Rhun ap Iorwerth yn cwestiynu Llywodraeth Cymru am ailagor Lein Amlwch.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi holi’r Prif Weinidog ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ailagor Lein Amlwch – prosiect y byddai’n trawsnewid y dref sydd yng ngogledd ei etholaeth, yn ôl AC Ynys Môn.

Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Mawrth, gwnaeth Mr ap Iorwerth yr achos i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn ailagor Lein Amlwch, gan ychwanegu mai buddsoddiad cymharol fach yw hwn o ystyried cyflwr da’r llinell rhwng Gaerwen ac Amlwch.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Ar fy nhaith bum awr o Fangor i Gaerdydd ddoe, edrychais ar fap o rwydwaith rheilffyrdd Cymru a chael fy atgoffa mai nad rhwydwaith a grëwyd i Gymru ydyw.

“Mae arnom angen buddsoddiad i ehangu’r rhwydwaith er mwyn cysylltu Cymru. Mae angen inni fuddsoddi ar draws llinell arfordir gorllewinol Cymru. Ond mae buddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn ddrud, wrth gwrs.

“Mae angen inni feddwl yn ofalus am y buddsoddiadau hynny. Ond mae yna un buddsoddiad y gallem ei wneud ar unwaith, sydd yn fuddsoddiad cymharol fach, ac yn un a fyddai’n gwella’r rhwydwaith, a hynny yw ailagor y llinell sydd eisoes yno rhwng Gaerwen ac Amlwch yng ngogledd Ynys Môn.

“Byddai agor llinell i Amlwch yn trawsnewid y dref, ac mae gennym gyfle unigryw yma gan fod gennym linell yno yn barod, ac yn un sydd mewn cyflwr da iawn, sydd ddim ond angen ychydig o uwchraddio a chymorth gan Lywodraeth Cymru.”