AS Ynys Môn yn mynnu bod gwahaniaeth rhwng cyflog gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dod i ben

AS Ynys Môn yn mynnu bod gwahaniaeth rhwng cyflog gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dod i ben

Mae’r AS ar gyfer Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi galw am ddiwygio cyflog, telerau ac amodau i ddod â thriniaeth gyfartal i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Mewn dadl y prynhawn yma (dydd Mercher 17 Mawrth) yn y Senedd, galwodd Rhun ap Iorwerth AS am i wahaniaethau ddod i ben, ac i weithwyr gofal gael isafswm gwarantedig o £10 yr awr.

O dan y trefniadau cyfredol, telir o leiaf y cyflog byw i bob gweithiwr iechyd yn y GIG. Nid yw hynny’n wir yn y sector gofal.

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, gyda gofal cymdeithasol am ddim ar yr angen, gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael yr un graddfeydd cyflog.

Yn nadl y Senedd heddiw, galwodd Rhun ap Iorwerth ar “Lywodraeth nesaf Cymru” i gyflwyno isafswm gwarantedig o £10 yr awr ar gyfer yr holl weithwyr gofal.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n dileu’r gofyniad hwn ac yn ei le, sôn am fforwm newydd – y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol – dywed ei fod yn “edrych ar sut i wella telerau ac amodau yn y sector.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r cyhoedd wedi clapio dros ein gofalwyr, nawr mae’n bryd i’r llywodraeth gamu i’r adwy a rhoi gwerth i’r clapio.”

“Mae Plaid Cymru wedi gwneud ei ymrwymiad i’n gofalwyr – yn y llywodraeth, byddwn yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol gwirioneddol ddi-dor, a fydd yn rhoi’r parch y maent yn ei haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd.

“Os yw’r pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru o ddifrif ynglŷn â hyn, byddant yn cael cyfle i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd heddiw, ac ymrwymo i gyflawni setliad tâl a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £ 10 yr awr i weithwyr gofal.

“I’n gofalwyr, sydd wedi rhoi cymaint i edrych ar ein holau yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn ystod ein hoes, dyma’r lleiaf y gall y llywodraeth ei wn