YSTADEGAU BRAWYCHUS YN DANGOS NAD YW TARGEDAU’N CAEL EU CYRRAEDD O HYD

Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am chwyldro yn y maes iechyd a gofal i wella amseroedd aros y Gwasanaeth Ieachyd

 

Mae amseroedd aros diweddaraf y GIG wedi’u rhyddhau, ac maent yn datgelu nad yw targedau’n cael eu cyrraedd o hyd.

 

Ar draws yr holl ddata, nid yw targedau’n cael eu cyrraedd, ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn achosi pryder arbennig.

 

Er gwaethaf gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys, y targedau pedair awr a deuddeg awr oedd y trydydd a’r ail isaf ar gofnod, yn y drefn honno. Yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys hefyd oedd yr ail hiraf ar gofnod, sef tair awr a dwy funud.

 

Er bod diagnosis a thriniaeth canser wedi gwella ers y mis diwethaf, mae llawer o welliant i’w wneud o hyd o ran effeithlonrwydd i gleifion Canser.

 

Mae Rhun ap Iorwerth wedi parhau i alw am wneud newidiadau sylfaenol i leihau’r pwysau ar y GIG – mae’r rhain yn cynnwys mesurau ataliol, gwell gofal cymdeithasol i helpu i ryddhau cleifion, buddsoddi yn y gweithlu, a chanolfannau diagnostig a thriniaeth penodol.

 

Dyweddodd Rhun ap Iorwerth AS, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn a llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru:

 

“Wrth ystyried maint y problemau o fewn y gwasanaeth iechyd, boed hynny’n amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth neu oedi mewn ambiwlansys – mae’n rhaid i ni feddwl am y system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Mae llif y cleifion trwy’r system yn aneffeithlon ac mae diffyg capasiti i ddelio â’r galw.

 

“Er mwyn delio â’r galw, mae’n rhaid gweld newid chwyldroadol mewn agweddau tuag at mesurau iechyd ataliol. Er mwyn gwella llif cleifion mae’n rhaid i ni gryfhau gofal cymdeithasol. Ac er mwyn delio â chapasiti, rhaid inni gyflymu’r buddsoddiad mewn gweithlu ac mewn mesurau penodol fel canolfannau diagnostig a thriniaeth y gellir eu diogelu rhag pwysau brys. Heb hyn i gyd, byddwn yn parhau i droi mewn cylchoedd.”

 

DIWEDD