o wybodaeth nyrsio ar gyfer pob arbenigedd y gallai unigolyn fod yn ei gwmpasu o un diwrnod i’r llall.

“Mae’r sefyllfa wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd a bellach wedi cyrraedd sefyllfa argyfyngus.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Yr hyn sy’n peri pryder mwyaf yw’r effaith y mae’r amodau gwaith presennol yn ei chael ar niferoedd a morâl staff. Mae rhai wedi dod i’r casgliad eu bod am adael eu swyddi, a bod llawer eisoes wedi gadael.

“Ar adeg pan rydyn ni’n wynebu prinder staff yn dilyn y pandemig, mae angen i ni fod yn edrych ar ffyrdd newydd o ddenu nyrsys newydd i’r proffesiwn a chynyddu lleoedd hyfforddi. Ond rhaid inni hefyd allu cadw’r staff sydd gennym eisoes, gyda’u profiad a’u gwybodaeth amhrisiadwy.”

 

DIWEDD