Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfodydd â Uwch-Swyddogion Santander

Mae cynnal cyfarfodydd â Uwch-Swyddogion Banciau bellach yn ddipyn o norm yn fy nyddiadur yn anffodus. Santander oedd y diweddaraf i fi eu cyfarfod, yn dilyn eu cyhoeddiad i gau’r gangen yn Llangefni ym mis Gorffennaf.

Bu’n gyfle i mi gyfleu’r un neges iddyn nhw ac yr ydw i wedi’i godi â phob banc arall sydd wedi cau’r drws ar gymunedau Ynys Môn – ydi, mae nifer defnyddwyr eu canghennau yn disgyn, ond maen nhw’n parhau yr un mor eiddgar i wneud elw oddi ar gwsmeriaid ym Môn fel pobman arall!

Mae eu penderfyniad yn golygu ei bod yn anoddach i bobl gael cyswllt uniongyrchol â gwasanethau ariannol. Soniais yn benodol am wasanathau morgeisi er enghraifft. Mae llawer yn dal yn teimlo’n fwy cyfforddus yn sgwrs uniongyrchol âg ymgynghorydd, wyneb i wyneb, wrth drafod peth mor fawr a morgais. Heb y cyswllt hwnnw, efallai bod pobl yn colli cyfle i arbed arian ar gynnyrch o’r fath.

Dywedwyd wrthyf nad ydyn nhw’n dymuno mynd drwy’r broses hwn eto’n y dyfodol – sy’n newyddion calonogol i gangen Caergybi am y tro, ond mae fy ffydd yn y sector am eu awydd i chwarae rôl mewn gwarchod buddiannau’n cymunedau yn isel o edrych ar batrwm y blynyddoedd diwethaf. Mi bwysais eto am gyd-weithredu rhwng banciau er mwyn cadw presennoldeb a hygyrchedd o fewn ein cymunedau.

Bu’n gyfle i drafod gwasanethau cyfrwng Cymraeg hefyd. Dwi’n clywed gan lawer sy’n poeni am golli cangen a staff lleol, ac effaith hynny ar y gwasanaethau ddwyieithog sydd ar gael ar hyn o bryd. Wrth i gangen gau, mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i fancio ar-lein. Ond wrth gwrs, gyda gwasanaethau ar-lein ddim ar gael yn Gymraeg, golygu hynny newis iaith bancio i lawer. Roedd yr agwedd yma o’r sgwrs dra-bositif, a trafodom y posiblrwydd o Santander yn datblygu ap bancio dwyieithog fel bod modd i bobl barhau i fancio yn eu iaith cyntaf os yn dymuno gwneud hynny.

Ryw’n cofio chwarter canrif ynol, bod yn rhan o ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gofyn i un o fanciau’r stryd fawr gynnig ‘cashppoints’ yn Gymraeg. “Allwn ni ddim” meddan nhw. Wel, llwyddo wnaeth ein hymgyrch bryd hynny, ac rwy’n edrych ymlaen i weld llwyddiant yn ein hymgyrch am systemau bancio ar lein yn Gymraeg gan y banciau hefyd.