Mae angen amserlen i adfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghaergybi ar frys, meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Plaid Cymru o Senedd Ynys Mon Rhun ap Iorwerth wedi galw am weithredu ar frys wrth i bryderon barhau ynglŷn â gofal sylfaenol yn ardal Caergybi.

Gyda meddygfeydd Cambria a Longford Road wedi cael eu cymryd drosodd gan y Bwrdd Iechyd yn ddiweddar oherwydd cwymp yn eu gwasanaethau, deellir bod prinder meddygon teulu a staff allweddol eraill yn achosi problemau ym meddygfa arall y dref hefyd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Bwrdd Iechyd ac wedi bod yn pwyso am greu Canolfan Iechyd newydd o’r radd flaenaf ar gyfer y dref a’r ardal gyfagos. Mae wedi gofyn am ystyried hen safle Woolworths, fel safle a allai fod yn hygyrch i bawb ac a allai ddod â bywiogrwydd i ganol y dref hefyd.

Mae yna gynlluniau hefyd i uno meddygfeydd Cambria a Longford Road yn ffurfiol, yn ystod y misoedd nesaf, gyda gwasanaethau i’w lledaenu dros y ddau safle, ond mae’r AS wedi ysgrifennu at Gadeirydd BCUHB yn gofyn pa gamau brys a gymerir nawr i adfer gwasanaethau fel ei bod ar lefel dderbyniol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae’r problemau sy’n wynebu gofal sylfaenol yng Nghaergybi yn hysbys iawn, ac rydw i wedi bod yn ymgyrchu dros weithredu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn y dref yn cael eu hailadeiladu a’u bod unwaith eto’n fwy addas at y diben. Mae angen canolfan iechyd fodern a chynaliadwy newydd gyda staff arnom. Ond yr hyn sy’n fy mhryderu yw ei bod yn ymddangos bod y sefyllfa’n gwaethygu, ac nid yn gwella.

“Mae’r pandemig presennol yn gwaethygu’r broblem, ac yn ei gwneud hi’n anoddach dod o hyd i atebion, ond mae angen gweithredu ar frys. Wrth ysgrifennu at Gadeirydd y bwrdd iechyd, rwyf wedi tynnu sylw at un achos penodol o ŵr bonheddig oedrannus ble mae ei iechyd corfforol a meddyliol yn dirywio trwy fethu â gallu i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb i gael adolygu ei feddyginiaethau.

“Mae angen amserlen glir arnom gan y Bwrdd Iechyd sy’n nodi pa gamau maen nhw’n eu cymryd i adfer darpariaeth gofal sylfaenol llawn yng Nghaergybi, ac rydyn ni ei angen ar frys.”