‘CROESAWU TRO PEDOL AR ARIANNU, YNGHYD Â SICRWYDD AR HAWLIAU GWEITHWYR A’R AMGYLCHEDD’

Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn parhau i gyflwyno’r achos dros Gaergybi yn dilyn cyhoeddiad porthladdoedd rhydd

Wrth ymateb i ddiweddariad Llywodraeth Cymru ar eu polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (Dydd Iau, 12 Mai 2022), dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn:

“Dwi’n falch bod cytundeb wedi ei chyrraedd. Roedd cynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU i roi llawer llai o gyllid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru, yn gwbl annerbyniol, ac rwy’n falch o weld tro pedol ar hynny.

“Rydw i’n falch hefyd bod Llywodraeth Cymru yn mynnu – fel yr ydw i wedi ei wneud yn gyson – bod angen sicrhau tegwch i weithwyr a chyfrifoldeb amgylcheddol dan unrhyw gytundeb porthladd rhydd, ac elfen arall bwysig ydi bod Llywodraeth Cymru’n cael ei thrin yn bartner cyfartal.

“Rydw i wastad wedi galw am onestrwydd ar fanteision ac anfanteision porthladdoedd rhydd, ac fel AS Ynys Môn, mi fyddaf, wrth gwrs, yn parhau i wneud yr achos dros sicrhau bod Caergybi a’r ynys ehangach yn y safle cryfaf posib i elwa o hyn.”

DIWEDD

https://llyw.cymru/llywodraeth-cymru-llywodraeth-y-du-yn-cytuno-ynghylch-sefydlu-porthladdoedd-rhydd-yng-nghymru