Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â phroblemau gofal dementia.

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy ar frys i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, a sicrhau eu bod yn gallu derbyn y gofal sydd angen arnynt yn agos i’w cartref ac yn eu hiaith gyntaf, yn ôl Aelod Cynulliad Ynys Mon, Rhun ap Iorwerth.

Mae nifer o achosion wedi cael eu dwyn i sylw AC Plaid Cymru ar Ynys Mon yn ystod yr wythnosau diwethaf, lle gofynnir i gleifion dementia deithio pellteroedd helaeth y tu allan i’w cymunedau i dderbyn gofal, i Loegr mewn un achos penodol, sy’n golygu y byddent methu â derbyn gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Mr ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ddau achlysur ynglŷn ag achosion tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac wedi dwyn sylw’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething at y pryderon.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae angen i ni wneud mwy ar frys i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu derbyn gofal cyn agosed â phosib i’w Cymuned a’i cartref, yn agos at eu teuluoedd ac yn eu hiaith gyntaf, ac rwy’n talu teyrnged i’r teuluoedd sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi yn dwyn sylw at eu hachos nhw, yn gorfod ymladd am y gofal gorau i’w hanwyliaid.

“Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf wrth dderbyn gofal, yn enwedig pobl sy’n byw gyda dementia, ond mae angen gweithredu brys fydd yn mynd i’r afael â’r sefyllfa bryderus yma.

“Mae’r ddarpariaeth yng ngogledd Cymru ar gyfer cleifion dementia yn cael ei ymestyn yn ormodol, yn enwedig ar gyfer rheini gydag anghenion gofal lefel uchel. Ddwy waith yn y ddeufis diwethaf mewn dau achos ar wahan, rwyf wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru ynglyn a gofal i gleifion sydd wedi dweud wrthyn nhw fod rhaid iddynt naill ai deithio pellteroedd helaeth allan o’u cymunedau i dderbyn gofal, neu hyd yn oed orfod mynd i Loegr.

“Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i bobl gael eu trin yn agos at eu cartref ac yn eu hiaith gyntaf, sef y Gymraeg yn aml mewn achosion lleol. Mae’r teuluoedd yr effeithir arnynt yn ofidus iawn ynglyn a’r amgylchiadau y mae eu hanwyliaid yn eu hwynebu wrth geisio am ofal hanfodol. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd am atebion a phenderfyniadau i’r sefyllfa annerbyniol hon.”