Mae angen lais i y Sector Gofal gael ei glywed, meddai Rhun ap Iorwerth

Dylid cael “llais” penodol ar gyfer y sector gofal o fewn Llywodraeth Cymru, meddai Plaid Cymru. Cefnogir yr alwad hon gan bennaeth cartref gofal a gollodd 21 o drigolion i COVID-19, ac sy’n dweud bod strwythur y gwasanaeth gofal yn “amlwg o aneffeithiol, astrus a gwastraffus.”

Ategir y galwadau hyn gan Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, sydd wedi galw am gydraddoldeb rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Plaid Cymru yn galw am gadarnhau atebolrwydd dros y sector drwy swyddog penodedig yn y Llywodraeth sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod llais y sector gofal yn cael ei glywed, ac am fwy o atebolrwydd gwleidyddol. O dan y system bresennol, Dirprwy Weinidog yw’r person sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol.

Meddai Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru:

“Mae’r pandemig hwn wedi dangos yn glir fod y sector gofal wedi cael ei esgeuluso am ormod o amser. Dw i am roi cydraddoldeb i’r ddau sector hynny – iechyd a gofal – ac yn wir mae Plaid Cymru eisiau sefydlu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol yn Nghymru.

“Ond dylai’r Llywodraeth geisio llenwi’r bwlch sy’n bodoli lle nad yw gofal yn cael y llais sydd ei angen arno wrth galon gweinyddiaeth y Llywodraeth. Mae Prif Weithredwr y GIG ac y phrif swyddog meddygol wedi bod yn ffigurau amlwg dros y misoedd diwethaf. Mae arnom angen rhywun o statws cyfatebol sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r sector gofal yn mynd yn angof mewn unrhyw ffordd eto.”

Meddai Brian Rosenberg, Cadeirydd Tregwilym Lodge Ltd:

“Mae’n ffaith bod y strwythur a’r system bresennol o ddarparu’r gyllideb gofal a darparu gwasanaethau gofal i bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned wedi’u torri’n gyfan gwbl ers amser hir.

“Mae Covid-19 wedi amlygu methiannau llwyr y strwythurau trafferthus ac anhylaw sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae methiannau yn y broses o reoli PPE, newidiadau mewn Cyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phrofion ysbyty, derbyniadau a gollyngiadau o ysbytai a pholisau eraill wedi arwain at lawer o farwolaethau diangen – gyda 21 yn Tregwilym Lodge yn unig!

“Er ei bod yn amlwg bod buddsoddi mewn gweithwyr sector cyhoeddus i’w groesawu, mae’n siom enfawr bod y Llywodraeth yn parhau i anwybyddu gofal cymdeithasol. Mae’r cyfyngiadau parhaus ar gyllid gofal cymdeithasol yn golygu ei fod yn parhau i fod yn sector gyda cyflog isel. Fel sector sy’n gofalu am drigolion sydd â lefelau uchel o gymhlethdod a aciwtedd mae angen llwybr gyrfaol cryf a llais ar y lefel uchaf.

“Gallai unrhyw un sy’n edrych ar y strwythur hwn weld pa mor aneffeithiol, cymhleth a gwastraffus yw e.”