“Mae’r cydbwysedd rhwng darparu gobaith a chodi disgwyliadau ffug yn llinell denau iawn” – Rhun ap Iorwerth yn ymateb i ddiweddariad Cynllun Rheoli Coronafirws

“Mae’r cydbwysedd rhwng darparu gobaith a chodi disgwyliadau ffug yn llinell denau iawn” – Rhun ap Iorwerth yn ymateb i ddiweddariad Cynllun Rheoli Coronafirws

Wrth ymateb i’r diweddariad i Gynllun Rheoli Coronafirws Llywodraeth Cymru ddoe (dydd Gwener 19 Mawrth), dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae gennym ni sefyllfa yng Nghymru lle nad yw busnesau yn aml yn gwybod tan y funud olaf a ydyn nhw’n mynd i allu agor. Hyd yn oed gyda’r canllaw diwygiedig hwn, nid yw’n glir pa feini prawf y mae’n rhaid eu bodloni ar gyfer codi rhai cyfyngiadau.

“Mae’r cydbwysedd rhwng darparu gobaith a chodi disgwyliadau ffug yn llinell denau iawn, ond mae’r ansicrwydd a’r diffyg gallu hwn i gynllunio ymlaen hyd yn oed ychydig wythnosau yn gwneud hyn yn fwy heriol i’r cyhoedd ac i fusnesau.”